Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i gymryd rhan

Three Community Engagement volunteers talking

I wneud awgrym neu i gymryd rhan yn unrhyw un o'n prosiectau a gaiff eu rhestru, cysylltwch â ni:

Y Porth Cymunedol

Neu, gallwch ysgrifennu at:

Y Porth Cymunedol, d/o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Adeilad Bute, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NB.

Meini prawf ar gyfer dethol prosiectau

Dylai'r ystod o brosiectau y mae'r Porth Cymunedol yn eu dewis i dderbyn cyllid a/neu gefnogaeth geisio:

  • Cael effaith ar amrywiaeth eang o bobl yn y gymuned ac yn y Brifysgol
  • Cynrychioli demograffeg allweddol yn y gymuned a meysydd rhyngddisgyblaethol yn y Brifysgol
  • Cyfrannu at o leiaf un o'r 9 dyhead cymunedol canlynol
  • Arweinydd cymunedol ac yn y Brifysgol
  • Gallu dangos canlyniadau cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd posibl y syniad arfaethedig, neu fod yn barod i weithio gyda'r Porth Cymunedol i ddatblygu gweithdrefnau cynllunio a gwerthuso
  • Cysylltiad â gwaith ymchwil posibl sydd o'r radd flaenaf, yn ogystal â chyfleoedd addysgu neu gyfleoedd datblygu i fyfyrwyr/staff yn y Brifysgol
  • Bod yn barod i gydweithio â phrosiectau eraill y Porth Cymunedol
  • Dangos cynlluniau tymor hwy i gynnal y prosiect neu i gael rhyw fath o effaith hirdymor
  • Prosiect a gyflwynir yn Grangetown, lle bo'n briodol
  • Manteisio ar gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer y Porth Cymunedol a Grangetown
  • Bod yn barod i ysgrifennu adroddiad prosiect - astudiaeth achos 1 tudalen - ar ôl cwblhau'r prosiect