Ewch i’r prif gynnwys

Dr Robert Weaver

Dr Robert Weaver - Member of Council
Dr Robert Weaver - Member of Council

Ymunodd Dr Robert Wilton Weaver â Chyngor Prifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2023. Ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.

Mae Robert yn Beiriannydd Siartredig, yn Gyfrifydd Siartredig ac yn Archwilydd Mewnol Siartredig. Mae wedi gweithio'n helaeth ym maes Archwilio Mewnol, Rheoli Risg a Sicrwydd yn ystod gyrfa 27 mlynedd o hyd. Ar hyn o bryd Robert yw Cyfarwyddwr Archwilio a Sicrwydd Tata Steel y DU ac mae'n Aseswr Rhagoriaeth ym maes Busnes Rhyngwladol (model Baldrige).

Mae Robert yn eiriolwr cryf dros Archwilio Mewnol ac roedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Archwilwyr Mewnol (IIA) Cymru ac mae’n wirfoddolwr ar gyfer Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol. Mae Robert hefyd yn frwd dros hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer plant ac roedd yn ymddiriedolwr ar gyfer Cadetiaid Tân Port Talbot ac yn Aseswr ar Alldeithiau’r Wobr Dug Caeredin.

Mae Robert yn Gymro Cymraeg, bu iddo ddysgu’r iaith yn oedolyn ac mae’n gyn-fyfyriwr yn y Brifysgol; fe raddiodd o’r Ysgol Peirianneg gyda Doethuriaeth ym maes Peirianneg (EngD) ar Ailgylchu Sgrap Dur Wedi’i Haenu’n Organig/ â Metal.