Ewch i’r prif gynnwys

Pafiliwn Grange

Yn 2014, lluniodd trigolion Grangetown weledigaeth gyffredin. Roeddent am wneud Grangetown yn lle mwy cyfeillgar, gyda gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau lle'r oedd pawb yn dod at ei gilydd mewn gofod i’w rannu.

Big Lottery

Hanes y prosiect a chyllid ailddatblygu

Lluniwyd cynllun i ailddatblygu Pafiliwn a llain Fowlio Grange a godwyd yn 1962, a chreu adeilad a thir dynamig, amlbwrpas. Yn ystod haf 2017, gan ddefnyddio adborth a syniadau gan drigolion Grangetown a rannwyd dros y bum mlynedd ddiwethaf, cyflwynodd y Porth Cymunedol ail gam eu cais i'r Gronfa Loteri Fawr a cheisiadau i nifer o gyllidwyr eraill, i helpu i wireddu’r weledigaeth i gael cyfleuster cymunedol tymor hir.

Bu'r Porth Cymunedol a phartneriaid yn cydweithio gyda Dan Benham Architects, Grwp IBI a CDF Planning ar y cais cynllunio gyda chynnig i ailwampio'r Pafiliwn yn llwyr a chodi ychwanegiad un llawr ar ymyl dwyreiniol y Llain Fowlio, gan greu cyfleuster gyda chaffi, tri man y gellir eu harchebu, toiledau sy’n hygyrch i ddefnyddwyr y parc, a lleiniau garddio cymunedol yn amgylchynu tir gwyrdd.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn ystod haf 2019 ac fe'i cwblhawyd yn ystod haf 2020, ar ôl cael ei ohirio oherwydd y cyfnod clo cyntaf pan darodd pandemig COVID-19. Mae'r gwaith wedi arwain at gyfleuster cymunedol amlbwrpas yng nghanol y ward fwyaf amrywiol yng Nghymru, sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant, hybu iechyd a datblygu mentrau, gyda chaffi, swyddfa a mannau cyfarfod. Ceir cynlluniau hefyd i wella'r safle presennol er mwyn creu mannau gwyrdd hygyrch, perllan a gardd beillio.

Grange Pavilion, before and after redevelopment.
Grange Pavilion, before and after redevelopment.

Cymdeithas Gorfforedig Elusennol Pafiliwn Grange (CIO)

Mae CIO Pafiliwn Grange yn cynnwys cynrychiolaeth o Brifysgol Caerdydd, RSPB, Coleg Caerdydd a'r Fro, Clwb Rotari Bae Caerdydd a Tai Taff, fydd yn sicrhau ymrwymiad tymor hir i gynaladwyedd y sefydliad. Rhaid i o leiaf 60% o'r bwrdd fod yn drigolion Grangetown, yn ôl y cyfansoddiad.

Trosglwyddodd Cyngor Caerdydd berchnogaeth Pafiliwn Grange i Brifysgol Caerdydd ar drwydded blwyddyn i ddechrau yn ôl yn 2016. Ers hynny, mae'r Brifysgol wedi parhau'n Warcheidwad Asedau a bydd yn cefnogi Trosglwyddiad Asedau Cymunedol y brydles 99 mlynedd i CIO Pafiliwn Grange erbyn diwedd y cyfnod cyllido o bum mlynedd (2024).

Gwyliwch fideo 'Dathlu lansiad ar-lein Pafiliwn Grange'

Sut y bydd Pafiliwn Grange o fudd i Grangetown

Agorodd Pafiliwn Grange yn swyddogol ar 5 Hydref 2020, ond dim ond am naw wythnos cyn yr ail gyfnod clo ym mis Rhagfyr 2020. Ail-agorodd Pafiliwn Grange o'r diwedd ar 2 Mai 2021 a chafodd flwyddyn lwyddiannus dros ben gyda llawer o drigolion Grangetown, grwpiau cymunedol a grwpiau Prifysgol yn defnyddio'r cyfleuster.

