Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg (BSc)

  • Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth
  • Côd UCAS: F402
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Lleoliadau - cartref a thramor

Profwch weithgareddau gan gynnwys cloddio, prosiectau amgueddfa a gweithgareddau labordy.

star

Labordai pwrpasol

Cewch ddefnyddio ein labordai a hefyd ein hystafelloedd darlunio a ffotograffiaeth ddigidol.

location

Anturiaethau gwaith maes

Cewch feithrin sgiliau ymarferol a rhoi'r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar waith; darganfod lleoliadau cyffrous a datgelu byd o'r gorffennol.

people

Dan arweiniad y gymuned

Mwynhewch weithgareddau amrywiol gan gynnwys ymweliadau gan siaradwyr rhyngwladol, y Gymdeithas Archaeoleg a digwyddiadau.

A chithau’n fyfyriwr BSc Archaeoleg, byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol, dadansoddol a throsglwyddadwy sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol, gwyddonol, academaidd ac ymchwil – boed hynny ym maes gwyddoniaeth archaeolegol cyffrous sy'n datblygu'n gyflym neu mewn ystod o sectorau eraill. Mae gennym gryfderau penodol mewn perthynas â bioarchaeoleg (astudio gweddillion dynol ac anifeiliaid, dadansoddi DNA ac isotop hynafol), gwyddor deunyddiau (cerameg, metelau a gwydr), archaeoleg ddigidol a thechnegau maes. Byddwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi o ran theori a chymhwyso egwyddorion gwyddonol, data a thechnegau ym maes archaeoleg, o raddfa moleciwlau i gyfadeiladau coffaol. 

Yn y rhaglen pedair blynedd hon, byddwch chi’n treulio’ch trydedd flwyddyn mewn prifysgol y tu allan i’r deyrnas. Byddwch chi’n cael profiad o fyw mewn gwlad wahanol ac ymgysylltu â diwylliannau a thraddodiadau amryfal, gan astudio modiwlau a fydd yn dangos gwahanol elfennau o’ch pwnc.

Bydd ein rhaglen yn cynnig dealltwriaeth gadarn i chi o dechnegau dadansoddol, yn darparu profiad ymarferol wrth gymhwyso a phrosesu data, a'r gallu i ddylunio a chyfleu ymchwil sy'n defnyddio dadansoddiadau gwyddonol i fynd i'r afael â chwestiynau archaeolegol. Byddwn yn eich galluogi i ddilyn eich angerdd a meithrin eich chwilfrydedd, gan archwilio pynciau sy'n bwysig i chi. Drwy gyfuniad o wyddoniaeth a modiwlau thematig neu seiliedig ar gyfnod, byddwch yn gallu lleoli eich hyfforddiant gwyddonol o fewn y cyd-destunau archaeolegol o'ch dewis. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang o archaeoleg Prydain a'r Byd Canoldir, ynghyd â'r cyfle i arbenigo yn eich meysydd o ddiddordeb.

Un o elfennau craidd ein rhaglen yw wyth wythnos o leoliad proffesiynol, fel arfer ar gloddfa archaeolegol, er bod y lleoliadau yn eang eu cwmpas (e.e. labordai, amgueddfeydd ac ati). Cynhelir y lleoliadau cofiadwy hyn yn ystod yr hafau yn dilyn Blwyddyn Un a Blwyddyn Dau, yn y DU a thramor, gan ddatblygu eich sgiliau mewn cyd-destun dilys. Yn ogystal â sgiliau ymarferol wedi'u mireinio yn y maes, a'n cyfleusterau labordy rhagorol, pwrpasol ac sydd newydd eu hadnewyddu, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil allweddol drwy'r prosiect annibynnol yn yr ail flwyddyn. Gyda chefnogaeth un o'n staff arbenigol, byddwch yn cynllunio ac yn ymgymryd â phrosiect ymchwil archaeolegol ar bwnc o'ch dewis.

Byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth eang o gymhwyso data a dulliau gwyddonol, yn ogystal â phrofiad uniongyrchol o'u cymhwyso’n ymarferol, bydd eich sgiliau – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. 

Achrediadau

Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Cyfrifiadura, y Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £25,700 Dim
Blwyddyn dau £25,700 Dim
Blwyddyn tri £25,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd angen dillad addas (e.e. dillad ac esgidiau glaw addas) ac weithiau llety (e.e. pabell a bag cysgu) ar gyfer teithiau maes a gwaith maes. Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas (e.e. dillad ac esgidiau addas) ac weithiau llety (e.e. pabell a bag cysgu) ar gyfer teithiau maes a gwaith maes.  Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r cwrs BSc Archaeoleg yn radd tair blynedd a fydd yn rhoi i chi’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r wybodaeth wyddonol i lwyddo, boed astudio ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, gweithio ym maes archaeoleg a threftadaeth neu weithio mewn meysydd eraill. Mae'n cyfuno sgiliau academaidd, gwyddonol ac ymarferol ac yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a'ch brwdfrydedd.  

