Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilio i ymwrthedd i atalyddion llwybr PI3K i frwydro yn erbyn canser y prostad sy'n ymwrthol i ddisbaddu

Archwilio llwybr newydd o driniaeth ar gyfer canser cam hwyr y prostad.

 Organoid sylfaenol canser y prostad
Organoid sylfaenol canser y prostad

Cefndir

Er bod y canlyniad ar gyfer dynion sy’n cael diagnosis o ganser y brostad sydd wedi’i gyfyngu i’r prostad, yn dda iawn ar y cyfan, mae gan gleifion â chanser y brostad yn y cyfnod hwyr ragolygon gwaeth. Mae hyn yn dynodi ymateb gwael i therapïau sy’n seiliedig ar hormonau. Felly, mae angen nodi dulliau therapiwtig newydd o drin cleifion â canser y prostad sydd wedi dod yn ynwrthol i therapïau safonol.

Nodau

Mae’r prosiect hwn yn archwilio llwybr newydd o driniaeth ar gyfer canser cam hwyr y prostad sy’n gwella ein gallu i ddiffodd y llwybr PI3K. Set o signalau yw’r rhain sy’n cyfarwyddo celloedd y prostad i dyfu’n afreolus pan fydd ymwrthedd i therapïau sy’n seiliedig ar hormonau.

Rydym hefyd yn gobeithio dysgu rhagor am:

  • ba gleifion sy’n debygol o ymateb i’r driniaeth hon drwy nodi biofarcwyr sy’n gallu rhagweld ymateb, er mwyn teilwra triniaethau’n well ar gyfer cleifion unigol
  • sut mae celloedd canser y prostad a micro-amgylchedd y tiwmor o’u cwmpas yn cyfathrebu i osgoi effaith y driniaeth.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan gymrodoriaeth datblygu gyrfa CRUK hyd at gyfanswm o £1.5 miliwn.

Pobl

Roedd yr aelodau o Labordy Ymchwil Drosi Canser y Prostad yn Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd a gymerodd ran yn cynnwys:

Dr Helen Pearson

Dr Helen Pearson

Senior Research Fellow

Email
pearsonh2@caerdydd.ac.uk
Dr Daniel Turnham

Dr Daniel Turnham

Research Associate

Email
turnhamd@caerdydd.ac.uk

Miss Sarah Perry

Miss Jasmine Owen

Partners

  • Yr Athro Wayne Phillips (Peter MacCallum Cancer Centre, Melbourne, Australia)
  • Yr Athro Johann de Bono (Institute of cancer research, Royal Marsden, Surrey, UK)
  • Yr Athro Gail Risbridger (Monash University, Melbourne Australia)
  • Yr Athro Owen Sansom (CRUK Beatson Institute, Glasgow, UK)
  • Dr Simon Barry (Astrazeneca)