Rhedwch Marathon Llundain ar gyfer #TeamCardiff

Ymunwch â #TeamCardiff a rhedwch dros ymchwil Prifysgol Caerdydd ym Marathon Llundain 2022.
A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch ddewis cefnogi naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n byw gydag ystod eang o gyflyrau.
Rhedeg Marathon Llundain
Ydych chi wedi bod yn ddigon ffodus i sicrhau lle yn y digwyddiad torfol? Os felly, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi yn rhan o #TeamCardiff.
Byddwch yn derbyn top technegol #TeamCardiff i’w wisgo ar y diwrnod, a chewch gymorth ac arweiniad personol gyda'ch hyfforddiant a chodi arian. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn codi cymaint ag y gallwch ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd drwy osod eich targed codi arian eich hun.
Rhedeg Marathon Llundain yn rhithwir
Ddim mor lwcus? Mae yna ffordd o hyd i ymuno â marathon mwyaf y byd, ar 2 Hydref 2022 trwy gymryd rhan yn rhithwir ym Marathon Llundain TCS 2022. Cwblhewch 26.2 milltir ble bynnag yr ydych yn y byd, ar eich cyflymder eich hun, yr un diwrnod â'r digwyddiad torfol yn Llundain.
Bydd tîm Marathon Llundain TCS hefyd yn rhoi rhif rhedeg i chi, pecyn o wybodaeth cyn y digwyddiad yn ogystal â mynediad at yr ap swyddogol rhad ac am ddim sy'n cael ei bweru gan TCS i’w ddefnyddio ar y diwrnod. Ar ôl gorffen, byddwch hefyd yn gallu hawlio'r fedal swyddogol a chrys-T!
I gael gwybod mwy o wybodaeth ac i gystadlu, ewch i wefan TCS London Marathon.
Unwaith y bydd gennych eich lle eich hun, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych a'ch croesawu i #TeamCardiff. Byddwch yn derbyn top technegol #TeamCardiff i’w wisgo ar y diwrnod, a chewch gymorth ac arweiniad personol gyda'ch hyfforddiant a chodi arian. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn codi cymaint ag y gallwch ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd drwy osod eich targed codi arian eich hun.
Bydd eich gwaith codi arian yn helpu i ariannu grantiau ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy'n darparu pad lansio i archwilio syniadau newydd a datgloi cyfleoedd ariannu yn y dyfodol. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr rydych chi'n meithrin talent newydd ac yn buddsoddi mewn syniadau arloesol.
Mae ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin megis y fron, y prostad a'r coluddyn, yn ogystal â'r rhai sy'n fwy prin neu'n anodd eu trin.
Mae ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer ystod eang o gyflyrau gwanychol gan gynnwys ADHD, iselder, sgitsoffrenia, a Chlefyd Alzheimer.
Yr arian yr ydych yn ei godi
Bydd 100% o'r arian a godwyd gennych yn mynd yn uniongyrchol i'r maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am y marathon, ewch i wefan Marathon Llundain.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni a gallwn helpu gyda'r holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich targed.