Ewch i’r prif gynnwys

Pam codi arian gyda ni

Gall unrhyw un godi arian yn rhan o #TeamCardiff – p'un a ydynt yn fyfyrwyr, yn aelodau o’r staff, yn aelodau o'n cymuned byd-eang o gynfyfyrwyr neu'n unigolion sydd â diddordeb angerddol yn ein hymchwil.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ein hymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl a’n hymchwil canser. Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa wneud cais am grantiau gwerth hyd at £10,000. Mae'r grantiau hyn yn helpu ymchwilwyr i archwilio syniadau newydd a datgloi cyfleoedd i gael cyllid yn y dyfodol.

Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, rydych yn meithrin talent newydd ac yn buddsoddi mewn syniadau arloesol. Bydd eich cefnogaeth yn eu helpu i wneud darganfyddiadau sy'n newid bywydau’n gynt er mwyn gwella sut mae amrywiaeth eang o gyflyrau’n cael eu hatal, eu diagnosio a’u trin.

Ymchwil canser

Mae ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwella canlyniadau i bobl sy'n dioddef o’r canserau mwyaf cyffredin, fel canser y fron, canser y prostad a chanser y coluddyn, yn ogystal â'r rhai sy'n fwy prin neu'n anodd eu trin. Dewch i wybod rhagor am ein hymchwil canser.

Ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl

Mae ein hymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer ystod eang o gyflyrau gwanychol, gan gynnwys ADHD, iselder, sgitsoffrenia a chlefyd Alzheimer. Dewch i wybod rhagor am ein hymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

Sut y gallai eich gwaith codi arian helpu

  • Gallai £50 ariannu cymrawd ymchwil am 2.5 awr fel y gellir gwerthuso triniaethau sy'n torri tir newydd.
  • Gallai £100 ariannu pecynnau dadansoddi gwaed a phoer i nodi biofarcwyr sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.
  • Gallai £250 ddarparu offer arbenigol i astudio proteinau a DNA.
  • Gallai £500 dalu am ddeunyddiau arbennig sydd eu hangen i dyfu canserau dynol fel strwythurau 3D ar gyfer profi cyffuriau newydd.
  • Gallai £1,000 dalu am y bwlb fflwroleuol arbenigol a ddefnyddir i ddelweddu celloedd yn eglur iawn am flwyddyn gyfan.
  • Gallai £5,000 dalu am yr adnoddau sydd eu hangen i astudio celloedd byw mewn system ddelweddu o'r radd flaenaf.

Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.

Sut y gall codi arian eich helpu chi

Mae codi arian ar gyfer ein hymchwil yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth a chael hwyl ar yr un pryd. Gall fod yn gyfle i ddod i adnabod pobl newydd neu ailgysylltu â hen ffrindiau. Gall codi arian eich helpu i gadw’n heini, datblygu sgiliau newydd, gwella eich hyder a hyd yn oed roi hwb i'ch CV.

Mae hefyd yn ffordd arbennig o ddathlu, cefnogi a chofio anwyliaid a all fod yn dioddef o ganser, cyflwr niwrolegol neu broblem iechyd meddwl. Os hoffech godi arian er cof am rywun, cysylltwch â ni.

Yn barod i godi arian gyda #TeamCardiff?

Cysylltwch â ni i roi gwybod sut yr hoffech godi arian. Gallwn roi’r holl gyngor a chymorth sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich targed.

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
cuyess@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6551