Ewch i’r prif gynnwys

Dewiswch eich Her

Choose your Challenge

Cadw’n heini, cadw’r brwdfrydedd, a gwneud gwahaniaeth. 'Dewiswch eich Her' a chodi arian mewn ffordd sy'n addas i chi, ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd ym maes niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, neu ei hymchwil ar ganser.

Beth am ddechrau arfer newydd neu ddychwelyd at hen arferion a chodi arian hanfodol ar gyfer ymchwil ar gyflyrau fel Alzheimer, Parkinson's, ADHD, iselder, sgitsoffrenia, a chanser.

Dechrau arni

Dilynwch y camau isod i ddechrau eich her:

Cam 1. Dylunio'ch her

Rhedeg, cerdded, beicio, nofio, rhwyfo, neu ymarferion byrfraich (press ups) – chi'n sy’n dewis sut rydych chi am gwblhau eich her a beth yw eich targed. Gallwch osod her ddyddiol, neu gyfanswm am fis cyfan – tarwch olwg dros ein syniadau i gael ysbrydoliaeth. Eisiau cwmni? Gofynnwch i'ch cydweithwyr ymuno â chi a chreu tîm.

Cam 2. Dewiswch eich maes ymchwil

Gallwch godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd sy’n newid bywydau; hynny ym maes niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, neu ei hymchwil ar ganser. Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.

Cam 3. Codi arian ar gyfer ymchwil!

Gosodwch darged i chi'ch hun gan greu eich tudalen JustGiving. Dywedwch wrth bobl pam eich bod yn codi arian ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis a phostio diweddariadau rheolaidd ynghylch eich cynnydd er mwyn i ffrindiau, teulu a chydweithwyr gael eu gweld.

Bydd Steph, Swyddog Codi Arian Cymunedol wrth law i gynnig cymorth ar hyd y daith gan eich helpu i gyrraedd eich targedau o ran eich her a’r codi arian.

Creu eich tudalen JustGiving

Chwilio am ysbrydoliaeth?

O sgwatiau, ymarferion eistedd i fyny a neidio seren i ymarferion byrfraich, Pilates a'r planc. Dewiswch ffigwr i’w gwblhau (neu gyfnod o amser) ac addunedwch i gyflawni hynny bob dydd am fis yn gyfnewid am nawdd.

Gafaelwch yn eich helmed a mynd ar eich beic. Gallech ddewis beicio 100, 200 neu 300 milltir dros fis, a hynny'n rhan o'ch cymudo arferol neu gallech ddarganfod llwybrau newydd. Mae'n well gennych aros y tu mewn? Mae beic ymarfer neu sbin yn gweithio llawn cystal!

Plymiwch i’r dŵr. Mae nofio yn her all siwtio pawb, dewiswch eich pellter a mentro. Oeddech chi'n gwybod bod 1 filltir mewn pwll 25m gyfystyr â nofio hyd y pwll hwnnw 64.4. gwaith?

Cerdded, loncian neu redeg. P'un ai rhedeg ar eich pen eich hun rydych chi, neu mewn tîm, rhowch eich esgidiau rhedeg am eich traed, a chymryd rhan! Gosodwch eich nod eich hun; 10,000 cam y dydd, cerddwch 100 milltir mewn mis, neu dewiswch bellter cyfatebol yn darged rhedeg, beth bynnag sy'n addas i chi. Beth am edrych ar World Walking, ap rhad ac am ddim sy'n eich galluogi i ddewis llwybr rhithwir i'w ddilyn.

Sut y gallai eich gwaith codi arian helpu

Gall eich rhodd helpu mewn sawl ffordd.  Er enghraifft:

  • Gallai £10 dalu am sleidiau gwydr at ddibenion astudio 100 o samplau o dan ficrosgop.
  • Gallai £20 helpu i gynnal celloedd sy'n tyfu yn y labordy am ddiwrnod, at ddibenion astudio gwahanol glefydau a hefyd triniaethau sy’n gyffuriau newydd.
  • Gallai £50 ariannu cymrawd ymchwil am 2.5 awr fel y gellir gwerthuso triniaethau sy'n torri tir newydd.
  • Gallai £100 ariannu pecynnau dadansoddi gwaed a phoer i nodi biofarcwyr sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.
  • Gallai £250 dalu am offer arbenigol i astudio proteinau a DNA.
  • Gallai £500 dalu am ddeunyddiau arbennig sydd eu hangen i dyfu canserau dynol ar ffurf strwythurau 3D at ddibenion profi cyffuriau newydd.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os ydych eisiau trafod eich cynlluniau codi arian 'Dewis eich Her', cysylltwch â ni a gallwn gynnig yr holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch.

Picture of Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Telephone
+44 29208 76551
Email
CuyesS@caerdydd.ac.uk