Byddwch yn astudio 120 credyd o fodiwlau ym mhob blwyddyn, gan gynnwys dau fodiwl lleoliad proffesiynol 20 credyd, sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r haf. Bydd digon o hyblygrwydd ym mhob un o’r tair blynedd trwy fodiwlau dewisol ym maes archaeoleg a meysydd eraill fel ei gilydd, yn ymdrin â themâu, cyfnodau a dulliau, fel y gallwch chi anelu at drywydd pwrpasol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae blwyddyn 1 yn rhoi sylfaen gadarn i egwyddorion ymarfer archaeolegol a themâu a dulliau dadansoddi gwyddonol ym maes archaeoleg.

Byddwch yn astudio 80 credyd o fodiwlau craidd, a fydd yn eich cyflwyno i'r dulliau archaeolegol a ddefnyddir yn y maes ac yn y labordy ac yn datblygu gwybodaeth am archaeoleg Prydain a Chymdeithasau Môr y Canoldir (yr Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain). Mae'r modiwlau craidd hyn yn gyffredin ar draws y rhaglenni BA a BSc , gan roi'r dewis i chi drosglwyddo o un rhaglen i'r llall ar gyfer blwyddyn 2 os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Bydd y 40 credyd sydd gennych yn weddill yn eich galluogi i roi eich astudiaethau mewn cyd-destun ehangach ac archwilio eich diddordebau, gan astudio modiwlau mewn cadwraeth archaeolegol, hanes yr henfyd neu ganolbwyntio ar astudiaeth ryngddisgyblaethol o ddisgyblaethau'r dyniaethau.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio 80 credyd o fodiwlau craidd, gan ganolbwyntio ar gymhwyso dulliau archaeolegol a dealltwriaeth o fframweithiau ar gyfer dehongli archaeolegol, yn ystod eich ail flwyddyn.

Mae eich lleoliad proffesiynol yn cyfrif am 20 o'r credydau hyn ac yn digwydd yn ystod gwyliau'r haf rhwng eich blwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Bydd y modiwlau craidd sy'n weddill yn ymdrin â chymhwyso gwyddoniaeth archaeolegol ac esbonio a dehongli archaeolegol. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a'ch gwybodaeth drwy ymgymryd â phrosiect ymchwil gwyddoniaeth archaeolegol annibynnol, gyda chefnogaeth lawn gan oruchwyliwr academaidd.

Byddwch yn gallu dewis 40 credyd o fodiwlau dewisol, gan eich galluogi i arbenigo yn archaeoleg y cyfnodau, y rhanbarthau neu'r themâu sydd o ddiddordeb i chi fwyaf.

Blwyddyn tri

Byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau craidd, yn cynnwys ail leoliad proffesiynol (a gynhelir yn ystod gwyliau'r haf rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf) a'r traethawd hir gwyddoniaeth archaeolegol.

Mae eich prosiect blwyddyn olaf yn brosiect ymchwil annibynnol, a gynhelir gyda chefnogaeth goruchwyliwr academaidd, sy'n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth fanwl am eich maes astudio a datblygu sgiliau wrth gymhwyso dulliau archaeolegol ac ymchwil, gan arwain at ysgrifennu erthygl mewn cyfnodolyn gwyddonol i’w hasesu.

Byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau dewisol, gan eich galluogi i ddatblygu sgiliau pellach wrth gymhwyso dulliau gwyddoniaeth archaeolegol a datblygu eich dealltwriaeth o archaeoleg rhanbarthau a chyfnodau penodol. O'r 3 modiwl dewisol hyn, rhaid i o leiaf 3 fod yn seiliedig ar wyddoniaeth. Gallwch ddewis 1 modiwl cyfnod os dymunwch.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel, a gefnogir gan ddull o ennill gwybodaeth a sgiliau lle mae'r ffocws ar y myfyriwr.

Cyflwynir yr addysgu drwy ddarlithoedd, sesiynau labordy, gweithdai rhyngweithiol a thiwtorialau, yn ogystal ag ymweliadau â safleoedd ac adnoddau lleol perthnasol fel Amgueddfa Cymru a sefydliadau treftadaeth lleol. Byddwch yn cael eich addysgu gan staff academaidd arbenigol o bob rhan o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd ac yn ymgysylltu â siaradwyr allanol.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf. Ond, yn gyffredinol maen nhw’n darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, cyflwyniad i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant pwrpasol mewn technegau gwyddonol, sy'n cynnwys datblygu sgiliau ymarferol mewn amrywiol gymwysiadau gwyddonol ym maes archaeoleg. Yn ogystal, byddwch yn ennill sgiliau iechyd a diogelwch ac ymddwyn mewn labordy. Byddwch yn gallu datblygu sgiliau ymarferol arbenigol mewn o leiaf un maes astudio.

