Bwrsariaeth Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr
Mae'r Fwrsariaeth i Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr yn cynnig cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr sy'n ofalwyr, am eu bod yn fwy tebygol o wynebu costau uwch a heriau mwy o ganlyniad i orfod ymdopi â rôl gofalwr ochr yn ochr ag astudio.
Bod yn gymwys
Mae’r fwrsariaeth hon ar gyfer Oedolion Ifanc Israddedig sy’n Ofalwyr sy’n:
- Ymgymryd â chwrs amser llawn, israddedig wnaeth ddechrau ym mis Medi 2018 neu'n hwyrach.
- Cymwys ar gyfer cyllid cartref y DU at ddibenion costau byw
- 25 oed neu'n iau ar ddechrau’r cwrs
Bydd gofalwyr sy'n gymwys yn cael eu hasesu fesul achos.
Swm a ddyfarnwyd
£3,000 dros gyfnod eich cwrs. Gellir gwneud y taliadau hyn ar ben Bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth
I gael mwy o fanylion am y wobr hon, cysylltwch â Lena Smith.