Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr sy’n ofalwyr

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau cymorth ar gael i helpu ein myfyrwyr sy'n ofalwyr i reoli eu hastudiaethau ynghyd â'u rôl gofalu.

Ydy'r cymorth hwn yn iawn ar eich cyfer chi?

Efallai na fydd rhai myfyrwyr yn ystyried eu hunain yn ‘ofalwyr swyddogol'. Rydym ni’n cydnabod gofalwyr fel y rheiny “sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch neu anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth” (diffiniad gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr).

Gall rôl ofalu amrywio'n sylweddol, ond bydd yn cynnwys y canlynol:

  • tasgau ymarferol, megis coginio, gwaith tŷ a siopa
  • gofal corfforol, megis helpu rhywun allan o'r gwely
  • gofal personol, megis helpu rhywun i wisgo
  • helpu rhywun i gymryd eu meddyginiaeth
  • rheoli cyllideb y teulu
  • rheoli presgripsiynau a meddyginiaeth
  • helpu rhywun i gyfathrebu
  • gofalu am frodyr a chwiorydd
  • darparu cymorth emosiynol.

Gwneud cais ar gyfer cwrs

Pan fyddwch chi’n trefnu i fynd i Ddiwrnod Agored byddwch chi’n cael y cyfle i ddatgelu eich bod yn ofalwr. Os byddwch chi’n gwneud hyn, byddwch chi’n cael eich gwahodd i gwrdd â'n tîm cyswllt ac ehangu cyfranogiad pwrpasol a fydd yn ateb eich cwestiynau am gymorth yn y Brifysgol.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i fynd i brifysgol drwy UCAS cewch y cyfle i ddatgelu eich bod yn ofalwr. Byddem yn eich annog i dicio’r blwch ‘ie’ wrth y cwestiwn hwn er mwyn i ni allu cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ynghylch y cymorth sydd ar gael i chi.

Os nad ydych chi’n barod hyd yn hyn i astudio ar gyfer gradd mae tîm yr Adran Addysg Broffesiynol Barhaus yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser, a hynny ar lefelau ac ar adegau sy’n gyfleus i chi. Nid oes gofynion mynediad ynghlwm wrth lawer o’r cyrsiau hyn, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw diddordeb yn y pwnc a’r parodrwydd i’w astudio yng nghwmni pobl eraill. Mae'r  yn ffordd arall o ennill cymwysterau Safon Uwch a mynediad gan fod y rhaglen yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffordd debyg i gyrsiau israddedig yn y flwyddyn gyntaf.

Cysylltwch â nhw yn outreach@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch nhw ar 02920 870000.

Cyllid

I gael gwybodaeth am ein Bwrsariaeth Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr gweler ein tudalen Bwrsariaeth Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr. .

Cymorth Pontio

Mae'n bwysig i ni fod eich proses pontio i'r brifysgol yn haws o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad os bydd gennych chi gwestiynau cyn i chi ddechrau.

Mae ein Tîm Allgymorth yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'ch helpu i baratoi ar gyfer y Brifysgol. Darllenwch eu tudalennau ynglŷn â chymryd rhan i weld pa brosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw.

Os ydych chi wedi nodi eich bod yn ofalwr ar eich cais UCAS bydd ein swyddog cyswllt pwrpasol yn cysylltu â chi i ateb eich cwestiynau cyn i’r cwrs ddechrau a gall eich cyfeirio at wasanaethau yn y brifysgol y bydd eu hangen arnoch chi hwyrach.

Cymorth tra byddwch chi’n astudio

Ein nod yw meithrin profiad rhagorol a chefnogol ar gyfer myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus i bawb. Rydyn ni’n cynnig cymorth pwrpasol ar ben y cymorth bywyd y myfyrwyr cyffredinol i bob myfyriwr.

Lena Smith yw'r cyswllt pwrpasol ar gyfer myfyrwyr sydd yn ofalwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n rhoi’r cymorth canlynol drwy gydol eich astudiaethau:

  • cymorth wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr a grantiau a bwrsariaethau eraill
  • cymorth o ran materion academaidd, gan gynnwys cysylltu â'ch adran academaidd a helpu myfyrwyr i fod yn ymwybodol o sut i wneud cais am amgylchiadau esgusodol os bydd angen
  • rhoi cymorth o ran tai
  • cyfeirio at dimau myfyrwyr prifysgol eraill y brifysgol megis Gwasanaeth Anabledd y Myfyrwyr, Iechyd a Lles neu sgiliau astudio
  • cynnal digwyddiadau a gweithgareddau a bod ar gael i gael sgwrs os bydd angen.

Mae ein gwasanaethau Llyfrgell yn cynnig cymorth ychwanegol i bob gofalwr a ddatgelir i ni gydag estyniadau Llyfrgell, person enwebedig i gasglu llyfrau i chi ac i lyfrau gael eu postio atoch.

Mae nifer o gynlluniau benthyca dwyochrog yn bodoli rhwng Caerdydd a llyfrgelloedd prifysgolion eraill, sy'n galluogi myfyrwyr ac ymchwilwyr i ymweld â llyfrgelloedd eraill ac ymuno â nhw, a defnyddio eu hadnoddau.

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau wrth raddio rydym yn cynnig pecyn i fyfyrwyr sy’n ofalwyr sydd wedi cael cefnogaeth gennym ni. Mae ein pecyn presennol yn cynnwys talu cost hurio’r wisg raddio.

Gall ein tîm Dyfodol Myfyrwyr roi cymorth am hyd at dair blynedd ar ôl i chi raddio, a fydd yn cefnogi eich camau nesaf ar ôl ein gadael.

Mae perthynas â Phrifysgol Caerdydd yn un am oes, a gallwch barhau i fod yn gysylltiedig â ni a bod yn rhan o'n cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr.

Dolenni defnyddiol

Dyma rai dolenni defnyddiol i'ch helpu i'ch cefnogi:

Cysylltu â ni

Lena Smith