Ein prosiectau
Byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau sydd â'r potensial i ddatblygu partneriaethau cryf a pharhaol rhwng trigolion lleol a staff, myfyrwyr ac academyddion y Brifysgol.
Mae'r Porth Cymunedol yn buddsoddi £90,000 dros y ddwy flynedd nesaf i ariannu partneriaethau rhwng aelodau o Brifysgol Caerdydd a thrigolion Grangetown. Bydd yr holl bartneriaethau y byddwn yn eu hariannu yn gweithio tuag at wneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well i fyw ynddo.
Bydd y prosiectau'n elwa ar amrywiaeth o gymunedau yn yr ardal, yn ogystal â chyfrannu at uchelgeisiau'r Brifysgol. A chithau'n drigolion, ac yn arbenigwyr ar Grangetown, rydym yn dilyn eich arweiniad chi; isod mae'r holl syniadau prosiect gan bobl leol sydd am weithio gyda'r Brifysgol er mwyn gweithredu. Ein prosiectau diweddar.