Ymgymryd â her actif

Peidiwch â chynhyrfu, does dim rhaid i chi fod yn rhedwr marathon i ymgymryd â her actif! Beth bynnag yw eich ffitrwydd neu lefel gallu, mae her i’ch siwtio chi.
Sut bynnag y byddwch yn dewis codi arian, byddwch yn cefnogi ymchwil i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n newid bywydau.
Ymuno â digwyddiad
Ble bynnag rydych chi yn y byd, mae yna ddigwyddiadau y gallwch ymuno â nhw i godi arian yn rhan o #TeamCardiff. Os ydych chi'n lleol i Gaerdydd, beth am edrych ar rai o'r digwyddiadau isod:
- Hanner Marathon Caerdydd
- Hanner Marathon Abertawe
- Marathon Llundain TCS
- 10k Caerdydd
- Tough Mudder (digwyddiadau ledled y DU)
- Dragon Ride
- 3 Chopa Cymru neu Her Genedlaethol y 3 Chopa
- IRONMAN Cymru
Os ydych chi ymhellach i ffwrdd, ewch i wefan Active.com i weld beth sydd ymlaen yn eich ardal chi.
Ymuno â digwyddiad rhithwir
Methu cyrraedd y digwyddiad ond eisiau ymuno â'r hwyl? Mae rhai digwyddiadau yn cynnig opsiwn rhithwir sy'n golygu y gallwch gymryd rhan ble bynnag yr ydych chi. Dod o hyd i ddigwyddiadau rhithwir.
Rhedeg Marathon Llundain yn rhithwir
Mae gennym leoedd cyfyngedig ar gyfer Marathon rhithiwr TCS Llundain 2022. Cwblhewch 26.2 milltir ble bynnag yr ydych yn y byd, ar eich cyflymder eich hun ar 2 Hydref 2022. Rhagor o wybodaeth a chofrestru eich diddordeb mewn lle rhithwir yn #TeamCardiff.
Gosodwch eich her eich hun
Os nad yw digwyddiadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn apelio, gallwch ddylunio eich her eich hun. Oes rhywbeth rydych chi wedi bod eisiau ei wneud erioed? Beth am gerdded Clawdd Offa, nofio’r sianel yn eich pwll lleol, herio’ch hun i daro targed o hyn a hyn o filltiroedd neu gamau mewn fis, neu feicio o Land's End i John o' Groats? Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, mae ein tîm wrth law i'ch helpu i roi dechrau i’ch her.
Tripiau a heriau tramor
Rydym yn gwybod bod ein cymuned fyd-eang #TeamCardiff yn griw anturus, ac maeth teithiau a heriau tramor (neu'n lleol yn dibynnu ar ble rydych chi yn y byd!) yn ffordd wych o gyflawni breuddwyd gydol oes, profi rhywbeth anhygoel, a gwneud gwahaniaeth.
O ddringo Kilimanjaro, cerdded Machu Pichu neu gerdded y Camino de Santiago, mae byd cyfan o bosibiliadau ar gael.
Mae llawer o ddarparwyr a all eich helpu i ddod o hyd i'ch her elusennol berffaith gan gynnwys Charity Challenge a Discover Adventure.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, trafod opsiynau, neu ddweud wrthym am eich cynlluniau codi arian #TeamCardiff, cysylltwch â ni a gallwn helpu gyda'r holl gyngor a chefnogaeth rydych eu hangen i ddod o hyd i'r opsiwn cywir i chi.
Awgrymiadau a chyngor i wneud y mwyaf o’ch gwaith codi arian, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol ar sut i sicrhau bod eich gwaith codi arian yn ddiogel ac yn gyfreithiol.