Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil canser

Dr Catherine Hogan, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
Dr Catherine Hogan, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Trwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a fydd yn cyflymu datblygiad triniaethau newydd, mwy effeithiol, gallwch wella cyfraddau goroesi ac ansawdd bywyd pobl sy’n dioddef o ganser, nawr ac yn y dyfodol.

Bydd eich rhodd i fentergarwch Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol yn cefnogi datblygiad gyrfaol ymchwilwyr canser ifanc rhagorol sydd wedi’u targedu’n ofalus.

Helpwch ni i gefnogi’r amrywiaeth eang o ymchwilwyr, o wyddonwyr labordy, arbenigwyr mewn treialon clinigol i seicolegwyr sy’n helpu cleifion ddelio gyda’r straen meddyliol sy’n dod gyda chanser a’r rheiny syn datblygu triniaethau a ffyrdd newydd o iacháu.

Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol

Mae mentergarwch Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol gan Brifysgol Caerdydd yn canfod talent, cefnogi a meithrin cymuned ymchwil canser y dyfodol. Mae'r rhaglen yn dod o hyd i ymchwilwyr canser dawnus ar ddechrau eu gyrfaoedd sy'n gweithio yn y labordy ac yn uniongyrchol gyda chleifion.

Mae carfan Arweinwyr Ymchwil y Dyfodol yn derbyn hyfforddiant arbenigol er mwyn datblygu sgiliau "di-fainc" fel ysgrifennu ceisiadau grantiau, rheolaeth ariannol, a thechnegau cyflwyno.

Mae'r rhaglen yn annog cyfranogwyr i gymryd rhan mewn hunanasesu personol a phroffesiynol fel eu bod yn gallu nodi bylchau yn eu sgiliau, datblygu cynllun gyrfa ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol gydag uwch gydweithwyr.

Ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae ein cymuned ymchwil canser yn gydweithredol ac yn arloesol. Mae’r strategaeth ymchwil canser newydd wedi’i seilio ar dri chryfder:

  • Canfod targedau newydd a strategaethau newydd i ddatblygu triniaethau canser arloesol
  • Cynllunio ac arwain astudiaethau clinigol gan ddefnyddio dyfeisiadau canser arloesol
  • Gweithio ar ddiagnosis cynharach ac ar atal llawer o ganserau i leihau'r baich byd-eang o ganser

Mae'r strategaeth hefyd yn nodi cynlluniau uchelgeisiol i ehangu cymuned ymchwil canser Prifysgol Caerdydd, denu a chadw academyddion a chlinigwyr dawnus, gyda phwyslais ar feithrin arweinwyr ymchwil canser yfory.