Ewch i’r prif gynnwys

Niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl

Scan o gysylltiadau'r ymennydd
Scan a gynhyrchwyr gan Sganiwr MRI 3T 'Connectom' ym Mhrifysgol Caerdydd

Trwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl byddwch yn helpu i gyflymu datblygiad triniaethau a diagnosis newydd, mwy effeithiol.

Bydd eich rhodd i fentergarwch Arweinwyr Ymchwil Niwrowyddoniaeth a Iechyd Meddwl y Dyfodol yn cefnogi datblygiad ymchwilwyr eithriadol ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Mae eu hymchwil yn edrych arno anhwylderau niwroddatblygiadol megis awtistiaeth a diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), anhwylderau seiciatrig fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, yn ogystal ag anhwylderau niwroddirywiol gan gynnwys clefydau Alzheimer, Parkinson a Huntington.

Arweinwyr y dyfodol mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl

Mae mentergarwch Arweinwyr Ymchwil Niwrowyddoniaeth a Iechyd Meddwl y Dyfodol Prifysgol Caerdydd yn cefnogi ymchwilwyr mewn cyfnod pwysig yn eu gyrfaoedd drwy gynnig cyllid sbarduno.

Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer ymchwil cyfnod peilot fydd yn rhoi’r sylfaen ar gyfer prosiectau mwy, neu ar gyfer teithio, cynadleddau a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae cyllid ar ddechrau gyrfaoedd yn gallu helpu ymchwilwyr sy’n methu cael gafael ar raglenni grant i ddatblygu ymchwil bosibl ac archwilio syniadau newydd. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, mae’r fenter yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ddatblygiadau allweddol.

Ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl

Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd ar flaen y gad o ran cynnydd byd eang er mwyn deall geneteg salwch meddwl. Mae ein hymchwil yn cwmpasu anhwylderau o gyfnod plentyndod hyd at henaint.

Mae’r arbenigedd a’r profiad sydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu cydnabod ledled y byd ac yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Yng Nghaerdydd rydym yn deall bod llawer o gysylltiadau a thrawsgroesiadau yn y sbectrwm anhwylderau iechyd meddwl.

Rydym yn credu y gallwn ddatblygu diagnosis mwy cywir a chynnar a thriniaethau mwy effeithiol i gleifion os gallwn ddeall yr ymennydd a sut mae’r anhwylderau yma yn effeithio arno.

Mae Prifysgol Caerdydd yn rhagori yn fyd-eang mewn pum maes:

  • Sefydliad Ymchwil: troi'n darganfyddiadau ymchwil sylfaenol yn well dealltwriaeth o fecanweithiau clefydau, diagnosis, triniaeth ac atal
  • Delweddu’r ymennydd: defnyddio’r offer gorau i fapio newidiadau a chysylltedd yn yr organ gymhleth yma
  • Cynnwys cleifion: recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer ymchwil, codi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â stigma
  • Geneteg: defnyddio ymchwil mewn geneteg a genomeg i ddatblygu gwell diagnosis a thriniaeth
  • Meddygyniaethau newydd: gosod Cymru ar y blaen o ran arloesedd meddygol, gan ddod â'r wyddoniaeth ddiweddaraf at y claf drwy droi ymchwil biofeddygol blaenllaw yn gyffuriau newydd.