Ewch i’r prif gynnwys

Hanes Tîm y Porth Cymunedol

Dathlu lansiad Pafiliwn Grange

Prosiect ymgysylltu blaenllaw sy’n mwynhau partneriaeth hirdymor gyda thrigolion a busnesau Grangetown ers ei lansio yn 2015 yw’r Porth Cymunedol.

Yr ardal hon yng nghanol y brifddinas yw'r ardal etholiadol fwyaf yng Nghymru ac un o'r mwyaf amrywiol yn ddiwylliannol. Gan weithio gyda phreswylwyr, cawson ni’r cyfle i ddeall gymaint yw eu cariad at eu cymuned yn ogystal â’u dymuniadau ar gyfer ei dyfodol, ac adnabuwyd naw thema i fuddsoddi mewn partneriaethau yn y dyfodol ac mae’r rhain wedi llywio’r hyn a ddilynodd. Darllenwch ragor am ein prosiectau.

Mae stori Pafiliwn Grange yn enghraifft berffaith o'r gwaith hwn. Buon ni’n gweithio gyda’r gymuned i godi mwy na £2 filiwn i ddylunio ac adeiladu’r ganolfan dan arweiniad y preswylwyr yng Ngerddi Grange sydd wrth wraidd y gymuned. Mae bellach yn gartref i gaffi, lleoedd cydweithio, ystafelloedd i'w llogi ar gyfer digwyddiadau cymunedol a gardd fioamrywiol at ddibenion iechyd a lles a thyfu tymhorol yn ogystal â lawnt i chwarae arni.

Llwyddiant

Mae ein gwaith yn Grangetown wedi creu llwybrau gwych rhwng y brifysgol a’r gymuned a chafwyd hyd yn hyn:

  • 85 o brosiectau sydd wedi eu gwireddu (yn sgil mwy na 307 o ddatganiadau o ddiddordeb) gan greu budd parhaol i’r gymuned
  • mwy na 700 o fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau Busnes, Meddygaeth, SOCSI a Phensaernïaeth yn gweithio ar 35 o brosiectau addysgu 'byw' a mwy na 200 o fyfyrwyr a graddedigion sy’n gwirfoddoli ar brosiectau Grangetown. Gallwch chi gwrdd â'n llysgenhadon diweddaraf yma.
  • cydweithio ag 24 ysgolion academaidd ar draws y tri choleg, yn ogystal â’n timau proffesiynol yn Ehangu Cyfranogiad, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, a Chaffael ac Ystadau sydd wedi helpu i ddatblygu llwybrau gyrfaol a menter rhwng y brifysgol a’r gymuned
  • gweithio gyda mwy na 30 o bartneriaid sector, gan gynnwys Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru
  • dyfarniad cyllid Ymddiriedolaeth Ymchwil Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), gwobr Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd, gwobr Arwain Cymru, a Gwobr y Ganolfan Gydgysylltu Genedlaethol er Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gwobr CIPR Cymru Wales a Gwobr ryngwladol gyntaf yr Athro Syr David Watson