Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Ein nod yw mynd i’r afael â phrif heriau byd eang wrth gynnal a chadw'r boblogaeth sy’n tyfu ac ecosystem y blaned yn iach.

Mae ein hymchwil yn cyfrannu i fecanweithiau biolegol is o fywyd a chlefyd, gan edrych i gyflwyno datrysiadau newydd gydag effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mawr. Trwy ein haddysgu a arweinir gan ymchwil, byddwn yn ceisio ysbrydoli a hyfforddi cenedlaethau newydd, cyflenwi ein graddedigion gyda’r sgiliau a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i gyfrannu at ymchwil, yr economi sy’n seiliedig ar wybodaeth a’r gymuned ehangach.

Rydym yn darparu amgylchedd ymchwil ddeinamig a chyffrous gyda chyfleusterau modern a staff ymchwil gweithredol. Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ein haddysgu ac ymchwil. O fewn yr ysgol mae yna:

  • dros 100 o staff academaidd
  • oddeutu 150 o staff ymchwil
  • dros 160 o fyfyrwyr ôl-raddedig
  • oddeutu 2000 o israddedigion.

Wedi'u cefnogi gan y cyfleusterau mwyaf diweddar, mae ein cyrsiau testunol a'n hymchwil yn rhychwantu amrediad llawn y gwyddorau bywyd o (eco) systemau cyfan i fioleg folecwlaidd.

Ein henw da

Yn Safleoedd Prifysgolion y Byd 2023 (yn seiliedig ar gryfder a pherfformiad ymchwil) a gasglwyd gan Brifysgol Jiao Tong Shanghai, cafodd Gwyddorau Biolegol Prifysgol Caerdydd ei gynnwys ymysg y 25 gorau drwy'r byd ac roedd yn y 4 uchaf yn y DU.

Cyfleusterau ar gyfer staff a myfyrwyr

Mae estyniad £4M i adeiladau'r Ysgol yn 2010 yn golygu bod gennym gyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer cyfarfodydd, siop goffi i staff a myfyrwyr a swyddfeydd gyda chyfarpar da. Yn y blynyddoedd diweddar, bu adnewyddu sylweddol i labordai a buddsoddi mewn cyfarpar mwyaf diweddar newydd (er enghraifft, System Dau Ffoton).

Rydym yn gartref i Ganolfan Addysg Anatomegol Cymru, sy'n darparu cyfleusterau a hyfforddiant ar gyfer israddedigion a myfyrwyr ôl-radd.

Mae adeilad newydd £30M Hadyn Ellis yn cynnwys dau Sefydliad Ymchwil y Brifysgol lle mae gan yr Ysgol swyddogaeth allweddol: Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl. Defnyddir yr adeilad yn ogystal ar gyfer ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig.