Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth Plant Newydd-anedig

Mae'r modiwlau ar-lein hyn yn darparu addysg Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i ymarferwyr, hyfforddeion, staff nyrsio a pharafeddygol mewn ysbytai yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â gofal amlddisgyblaethol plant newydd-anedig a phlant ifanc iawn.

Mae modiwlau annibynnol yn ffordd wych o wella eich gwybodaeth a chyfrannu at eich portffolio datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus yn rhoi credyd sefydliadol i chi, ond nid yw'r modiwlau unigol a restrir yma wedi'u cynllunio i adeiladu tuag at ddyfarniad penodol (e.e. PGCert/PgDip/MSc). Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio sy'n arwain at ddyfarniad a enwir, edrychwch ar ein MSc Arferion sy’n Datblygu ym maes Neonatoleg.

Bydd yr asesu yn cynnwys ystod o ddulliau gan gynnwys profion gwybodaeth a dealltwriaeth (Cwestiynau Amlddewis, Profion Gwrthrychol, Profion Atebion Byr), myfyrio personol ynghylch ymarfer, cyfraniadau at drafodaethau sy’n seiliedig ar achosion a gwaith ysgrifenedig.

Nod y modiwl hwn yw astudio’r cysyniadau craidd ynghlwm wrth ofal niwrolegol i blant newydd-anedig.  Byddwch chi’n astudio cylchrediad hylif yr ymennydd (CSF), gwendidau ymennydd y plentyn newydd-anedig a enir cyn amser a’r gwahaniaethau penodol rhwng anaf i’r ymennydd y plentyn newydd-anedig a enir cyn amser a’r plentyn a enir ar amser. Ymhlith y cyflyrau pwysig a fydd yn cael eu trafod y mae IVH, PVL ac HIE. Ymhlith yr achosion o anaf i'r ymennydd ar amser fydd yn cael sylw y mae strôc, haint a hyperbilirubenemia.

Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar yr hyn sy’n achosi ffitiau plant newydd-anedig, a’u rheoli. Drwy gydol y cyfnod, agwedd allweddol i'w hystyried fydd canlyniadau tymor hir anaf i'r ymennydd a’r penderfyniadau clinigol cysylltiedig, a chyfleu'r rhain yn effeithiol i gydweithwyr a rhieni.

Nod y modiwl hwn yw astudio’r cysyniadau creiddiol ynghlwm wrth ofal niwrolegol plant newydd-anedig.  Byddwch chi’n astudio gofynion maethol plant newydd-anedig ac yn trafod manteision llaeth y fron. Bydd cymhariaeth o’r dulliau bwydo a dulliau priodol gwahanol ynghlwm wrth gynyddu bwydo’r plentyn yn cael ei ystyried yn ôl yr amgylchiadau.

Ymdrinnir â’r pathoffisioleg, y ffactorau risg a’r diagnosis o Enterocolitis Necrotig (NEC) ynghyd ag astudio strategaethau atal, rheoli meddygol/llawfeddygol a chymhlethdodau tymor hir NEC.

Mae penderfynu pryd i gludo baban newydd-anedig neu blentyn a sut i sicrhau'r safonau diogelwch a gofal uchaf posibl wrth wneud hynny yn ystyriaethau hollbwysig i unrhyw system gofal iechyd. Bydd y modiwl yn ystyried y manteision a'r cyfiawnhad ar gyfer trefnu gwasanaethau iechyd yn ganolog neu ddosbarthu’r rhain.

Bydd trafodaeth ynghylch pwysigrwydd a natur asesu risgiau wrth gludo plant, gan gynnwys cyflymder o’i gymharu â diogelwch.  Bydd gwaith tîm a chyfathrebu effeithiol, dewis yr aelodau o staff priodol, yr adnoddau sydd eu hangen i gludo’n ddiogel ac yn effeithiol a'r effaith ar wasanaethau lleol yn cael eu hystyried hefyd.

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ganslo modiwl unigol. Gallai hyn ddigwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gyfer cwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Digwydd hyn oherwydd bod angen lleiafswm o fyfyrwyr ar rai modiwlau cyn y gellir eu cynnal. Diben hynny yw gwneud yn siŵr y gellir cynnal addysg o safon briodol. Os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n rhoi ad-daliad llawn neu rannol gan ddibynnu ar a gynhaliwyd dosbarthiadau neu beidio.

Gofynion mynediad

Yn ogystal â bodloni isafswm gofynion mynediad y Brifysgol, gan gynnwys gofynion o ran Saesneg, mae'n rhaid bod ymgeiswyr:

  • yn meddu ar gymhwyster mewn pwnc clinigol perthnasol
  • yn gweithio mewn maes clinigol perthnasol ar hyn o bryd

Dylai’r ymgeiswyr nad ydyn nhw’n bodloni'r gofynion uchod gysylltu â’r Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth i gael cyngor.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr i Gyrsiau Ôl-raddedig i gael manylion ar sut i wneud cais.

Cyllid a ffioedd

Ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu ar gyfer y rhaglenni hyn.

Postgraduate Taught Admissions Team

School of Medicine