Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd gyda #TeamCardiff
Rhedwch yn ôl traed y goreuon a chodi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 5 Hydref 2025.
A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch ddewis cefnogi naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd, neu ymchwil canser. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n byw gydag ystod eang o gyflyrau.
Bydd eich gwaith codi arian yn helpu i ariannu grantiau ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy'n darparu pad lansio i archwilio syniadau newydd a datgloi cyfleoedd ariannu yn y dyfodol. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr rydych chi'n meithrin talent newydd ac yn buddsoddi mewn syniadau arloesol.
Mae ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin megis y fron, y prostad a'r coluddyn, yn ogystal â'r rhai sy'n fwy prin neu'n anodd eu trin.
Mae ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer ystod eang o gyflyrau gwanychol gan gynnwys ADHD, iselder, sgitsoffrenia, a Chlefyd Alzheimer.
Cofrestrwch eich diddordeb yn un o leoedd elusennol #TeamCardiff ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2025
Cofrestrwch eich diddordeb yn un o leoedd elusennol #TeamCardiff ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2025 ar 5 Hydref, a chi fydd y cyntaf i glywed pan fydd ceisiadau’n agor. Os ydych yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff mae’n rhad ac am ddim! Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw codi isafswm nawdd o £250 ar gyfer y maes ymchwil Prifysgol o’ch dewis.
Oes gennych chi le Hanner Marathon Caerdydd eich hun neu eisiau gosod eich targed codi arian eich hun?
Byddem yn dwlu pe byddech yn ymuno â #TeamCardiff Byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth â'n rhedwyr lleoedd elusennol (gan gynnwys eich top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heb yr isafswm o ran targed codi arian. Mynnwch eich lle ar wefan Hanner Marathon Caerdydd.
Rhowch wybod inni yr hoffech chi ymuno â #TeamCardiff!
Yr arian yr ydych yn ei godi
Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.
Sut y byddwn yn eich cefnogi
- crys-T neu fest technegol #TeamCardiff rhad ac am ddim wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu
- negeseuon ebost #TeamCardiff rheolaidd, yn llawn awgrymiadau ar gyfer codi arian a rhedeg
- pecyn adnoddau digidol #TeamCardiff yn cynnwys graffeg cyfryngau cymdeithasol, ffurflen noddi a syniadau ar gyfer codi arian
- aelod penodol o'r tîm i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
Cysylltwch â ni
Cerddwch Yr Wyddfa gyda’r nos gan godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd.