Ewch i’r prif gynnwys

Pafiliwn Grange

Ar ddiwedd mis Tachwedd 2018, caeodd Pafiliwn Grange i baratoi ar gyfer ailddatblygiad mawr yn 2019.

Bydd y safle wedi'i ffensio ym mis Ionawr a bydd y gwaith i adeiladu Pafiliwn Grange newydd a gwell yn dechrau ym mis Chwefror.

Families on the grass outside the Grange Pavilion on a sunny day with bouncy castle and purple yoga mats

Trawsnewid pafiliwn bowlio i greu hwb cymdeithasol newydd i'r gymuned.

Y syniad

"Rydym eisiau trawsnewid y pafiliwn bowlio, sydd bellach wedi cau, i fod yn hwb cymdeithasol wedi'i ailfywiogi, gyda chaffi cymunedol a gardd." (Un o drigolion Grangetown)

Cynllunio

Yn dilyn nifer o ymgynghoriadau cymunedol gan gynnwys picnic syniadau a gweithdai gydag ysgolion cynradd lleol, mae Prosiect Pafiliwn Grange, Gweithredu Cymunedol Grangetown, a Phorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd wedi gweithio â nifer o bartneriaid er mwyn trafod y posibilrwydd o drawsnewid y pafiliwn bowlio diffaith i greu hwb cymunedol a chaffi gyda gardd gymunedol.

Ers 2013, mae dros 200 o fyfyrwyr israddedig pensaernïaeth, yn ogystal â myfyrwyr busnes a rhaglenni meistr pensaernïaeth, wedi gweithio gyda'r Porth Cymunedol er mwyn datblygu syniadau ar gyfer yr adeilad fel rhan o'u hymchwil a'u dysgu.

Cynnydd

Yn 2012, fe gynigodd trigolion Grangetown yng Nghaerdydd y syniad o adnewyddu pafiliwn bowlio gwag a oedd yn dirywio, wedi ei leoli mewn parc lleol poblogaidd. Fel ward mwyaf amrywiol Cymru o ran ethnigrwydd, ymhlith y 10% uchaf o ardaloedd difreintiedig y wlad, mae trigolion Grangetown yn gweld gwerth yn amrywiaeth yr ardal, a'r ymdeimlad o gymuned yno. Er hyn, roeddent yn gweld angen am fannau cyffredin, am amwynderau fel parciau, ac am fannau gwyrdd o fewn ysgolion tirgaeëdig, ac yn ystyried ysbwriel yn un o'r rhwystrau allweddol.

Cafodd bartneriaeth rhwng grŵp preswylwyr, Prosiect Pafiliwn Grange, Gweithredu Cymunedol Grangetown a Phrifysgol Caerdydd ei ffurfioli yn 2014 er mwyn arbrofi â syniadau'r trigolion ar gyfer defnydd Pafiliwn Grange a'r lawnt.

Gwnaeth sicrhau trwydded dros dro yn 2016 galluogi defnydd peilot o'r pafiliwn a'r lawnt gan dros 3,000 o drigolion. Ers hynny, mae gweithgareddau rheolaidd a awgrymwyd gan drigolion Grangetown wedi dod a'r pafiliwn yn fyw. Mae'r rhain yn cynnwys clybiau gwaith cartref, Fforwm Ieuenctid, dosbarthiadau ESOL, gardd gymunedol, cymorth iechyd meddwl gan gyfoedion, caffi technoleg, therapi celf, y grŵp Ffrindiau a Chymdogion, hyfforddiant criced a phêl-droed gyda mentora cyfoedion, a sesiynau chwarae, yn ogystal â digwyddiadau blynyddol ac un-tro fel Iftar Cymunedol, Ffair Gaeaf, a Love Grangetown.