Angerdd y gymuned dros y gymuned oedd man cychwyn y prosiect, a dyma fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at nifer o resymau pam fod agor y pafiliwn mor fuddiol:

  1. Bydd yn cynnig man cyfarfod niwtral. Mae Grangetown yn hynod amrywiol, gyda thrigolion o lawer o gefndiroedd crefyddol, gwleidyddol a diwylliannol gwahanol.  Fel man niwtral ac agored, bydd y pafiliwn yn rhywle lle bydd croeso i bawb a lle gall pawb greu cysylltiadau a sbarduno sgyrsiau. Nid yn unig y bydd y caffi cymunedol, The Hideout, yn gweini'r coffi a'r cacennau gorau yn y dref, ond bydd hefyd yn gweithredu Coffi gyda Chydwybod lle gall pobl brynu diod neu bryd o fwyd i rywun mewn angen. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol fel y Caffi Diwylliant, lle gall pobl ymgasglu a thrafod eu diwylliannau a'u hieithoedd ei gilydd, a'r Caffi Atgyweirio, lle gall pobl ddod â phethau i'w trwsio am ddim.
  2. Bydd yn cynnig lle ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Mae Pafiliwn Grange wedi derbyn llawer o archebion fel dosbarthiadau yoga, dosbarthiadau iaith, gweithdai celf a ffitrwydd dawns, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau i helpu i wella iechyd a lles, addysg, cyflogaeth (a mwynhad wrth gwrs!). Mae'r cyfraddau llogi'n rhesymol iawn, gyda gostyngiad i elusennau a sefydliadau trydydd sector.  I breswylwyr sy'n cynnal gweithgareddau am ddim i'r gymuned, does dim cost am yr ystafell er mwyn annog gweithredu cymunedol a chynaladwyedd lleol.
  3. Bydd yn ganolbwynt ac yn gefnogaeth i ddigwyddiadau cymunedol. Bob blwyddyn cynhelir digwyddiadau yn Grangetown fel yr Iftar Cymunedol a Gŵyl Grangetown. Bydd y pafiliwn yn cefnogi digwyddiadau blynyddol a drefnir gan y gymuned drwy ddarparu ystafelloedd ac amwynderau, byrddau a chadeiriau, cysgod ar ddiwrnodau poeth a chysgod rhag y glaw.  Bydd gan Farchnad Byd Grangetown a Fforwm Busnes Grangetown gartref parhaol yn y pafiliwn, fel y bydd yr wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl ac Wythnos Diogelwch.
  4. Bydd yn gartref i sefydliadau Grangetown. Y pafiliwn fydd cartref swyddogol Prosiect Pafiliwn Grange, Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown, gan gynnig cyfleoedd i aelodau'r gymuned ymgysylltu'n well â grwpiau lleol ac annog mwy a mwy o bobl i gymryd rhan yn eu cymuned.
  5. Bydd yn cynnig lle i dyfu ac i chwarae. Mae'r mannau awyr agored o gwmpas Pafiliwn Grange yr un mor bwysig â'r tu mewn, gyda'r tir wedi'i gynllunio i wneud y mwyaf o'r mannau gwyrdd, annog bioamrywiaeth a chyfleoedd i dyfu bwyd.  Bydd llain werdd ar gyfer chwarae, ymarfer corff a digwyddiadau cymdeithasol, pum pwll dŵr glaw yn cadw at egwyddorion cynllun draenio dŵr arwyneb Grangetown Werddach, dôl blodau gwyllt gyda'r deg planhigyn gorau ar gyfer peillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw, rhandir â gwelyau wedi'u codi i dyfu ffrwythau a llysiau a pherllan gyda chwe choeden ffrwythau.  Mae'r Grŵp Garddio yn cyfarfod bob bore Mawrth a Sul, ac wastad yn chwlio am wirfoddolwyr i helpu gyda chynnal a chadw a thyfu tymhorol yn yr ardd gymunedol. Gall trigolion Grangetown ddod i fwynhau'r ardal awyr agored a'i thrin fel eu gardd eu hunain.

Rydym ni’n llawn cyffro i weld cymuned Grangetown yn defnyddio'r cyfleuster gwych hwn drwy gydol 2022. Cynhelir ymgynghoriad blynyddol Caru Grangetown ym Mhafiliwn Grange ddydd Sadwrn 21 Mai 2022, pan fyddwn ni'n dathlu lansio'r adeilad newydd. Cadwch olwg ar wefan Pafiliwn Grange i weld digwyddiadau sydd ar y gweill a dilynwch eu tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram am y newyddion diweddaraf!