Ewch i’r prif gynnwys

Targedu signalau Wnt i drin canser metastatig y prostad

Hynny er mwyn nodi biofarcwyr a triniaethau newydd posibl i wella’r gofal sydd ar gael i gleifion a chyfraddau goroesi.

Sgan sy’n dangos bod canser y prostad wedi lledaenu i'r asgwrn cefn. Llun: Dr Tom Rackley, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre
Sgan sy’n dangos bod canser y prostad wedi lledaenu i'r asgwrn cefn. Llun: Dr Tom Rackley, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre

Cefndir

Canser metastatig y prostad yw prif achos marwolaeth ymhlith dynion â chanser y prostad gan ei fod yn gwrthsefyll y prif driniaethau ar gyfer canser y prostad, fel therapi amddifadu o androgenau. Mewn achosion o ganser metastatig y prostad neu glefyd sy’n gwrthsefyll therapi amddifadu o androgenau, mae signalau Wnt yn cael eu dadreoli’n aml ar lefel ligand Wnt/derbynnydd ‘frizzled’. Mae angen triniaeth newydd ar gyfer hyn ar frys yn y clinig.

Nodau

Mae ein canfyddiadau rhagarweiniol addawol yn dangos bod targedu signalau Wnt ar lefel y ligand/derbynnydd yn effeithiol yn erbyn canser metastatig y prostad in-vivo. Drwy ddefnyddio sawl model cyn-glinigol ym maes canser metastatig y prostad, bydd y prosiect hwn yn:

  • nodi manteision therapi ag WNT974 (sy’n atal ligand Wnt rhag secretu – yn destun treialon clinigol Cam 1 ar gyfer canserau eraill) i drin isdeipiau lluosog o’r clefyd (e.e. +/-AR/mwtanau Wnt)
  • nodi os mai FZD7 yw’r derbynnydd sy'n gyrru signalau Wnt mewn achosion o ganser metastatig y prostad
  • archwilio mewn ffordd ymarferol neu fecanistig sut mae signalau Wnt yn rheoli gweithgarwch celloedd canser metastatig y prostad pan fyddant yn dod ar draws y prif safle metastatig, sef yr asgwrn, a hynny drwy brofion in-vitro arloesol/dilyniannau RNA

Bydd y canfyddiadau'n nodi pa mor effeithiol yw targedu'r ligand/derbynnydd yn erbyn canser metastatig y prostad a pha rai o gelloedd canser y prostad sy’n cael eu rheoli gan yr asgwrn yn ystod y broses gytrefu, a hynny er mwyn nodi biofarcwyr/triniaethau newydd posibl i wella’r gofal sydd ar gael i gleifion a chyfraddau goroesi.

Cyllid

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan yr elusen Prostate Cancer Research drwy grant o £491,731 dros dair blynedd.

Pobl

Dr Toby Phesse

Dr Toby Phesse

Research Fellow

Email
phesset@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8495
Dr Helen Pearson

Dr Helen Pearson

Senior Research Fellow

Email
pearsonh2@caerdydd.ac.uk

Partneriaid

  • Dr Robert Jones and Professor John Staffurth, Prifysgol Caerdydd Yr Ysgol Meddygaeth
  • Dr Ning Wang, Sheffield University
  • Dr Bin-Zhi Qian, The University of Edinburgh
  • Dr Matt Smalley, Prifysgol Caerdydd Ysgol y Biowyddorau