Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB.
Yn ystod y tymor, mae’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 08:00 i 20:00 a dydd Sadwrn 10:00 i 16:00.
Mae’n gartref i’n gwasanaethau cymorth rhad ac am ddim, diduedd a chyfrinachol. P'un a ydych chi'n chwilio am gyngor ar gyllid, help gyda'ch iechyd a'ch lles, neu wybodaeth am yrfaoedd a chyflogaeth, mae ein timau Bywyd Myfyrwyr wrth law i helpu.
Ar ben hynny, bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynnwys ein darlithfa fwyaf newydd a’r un fwyaf o ran maint, a llawer o leoedd astudio cymdeithasol dros bum llawr. Mae'r adeilad ar gyfer pob myfyriwr, wedi'i gynllunio gyda'ch profiad mewn golwg.
Hygyrchedd
Rhaid i chi beidio ag ymweld â’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr os oes gennych symptomau neu os ydych wedi profi’n bositif am COVID-19, neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru wedi dweud wrthych am hunanynysu.
Cynghorir pob ymwelydd i wisgo gorchuddion wyneb tra mewn mannau addysgu, mannau sy'n hygyrch i'r cyhoedd, ac unrhyw le na ellir cadw pellter corfforol.
Parcio
Mae gan Gaerdydd gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da a llwybrau beicio a cherdded. Rydym yn annog pawb i deithio drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy lle bo hynny'n bosibl, gan gefnogi Cymru i sicrhau dyfodol carbon isel. Darllenwch ein Cynllun Teithio.
Mae modd parcio ar y strydoedd cyhoeddus ger Parc y Plas, lle gall deiliaid bathodyn glas barcio yn rhad ac am ddim.
Parcio beiciau
Mae 62 o leoedd parcio beiciau ar gael. Mae hyn yn cynnwys 8 rhesel Beiciau Sheffield, a 54 o fannau beic fertigol.
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.