Ap myfyrwyr
Y ffordd hawdd o gynllunio eich diwrnod, cadarnhau lle mae angen i chi fod, a chael help a chymorth.
Gallwch ei lawrlwytho o’r App Store ® (iOS) neu siopau Google Play™:
Nodweddion
Ewch chi fyth ar goll eto gyda’n mapiau o’r campws.
Gallwch storio eich hoff leoedd a chael gwybod pa gyfleusterau eraill sydd gerllaw.
Mae cynlluniau ar gael ar gyfer:
- Ysgolion Academaidd
- Llety
- Bwyd a diod
- Llyfrgelloedd
- Cyfleusterau chwaraeon.
Cewch chi ddefnyddio gwasanaethau’r llyfrgelloedd drwy’r ap, gan gynnwys benthyg a gofyn am lyfrau a chyfnodolion, gofyn am fenthyg rhwng llyfrgelloedd, a dod o hyd i lyfrgell.
Hefyd, gallwch chi ddefnyddio’r sgwrs fyw yn yr ap, sef Gofyn i Lyfrgellydd (dydd Llun-dydd Gwener 09:00-21:00 a dydd Sadwrn-dydd Sul 10:30-17:00).
Gweld eich amserlen addysgu lle bynnag, pryd bynnag.
Dewch o hyd i gyfrifiaduron ar draws y campws, yn ogystal â sganwyr, argraffwyr lliw a llungopiwyr.
Gallwch arbed amser ac osgoi ciwiau gan wirio a yw’r peiriannau golchi a sychu ar gael yn eich golchdy lleol.
Gwybodaeth, gwasanaethau cefnogi a digwyddiadau i'ch helpu i reoli'ch iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol.
Cewch fanylion cyswllt ar gyfer gwahanol dimau yn y Brifysgol sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth.
Adnoddau hunan-gymorth ar gyfer gorbryder, iselder, anhwylderau bwyta, ymosodiad rhyw, trais, straen a meddyliau hunanladdol.
Cewch y newyddion diweddaraf i fyfyrwyr a hysbysiadau pwysig yn uniongyrchol i’ch ffôn.
Dewch o hyd i apiau eraill sy’n berthnasol i’r Brifysgol i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich profiad fel myfyriwr, gan gynnwys Outlook (ar gyfer ebostio) a Blackboard (ar gyfer Dysgu Canolog).