Ewch i’r prif gynnwys

Niwrowyddoniaeth

Mae’r Niwrowyddorau yn ymdrechu i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r ffordd mae system nerfol iach yn gweithio yn ogystal â’r mecanweithiau sy’n arwain at glefydau niwrolegol, sef maes y mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill ei phlwyf ynddo yn rhyngwladol.

Neuron

Meysydd ymchwil

Nod ein hymchwil niwrolegol yw troi gwybodaeth am y mecanweithiau sylfaenol yn therapïau ffarmacolegol sy’n seiliedig ar gelloedd ac yn arferion clinigol gwell.

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn canolbwyntio ar dair thema benodol:

  • Bioleg synaptig - deall ystwythder, trefniant a swyddogaeth niwronau.
  • Bioleg niwrogellog a niwroddatblygiadol - deall y prosesau datblygiadol a chellog sy’n sail i weithrediad iach yr ymennydd a mecanweithiau clefydau.
  • Niwrowyddoniaeth systemau - ymhelaethu ar y cylchedau a’r gysylltomeg sy’n achosi swyddogaeth yr ymennydd.

Sefydliadau ymchwil

Mae cysylltiadau cryf rhwng yr is-adran Niwrowyddorau a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, yn ogystal â’r Sefydliad Ymchwil ar Ddementia a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau newydd.

Ceisiadau ar gyfer PhD a Chymrodoriaeth

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr cymrodoriaeth sydd â’r un diddordebau â meysydd ymchwil yr is-adran gysylltu.

Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PhD sydd â diddordebau ymchwil sy'n cyd-fynd â'n meysydd ymchwil strategol.

Cysylltwch â BIOSI-Research@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Aelodau’r staff

Enw Maes diddordeb
Yr Athro Frank Sengpiel - Pennaeth yr Is-adran Hyblygrwydd datblygiadol yn y cortecs gweledol ac anhwylderau datblygiadol gwelededd; cof gweledol-ofodol.
Yr Athro Adrian Harwood - Dirprwy Bennaeth yr Is-adran Bioleg niwro-gelloedd, anhwylderau meddyliol a chyffuriau seicotropig.
Yr Athro Nick Allen Mecanweithiau gwahaniaethu niwral yn achos bôn-gelloedd embryonig pobl a llygod gyda'r nod o ddatblygu protocolau i gyfeirio'r broses o wahaniaethu rhwng celloedd epiliol niwral i gaffael tynghedau a ffenoteipiau niwral penodol.
Dr Maxime Assous 
Yr Athro John Atack Adnabod a datblygu cyffuriau newydd i drin anhwylderau seiciatrig a niwroddirywiol, megis sgitsoffrenia, anhwylderau gorbryder, clefyd Alzheimer a chlefyd Huntington.
Dr Benjamin Bax Defnyddio’r broses o ddylunio cyffuriau dan arweiniad strwythur i greu meddyginiaethau newydd i wella iechyd pobl.
Yr Athro Riccardo Brambilla Rolau llwybrau signalu mewngellol wrth ddysgu ac yn y cof.
Yr Athro David Carter (Emeritws) Mecanweithiau sy'n rheoleiddio mynegiant genynnau mewn niwronau mewn ymateb i ysgogiadau ffisiolegol, a hefyd yn ystod cyflyrau patholegol.
Yr Athro Vincenzo Crunelli Mecanweithiau moleciwlaidd, genetig a chellog sy'n gweithio mewn niwronau sengl a rhwydweithiau niwronaidd y thalamws a'r cortecs yn ystod mynegiant gwahanol gamau o gwsg a chynhyrchu syndromau epileptig.
Yr Athro Alun Davies FRS (Anrhydeddus) Datblygiad niwronau fertebratau.
Yr Athro Kevin Fox Y mecanweithiau moleciwlaidd a chellog sy'n sail i brosesu synhwyraidd a phlastigrwydd synaptig yn y cortecs cerebrol.
Yr Athro William Gray Ymchwil glinigol ym maes epilepsi, yr hipocampws, dysgu a'r cof.
Dr Mariah Lelos Deall newidiadau niwropatholegol clefyd Parkinson a Huntington a'r effaith ar swyddogaethau gwybyddol. Ymchwilio i ymyraethau therapiwtig, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau.
Yr Athro Meng Li Manyleb isdeipiau niwronaidd bôn-gelloedd lluosbotensial, eu defnydd wrth egluro sail gellog anhwylderau meddyliol, a therapi celloedd ar sail trawsblannu.
Y Dr Emyr Lloyd-Evans Egluro swyddogaeth lysosomau ym maes iechyd a chlefydau.
Dr Guy Major Y cyfrifiannau sylfaenol a wna rhwydweithiau niwral bach, gan gynnwys cynhyrchu sbigynnau lleol, posibilrwydd llwyfandiroedd a detholusrwydd cyfeiriad mewn dendridau niwronau pyramidaidd cortigol sengl.
Dr Isabel Martinez-Garay Mecanwaith cellog a moleciwlaidd datblygu cortigol.
Dr David McGonigle Swyddogaeth y system somatosynhwyraidd ym maes iechyd a chlefydau, cydberthyniadau niwral hyfforddiant sgiliau a dysgu canfyddiadol systemau synhwyraidd.
Dr Owen Peters Mecanweithiau moleciwlaidd sy'n gysylltiedig â niwroddirywio a chynnal a chadw'r ymennydd sy'n heneiddio.
Yr Athro Anne Rosser Cyd-gyfarwyddo Grŵp Trwsio'r Ymennydd sydd â'r nod o ddatblygu therapïau sy’n seiliedig ar gelloedd ar gyfer clefydau niwroddirywiol, yn enwedig clefyd Huntington a chlefyd Parkinson, yn seiliedig ar drawsblannu celloedd y ffetws, celloedd epiliol a bôn-gelloedd cynradd yn yr ymennydd.
Dr Yasir Ahmed Syed Modelu bôn-gelloedd anhwylderau niwrolegol
Dr Arturas Volianskis 
Dr Helen Waller-Evans Darganfod cyffuriau sy'n targedu proteinau lysosomaidd i ddatblygu therapïau ar gyfer clefydau niwroddirywiol
Dr Alan Watson (Addysgu ac Ysgolheictod) Sail ffisiolegol perfformiad cerddorol, problemau cyhyrysgerbydol cerddorion, cylchedwaith synhwyraidd y corn dorsal, niwroetholeg infertebratau.
Dr Tim Wells Rheoleiddio prosesau niwroendocrinau ac endocrinau fesul statws metabolig, gyda diddordeb penodol yn y ffordd mae ghrelin yn gweithio.
Dr Sean Wyatt Ymchwilio i’r ffordd y mae proteinau a secretir yn rheoleiddio gwahaniaethu niwronau, yn goroesi ac yn creu cysylltiadau niwral yn systemau nerfol esblygol fertebratau.
Dr Emma Yhnell (Addysgu ac Ysgolheictod) Deall y prosesau sy'n sail i gyflyrau niwroddirywiol megis clefyd Huntington, clefyd Parkinson a chlefyd Alzheimer a'r symptomau cysylltiedig sy'n cael eu hachosi. Cyfleu gwyddoniaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd i eirioli dros bobl yr effeithir arnynt i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ymchwil.