Ewch i’r prif gynnwys

Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd

Ein nod yw gwella dealltwriaeth o rôl bôn-gelloedd canser mewn amrediad o ganserau, drwy ymchwil o safon fyd-eang.

Newyddion diweddaraf

Dr Catherine Hogan on Confocal Microscope

Cymdogion iach yn drech na chelloedd canser y pancreas

3 Awst 2021

Dim ond 7% o bobl sydd â chanser y pancreas sy'n goroesi am fwy na phum mlynedd. Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn helpu i ehangu gwybodaeth am y math hwn o ganser, gan obeithio llywio datblygiad triniaethau newydd.

Sgan sy’n dangos bod canser y prostad wedi lledaenu i'r asgwrn cefn. Llun: Dr Tom Rackley, oncolegydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre

Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i ymchwilio i gyffur newydd i atal canser y prostad na ellir ei wella rhag lledaenu

30 Mehefin 2021

Prifysgol Caerdydd yn sicrhau cyllid i ymchwilio i’r ‘angen brys’ am therapi datblygedig ar gyfer canser y prostad

confocal microscope2

Cyffur canser a gynlluniwyd gan gyfrifiadur yn atal metastasis canser y fron

2 Mawrth 2021

Mae adnodd dylunio cyffuriau â chymorth cyfrifiadur wedi llwyddo i greu therapi newydd posibl i rwystro'r lledaeniad angheuol hwn o'r clefyd.

Dysgwch ragor am sut gallwch chi helpu ein gwaith ymchwil

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar fôn-gelloedd canser a chredwn ei fod yn bosibl y gallai arwain at drawsnewid triniaethau canser

Mae ein harweinwyr tîm ymchwil yn cynnig eu safbwyntiau ar dargedu bôn-gelloedd canser a sut mae eu hymchwil yn effeithio ar therapi canser.