Ewch i’r prif gynnwys

Cerddwch Yr Wyddfa gyda’r Nos gyda #TeamCardiff

Snowdon at Night

Cerddwch Yr Wyddfa gyda’r nos gan godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn 2024.

Mae antur gyffrous newydd bellach ar agor i #TeamCardiff, sef taith gerdded gyda’r nos o dan awyr serennog Eryri, gan gyrraedd copa’r Wyddfa.

Dewiswch gerdded ar naill ai 20-21 Gorffennaf 2024 neu 19-20 Hydref 2024.

Gyda chefnogaeth Arweinwyr Mynydd profiadol, bydd y codwyr arian yn cychwyn ar eu taith yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, cyn dringo i gopa uchaf Cymru, sef 1085m. Ar ôl goleuo'r ffordd gan ddefnyddio ffyn gloyw a goleuadau bach, bydd y tîm wedyn yn disgyn wrth i’r haul godi i fwynhau brecwast dathlu.

Yn ogystal â herio'u hunain yn gorfforol ac yn feddyliol drwy ymgymryd â’r her gofiadwy hon, bydd codwyr arian #TeamCardiff yn codi arian at ymchwil hollbwysig.

Cofrestrwch i ymuno â #TeamCardiff

Rhagor o wybodaeth am her yr Wyddfa gyda’r Nos.

Ymunwch â #TeamCardiff yn 2024

A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch ddewis codi arian ar gyfer naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau i wella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a thrin pobl sy'n byw gyda chyflyrau megis canser, clefyd Alzheimer, Parkinson, iselder ysbryd a sgitsoffrenia.

Cymerwch y cam cyntaf

I gofrestru i gadw lle, bydd gofyn ichi dalu ffi na ellir ei had-dalu, sef £40.

Yna bydd gofyn ichi godi o leiaf £345 ar gyfer eich achos ymchwildewisol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd gofyn ichi godi o leiaf 80% o'r targed codi arian (£276) saith wythnos cyn dyddiad eich her. Os na fyddwch chi’n cyrraedd y targed hwn, fyddwch chi ddim yn gallu cymryd rhan yn y digwyddiad.

Fel arall, cewch ddewis hunanariannu eich her. Bydd gofyn ichi dalu ffi gofrestru o £40 ac yna falans o £169 o leiaf 5 wythnos cyn eich her. Nid oes uchafswm arian mae’n rhaid ichi godi, felly codwch gymaint ag y gallwch ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Mae’r her yn agored i bawb felly beth am gasglu grŵp o ffrindiau, teulu, cydweithwyr, neu gyd-chwaraewyr tîm? Gyda'ch gilydd neu ar eich pen eich hun, cewch godi arian i obeithio am adferiad anwylyd, dathlu bywyd rhywun neu er cof amdano.

Rhagor o wybodaeth am her yr Wyddfa gyda’r Nos.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau, yn ogystal â'r wybodaeth hanfodol gan ddarparwr yr her, Charity Challenge.

Amserlen

Gwnewch eich ffordd i dref Llanberis, yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, mewn da bryd ar gyfer y daith.

Ar ôl cofrestru a sesiwn ddiogelwch lawn gan arweinwyr eich her byddwch yn rhoi eich fflachlampau am eich pennau ac yn cychwyn ar y daith. Yn ystod y daith byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o'r ffordd gan ein Harweinwyr Mynydd cymwys.

Dylech chi gyrraedd y copa wrth i'r haul ddechrau codi dros Barc Cenedlaethol Eryri. Ar ôl gorfoledd cyrraedd y brig, bydd angen magu’r egni i ddychwelyd i'r man cychwyn lle bydd amser i ymlacio a mwynhau brecwast dathlu.

Ar ôl hyn, rydych yn rhydd i adael a gwneud eich ffordd adref i orffwys.

Gwybodaeth bwysig

Mae'r her hon yn cael ei graddio yn un 'anodd' ac mae angen lefel dda o ffitrwydd. Dyma'r her berffaith i unigolion sy'n barod i wneud yr hyfforddiant angenrheidiol i wthio'u hunain er mwyn ymgymryd â thaith fwy heriol. Byddwch chi’n cerdded am oddeutu 8 awr yn barhaus, dros 21km o dir anwastad, felly peidiwch â thanamcangyfrif pwysigrwydd ymarfer ymlaen llaw.

Dyma ddigwyddiad her agored, sy'n golygu y bydd y daith yn cynnwys pobl sy’n codi arian o elusennau eraill. Nid yw'n gyfyngedig i godwyr arian #TeamCardiff Prifysgol Caerdydd.

Mae'r her yn dechrau ac yn gorffen yn Llanberis ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd disgwyl ichi wneud eich ffordd eich hun i'r lleoliad ac oddi yno.

Sut y byddwn ni’n eich cefnogi

Bydd aelod penodol o dîm Prifysgol Caerdydd ar gael i ateb eich cwestiynau.  Byddwch chi hefyd yn cael diweddariadau rheolaidd i'ch helpu gyda'r gwaith o godi arian a'ch hyfforddiant, yn ogystal â chrys technegol #TeamCardiff am ddim wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu.

Gweinyddir yr antur hon gan Charity Challenge, asiantaeth sydd ag 20 mlynedd o brofiad o gyflawni heriau i elusennau cenedlaethol.

Os oes gennych chi gwestiynau am yr her neu godi arian, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

Cysylltwch â ni

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
cuyess@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6551