Mae dros 150 o fentrau wedi eu lansio ar y safle gan gynnwys gweithgareddau awyr agored a mentrau gwyrdd fel synhwyro torfol amgylcheddol, garddio ar ôl ysgol, gardd peillwyr, mentora chwaraeon a gweithdai creadigol mewn partneriaeth â RSPB Cymru, Pollen8Cymru, Urban Buzz, Federation of City Farms and Gardens, Eggseeds, Grow Cardiff, Cardiff Youth Service, Hafal, Sport Wales, Welsh Athletics, C3SC, Heddlu a Gwasanaeth Tân De Cymru, Innovate Trust, Run Wales, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y camau nesaf

Yn 2018, gwnaeth y Porth Cymunedol a'i bartneriaid sicrhau £1.17m o gyllid cyfalaf o raglen CAT 2 y Cronfa Loteri Fawr er mwyn ailddatblygu Pafiliwn Grange.

Mwy o wybodaeth am ailddatblygiad Pafiliwn Grange.

Cymryd rhan

Mae angen ein help chi arnom ni, ac mae'r prosiect yn dal i fod yn agored i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan. Os oes gennych unrhyw sgiliau, arbenigedd, neu amser i'w gynnig i ni, cysylltwch. Yn benodol, rydym yn croesawu cymorth pellach ar gyfer rheoli cyfleusterau, garddio a thirlunio, datblygu busnes, gwasanaethau cyngor cyfreithiol, cyllid, cyfathrebu a marchnata, gwirfoddoli yn ein digwyddiadau rheolaidd neu dros dro, ac unrhywbeth arall gallwch gynnig.

Mae'r tîm Porth Cymunedol a'r gymuned leol hefyd yn codi arian ar gyfer ailddatblygiad Pafiliwn Grange ac yn croesawu unrhyw gymorth o ran trefnu digwyddiadau codi arian neu unrhyw syniadau sydd gennych.

Rhoi arian i ailddatblygiad Pafiliwn Grange

Os hoffech fwy o wybodaeth neu os ydych am gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â'r tîm Porth Cymunedol.

Y Porth Cymunedol

Rhybudd cau

Ar ddiwedd mis Tachwedd 2018, caeodd Pafiliwn Grange i baratoi ar gyfer ailddatblygiad mawr yn 2019.

Bydd y safle wedi'i ffensio ym mis Ionawr a bydd y gwaith i adeiladu Pafiliwn Grange newydd a gwell yn dechrau ym mis Chwefror. Bydd yr adeilad newydd yn agor gynnar yn 2020.

Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys tair ystafell fawr ar gael i'w llogi, caffi, toiledau a swyddfa. Yn ogystal, bydd lle awyr agored i chwarae, mwynhau a thyfu cynnyrch ffres.

Bu Pafiliwn Grange yn bartneriaeth rhwng Grange Pavilion Project, Grangetown Community Actoion a Phrifysgol Caerdydd ers 2014. Hoffem ddiolch i bawb a fu'n ymwneud â gwneud y prosiect yn llwyddiant ac i bawb sydd wedi cyflwyno a mynychu digwyddiadau yn y Pafiliwn dros y blynyddoedd, gan ein helpu sicrhau achos dros berchnogaeth gymunedol a phrofi'r angen am gyfleuster gwell. Byddwn yn helpu ein tenantiaid presennol i ddod o hyd i gartrefi newydd fel y gall eu gweithgareddau barhau y flwyddyn nesaf ac edrychwn ymlaen at eu gwahodd i gyd yn ôl i'r Pafiliwn newydd yn 2020.

Mae ailddatblygiad Pafiliwn Grange wedi'i wireddu trwy arian gan Gronfa Loteri Fawr Cymru, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad ASDA, Clwb Rotari Bae Caerdydd a chymorth gan lawer mwy. Hoffem ddweud diolch mawr i'n hariannwyr a'n cefnogwyr.

Am ragor o wybodaeth am Bafiliwn Grange, a'r CIO Pafiliwn Grange (Sefydliad Corfforedig Elusennol), cysylltwch â communitygateway@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch
029 20 870456