Mewn gweithdai a seminarau, byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau mewn grwpiau llai, i dderbyn ac atgyfnerthu adborth ar eich gwaith dysgu unigol ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Byddwch hefyd yn cael eich goruchwylio i'ch cefnogi i gwblhau'r prosiect gwyddoniaeth annibynnol a'r traethawd hir, ond mae disgwyl i chi hefyd gymryd rhan mewn astudiaeth annibynnol sylweddol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob Modiwl yn y Rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd yn helaeth. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig. Byddwch yn cael eu goruchwylio wrth iddyn nhw weithio ar eu traethawd hir. Bydd goruchwyliaeth yn cynnwys trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd, rhoi cyngor ac arweiniad; a darparu adborth ysgrifenedig ar gynnwys traethawd hir drafft.

Adborth
Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad, yn ogystal ag adborth llafar ar gyflwyniadau llafar/poster a asesir, a bydd hyn ar gael cyn pen pedair wythnos i gyflwyno’r gwaith.

Tiwtor Personol

Byddwch yn cael Tiwtor Personol fydd yn gallu eich cynghori ar faterion academaidd a materion bugeiliol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Mae Tiwtoriaid Personol yn cwrdd â chi yn rheolaidd i drafod cynnydd a rhoi cyngor ac arweiniad, ac maent ar gael i ymgynghori â nhw ar adegau eraill yn ôl yr angen. Mae cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad ar gael trwy raglen strwythuredig o Gynllunio Datblygiad Personol a thrwy gyfarfodydd wedi'u trefnu gyda Thiwtoriaid Personol. Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.

Cyfleusterau

Byddwch yn cael mynediad i'n labordai dadansoddol eang fel rhan o'ch addysgu. Mae'r rhain yn darparu cyfres lawn o offer ar gyfer paratoi a dadansoddi samplau archaeolegol gwyddonol ac maent ymhlith y cyfleusterau gorau yn adrannau archaeolegol y DU. Mae gan y llyfrgell hefyd set wych o adnoddau digidol a phapur.

.

Sut caf fy asesu?

Mae pob modiwl wedi'i ddylunio er mwyn darparu profiad academaidd o ansawdd uchel. Mae'r math o asesiad yn amrywio o fodiwl i fodiwl, ond yn cynnwys traethodau, arholiadau, profion dosbarth, cyflwyniadau, asesiadau chwarae rôl a phortffolios.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Bydd y sgiliau sydd wedi’u meithrin a’u hasesu yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amryw yrfaoedd. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar. Cyfeirir asesiad o'r modiwlau thematig tuag at y gallu i gwestiynau a chyd-destunoli tystiolaeth yn ysgrifenedig. Mae dulliau gweithredu'n amrywiol, er mwyn sicrhau llwybrau a phrofiadau penodol, ac maent yn cynnwys traethodau, erthyglau, arholiadau llyfrau agored a dadansoddiad manwl o dystiolaeth yn annibynnol ac mewn grwpiau. Mae gan y modiwlau sgiliau i gyd asesiadau dilys sy'n efelychu gweithgareddau yn y byd go iawn yn y meysydd perthnasol. Uchafbwynt y rhaglen yw'r prosiect blwyddyn olaf, sy'n rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwirioneddol wreiddiol i wyddoniaeth archaeolegol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Gwybod a deall:

GD 1: Asesu'n feirniadol y problemau a'r potensial o ddefnyddio gwahanol ddulliau gwyddonol o ymdrin â data archaeolegol.

GD 2: Cysylltu ymagweddau gwyddoniaeth archaeolegol cyfredol at ddatblygu meddwl archaeolegol, gan gydnabod natur dros dro gwybodaeth.

GD 3: Datblygu fframweithiau damcaniaethol ar gyfer dehongli data gwyddoniaeth archaeolegol.

GD 4: Defnyddio technegau gwyddoniaeth archaeolegol a defnyddio data cynradd/eilaidd i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil a ddiffinnir.

GD 5: Gwerthuso'n feirniadol rôl gwyddoniaeth archaeolegol wrth ddiogelu'r cofnod archaeolegol.

GD 6: Asesu'r berthynas rhwng datblygiad diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol yn y gorffennol yn feirniadol, a'r ffyrdd y gall archaeoleg gyfrannu at ddealltwriaeth y prosesau hynny heddiw.

GD 7: Cymharu a chyfosod archaeoleg amrywiaeth o ranbarthau a chyfnodau cronolegol yn gynhwysfawr.

