Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu gyda'n gilydd

Rydyn ni’n credu bod yr addysg orau yn digwydd mewn partneriaeth

Mae ein hathrawon a'n myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i lunio profiad dysgu sy'n cael effaith - arnyn nhw, ar eu dyfodol ac ar y byd.

Ac rydyn ni’n gweld yr effaith honno wyddyn ar ôl blwyddyn ymhlith ein myfyrwyr, sy'n cydnabod ac yn dathlu'r unigolion sydd wedi ysbrydoli a thrawsnewid y bennod hon yn eu bywydau.

Ein profiadau

Dr. Stephen Hiscox a Isabel Nwagu

Dr Steve Hiscox ac Isabel Nwagu o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol sy'n trafod pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant o fewn ymchwil canser.

Dr Sarju Patel a Hannah Cox

Dr Sarju Patel a Hannah Cox o'r Ysgol Meddygaeth sy'n trafod pwysigrwydd gonestrwydd, a pam mae pobl ifanc yn penderfynu dod yn ddoctoriaid.

Dr Jenny Benham a Charlotte Willis

Dr Jenny Benham a Charlotte Willis o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy'n trafod pwysigrwydd dysgu am ddiwylliannau a chymdeithasau eraill.