Ewch i’r prif gynnwys

Grwpiau blaenoriaeth yn gynnwys pobl â phrofiad o fod mewn gofal, a gofalwyr sy'n oedolion ifanc

Rydyn ni’n datblygu rhaglenni i helpu gofalwyr ifanc a phobl ifanc â phrofiad o ofal i gyflawni eu potensial

Dyfodol Hyderus - Pobl â phrofiad o fod mewn gofal

Nod y Prosiect yw meithrin hyder a chefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i wireddu eu potensial a gwneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol.

Mae'r prosiect yn cael ei ailddatblygu drwy gydol blwyddyn academaidd 2023 a chaiff ei lansio o’r newydd ym 2024. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn, neu ein helpu i ddatblygu'r prosiect, cysylltwch â ni:

Tîm Ehangu Mynediad

Dyfodol Hyderus - Gofalwyr sy'n oedolion ifanc

Ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu rhaglen yn benodol ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion ifanc.

Hoffem glywed gan ofalwyr ifanc i sicrhau bod y rhaglen newydd yn diwallu eu hanghenion. Os hoffech chi ein helpu i ddatblygu'r prosiect hwn, cysylltwch â ni:

Tîm Ehangu Mynediad