Sgiliau Deallusol:

I 1: Coladu, disgrifio, cyflwyno a dadansoddi data gwyddonol cymhleth ac anrhagweladwy

I 2: Asesu a gwerthuso ysgolheictod gwyddoniaeth archaeolegol yn feirniadol a chysylltu'r rhain ag ymchwil o ddisgyblaethau gwyddonol eraill

I 3: Gwerthuso'n feirniadol sut mae methodolegau dadansoddol yn cael eu cymhwyso a'r data canlyniadol mewn ymchwil archaeolegol

I 4:  Datblygu ac amddiffyn dadansoddiadau, dadleuon a dehongliadau trylwyr a chadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SYP 1: Cyfrannu'n gymwys at chwilio ac adnabod safleoedd archaeolegol gan ddefnyddio dulliau gwyddonol.

SYP 2: Cymhwyso methodolegau priodol ar gyfer cloddio a chofnodi safleoedd archaeolegol, arteffactau ac ecoffactau.

SYP 3: Cymhwyso dulliau gwyddonol i ddadansoddi a dehongli deunyddiau archaeolegol.

SYP 4: Cynhyrchu adroddiadau gwyddonol/technegol ar ddata cynradd/eilaidd o ddadansoddi arteffactau ac ecoffactau archaeolegol.

SYP 5: Cynnal asesiadau cynhwysfawr a systematig o oblygiadau iechyd a diogelwch a moesegol ymchwil maes ac yn y labordy yn unol â safonau proffesiynol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

ST/A1: Cyfleu gwybodaeth dreftadaeth gymhleth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd drwy ystod o gyfryngau.

ST/A2: Cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a safonau proffesiynol mewn amgylchedd labordy ac yn allanol.

ST/A3: Casglu, asesu'n feirniadol a chyfosod ystod o adnoddau ymchwil a data gwyddonol.

ST/A4: Sicrhau bod data gwyddonol yn cael ei gynhyrchu’n foesegol a’i fod yn gywir.

ST/A5: Cymhwyso sgiliau TG, rhifedd a chyflwyno ymarferol mewn sefyllfaoedd cymhleth.

ST/A6: Asesu'n gynhwysfawr oblygiadau moesegol ymchwil.

ST/A7: Gweithio ar y cyd tuag at nod diffiniedig.

 

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli ar lefel graddedigion.

Mae graddedigion diweddar o'r ysgol wedi mynd ymlaen i rolau ym meysydd archaeoleg, y sector treftadaeth, addysgu ac addysg, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, y gyfraith, adnoddau dynol a'r sector elusennol, gyda chyflogwyr yn amrywio o Amgueddfa Cymru a Oxford Archaeology East, i awdurdodau ac ysgolion y Cyngor Sir. Mae'r rhai sydd wedi dilyn llwybr i archaeoleg a threftadaeth yn gweithio mewn rolau fel archaeolegwyr maes yn ymgymryd â gwaith cloddio, arolygon neu waith ôl-gloddio, fel ymgynghorwyr treftadaeth, cynghorwyr archaeolegol awdurdodau lleol a churaduron amgueddfeydd.

Yn ystod eich gradd, gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan wasanaeth Dyfodol Myfyrwyr y brifysgol, wedi'i wella gan Swyddog Cyflogaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Archeolegydd Maes
  • Darlithydd
  • Cadwraethwr Treftadaeth

Lleoliadau

Byddwch yn elwa ar ddau fodiwl lleoliad proffesiynol 20 credyd. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau ymarferol pedair wythnos (fel arfer ar waith cloddfa archaeolegol yn ystod gwyliau'r haf) ar waith maes archaeolegol, amgueddfa, archifol, ôl-gloddio neu brosiect labordy ym Mhrydain neu dramor. Yn gyffredinol, rydym yn cynnig profiad mewn ystod eang o brosiectau sy'n ymdrin â gwahanol gyfnodau archaeolegol ac arbenigeddau. Caiff lleoliadau eu teilwra i ddatblygu sgiliau archaeolegol a throsglwyddadwy (e.e. gwaith tîm, cyfathrebu, arweinyddiaeth).

Cynigir cyfleoedd pellach ar gyfer lleoliadau amrywiol, pwrpasol mewn modiwlau cyflogadwyedd dewisol ar draws yr ysgol ym mlynyddoedd 2 a 3. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod semestrau a’r tu allan iddynt.

Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i leoliadau ac interniaethau ar y campws, o leoliadau 35 awr rhan-amser sy’n cyd-fynd â'ch astudiaethau i leoliadau haf cyflogedig. At hynny, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer profiad gwaith.

Gwaith maes

Gwneir prosiectau gwaith maes blynyddoedd dau a tri yn ystod yr haf cyn y blynyddoedd academaidd blaenorol hynny.  Caiff y prosiectau gwaith maes eu haddysgu drwy bedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archaeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.