Rhedwch Farathon Casnewydd Cymru yn rhan o #TeamCardiff
Beth am redeg un o farathonau gwastadaf y DU a rhoi cynnig ar guro eich amser gorau ym Marathon Casnewydd Cymru ABP ar 28 Ebrill 2024.
Mae Marathon Casnewydd Cymru ABP yn newydd i #TeamCardiff. Rydym wedi cael gafael ar nifer fach iawn o leoedd elusennol yn y ras boblogaidd hon, sef un o'r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Mae dros 70% o'r holl orffenwyr wedi curo eu hamser gorau ar lwybr sy'n mynd heibio tirnodau eiconig fel Pont Gludo’r ddinas a Gwastadeddau Gwent.
A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch ddewis cefnogi naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd, neu ymchwil canser. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n byw gydag ystod eang o gyflyrau.
Mae ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin megis y fron, y prostad a'r coluddyn, yn ogystal â'r rhai sy'n fwy prin neu'n anodd eu trin.
Mae ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer ystod eang o gyflyrau gwanychol gan gynnwys ADHD, iselder, sgitsoffrenia, a Chlefyd Alzheimer.
Gwnewch gais ar gyfer lle elusennol gyda #TeamCardiff
Gwnewch gais i ymuno â #TeamCardiff ym Marathon Casnewydd Cymru ABP ar 28 Ebrill 2024. Os ydych yn rhedeg Marathon Casnewydd Cymru yn rhan o #TeamCardiff mae’n rhad ac am ddim! Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw codi isafswm nawdd o £350 ar gyfer y maes ymchwil Prifysgol o’ch dewis.
Oes gennych chi eich lle eich hun ym Marathon Casnewydd Cymru, neu eisiau gosod eich targed codi arian eich hun?
Byddem yn dwlu pe byddech yn ymuno â #TeamCardiff Byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth â'n rhedwyr lleoedd elusennol (gan gynnwys eich top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heb yr isafswm o ran targed codi arian. Mynnwch eich lle ar wefan Marathon ABP Casnewydd Cymru.
Byddem yn dwlu pe byddech yn ymuno â #TeamCardiff Byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth â'n rhedwyr lleoedd elusennol (gan gynnwys eich top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heb yr isafswm o ran targed codi arian. Cadwch eich lle ar wefan Marathon Casnewydd Cymru. Yn ogystal â'r Marathon, mae yna ras Hanner Marathon a ras 10k.
Pa bynnag bellter rydych yn dewis ei redeg, dywedwch wrthym yr hoffech ymuno â #TeamCardiff!
Yr arian yr ydych yn ei godi
Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.
Sut y byddwn yn eich cefnogi
- crys-T neu fest technegol #TeamCardiff rhad ac am ddim wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu
- aelod penodol o'r tîm i'ch cefnogi ar eich taith ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
- pecyn adnoddau digidol #TeamCardiff yn cynnwys graffeg cyfryngau cymdeithasol, ffurflen noddi a syniadau ar gyfer codi arian
- ebyst #TeamCardiff sy’n cynnwys cyngor ar godi arian a hyfforddi ar gyfer y ras
Cysylltwch â ni
Cerddwch Yr Wyddfa gyda’r nos gan godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn 2024.