Ewch i’r prif gynnwys

Judith Fabian

Ms Judith Fabian - Aelod o'r Cyngor
Ms Judith Fabian - Aelod o'r Cyngor

Ganwyd a magwyd Judith Fabian ym Mhorth-cawl ar arfordir de Cymru. Graddiodd o Brifysgol Nottingham gyda BA yn y Gyfraith.

Gweithiodd am gyfnod byr ym myd diwydiant cyn gwneud cwrs TAR mewn Saesneg a Drama yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain.

Gwnaeth MA mewn Iaith a Llenyddiaeth mewn Addysg yno hefyd. Dysgodd Judith Saesneg a drama mewn ysgolion uwchradd yn nwyrain Llundain am ddeng mlynedd, a daeth yn Ddirprwy Bennaeth hefyd yn Waltham Forest. Yn 1990 symudodd i yrfa mewn addysg ryngwladol fel Pennaeth Ieithoedd yn Amman, Gwlad yr Iorddonen, ac yn bennaeth ysgolion uwchradd yn Dar es Salaam, Tanzania, a Munich, yr Almaen.

Yn 2004 ymunodd â sefydliad y Fagloriaeth Ryngwladol (IB) lle cafodd ddyrchafiad i ddod yn Brif Swyddog Academaidd, yn gyfrifol am lunio a datblygu'r cwricwlwm IB i fyfyrwyr o 3 i 19 oed, gan weithio yn yr Hag erbyn y diwedd. Roedd hi'n rhan o'r Uwch Dîm Arwain gyda'r Fagloriaeth Ryngwladol am saith mlynedd yn ystod cyfnod o ad-drefnu llwyr a thwf sylweddol.

Ers gadael y Fagloriaeth Ryngwladol yn 2014, mae Judith wedi dychwelyd i dde Cymru ac wedi awduro erthyglau a phenodau ar y cwricwlwm IB, ac wedi cydolygu tri llyfr ar weithredu rhaglenni IB mewn ysgolion. Mae hi'n ymgynghorydd addysgol ac wedi arwain gweithdai ar ddysgu sy'n canolbwyntio ar y plentyn a dysgu gweithredol yng Ngwlad yr Iorddonen ac India.