Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth Tyfwyd yng Nghymru

Nodi tarddiad brychol ar gyfer anhwylderau hwyliau mamol a chanlyniadau andwyol i blant.

Cefndir

Mae trallod cynenedigol, y tybir ei fod yn effeithio ar fwy na hanner o bob beichiogrwydd yn y DU, yn amharu ar dwf ffetysol gan gynyddu’r siawns o farw-enedigaeth, genedigaeth gynamserol a marwolaeth babanod. Y tu hwnt i’r problemau uniongyrchol ac amlwg iawn hyn, mae babanod sy’n goroesi yn cario’r faich ychwanegol o risg uwch o rai o’r clefydau mwyaf cyffredin a threiddiol sy’n effeithio ar boblogaethau dynol.

Mae amlygiad in utero i iselder mamol yn un enghraifft o drallod sydd wedi’i chysylltu â’r canlyniadau gwaeth hyn i blant, sy’n awgrymu bod anhwylderau hwyliau mamol yn llywio’r canlyniadau. Fodd bynnag, mae gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, a arweinir gan yr Athro Rosalind John, ddata newydd sy’n awgrymu y gallai’r anhwylderau hwyliau mamol a chanlyniadau andwyol i blant ddeillio o’r un batholeg frychol sylfaenol - sef annigonolrwydd endocrin brychol - sy’n cael ei sbarduno o bosibl gan ddiet afiach yn ystod beichiogrwydd.

Er mwyn trosi’r canfyddiadau hyn yn fudd iechyd dynol, sefydlodd yr Athro John a’i chydweithwyr yr Astudiaeth Tyfwyd yng Nghymru, a ariannwyd gan yr Cyngor Ymchwil Meddygol (2015-2018). Mae’r astudiaeth carfan beichiogrwydd hydredol hon wedi’i lleoli yn Ne Cymru gyda data ar symptomoleg iselder mamol ochr yn ochr â chasgliad o samplau biolegol perthnasol, gan gynnwys brych cyfnod llawn.

Wedi’i ariannu gan Sefydliad Waterloo, cafodd data ar ganlyniadau anianol babanod un oed ei gasglu wedyn.

Yn fwyaf diweddar, mae astudiaeth PhD a ariannwyd gan CYM wedi casglu data ar y plant Tyfwyd yng Nghymru yn 4 oed.

Gan ddefnyddio’r setiau data hyn, mae’r Athro John a’i chydweithwyr eisoes wedi casglu tystiolaeth sy’n dangos bod eu canfyddiadau mewn modelau arbrofol yn berthnasol i feichiogrwydd dynol yr effeithir arni gan iselder. Yn benodol, dangoswyd bod lefelau isel o lactogen brychol ar y cyfnod llawn yn gysylltiedig ag uwch-symptomau iselder, yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl yr enedigaeth hefyd (iselder ôl-enedigol). Maent hefyd wedi dangos bod iselder mamol yn ystod beichiogrwydd yn gysylltiedig â chanlyniadau ymddygiadol dwyffurf rywiol, gyda babanod gwrywaidd yn cael eu heffeithio’n fwy na babanod benywaidd i ryw raddau.

Nodau

Mae gwaith presennol gan yr Athro John a’i chydweithiwr yr Athro Anthony Isles (grant 1 BBSRC) am archwilio:

  • y mecanwaith sy’n cysylltu trallod mewn beichiogrwydd ag annigonolrwydd endocrin brychol
  • y mecanwaith sy’n cysylltu annigonolrwydd endocrin brychol â gofal mamol newidiedig mewn mamau a merched

Drwy ail grant BBSRC (grant 2 BBSRC), mae grŵp yr Athro John yn archwilio:

  • swyddogaeth genynnau imprint fel meistr-reoleiddwyr hormonau brychol mewn llygod a phobl.

Wedi’u hariannu gan Sefydliad Waterloo, mae’r Athro John a’i chydweithwyr yr Athro Stephanie van Goozen a’r Athro Ian Jones am ddarganfod:

  • a yw diet iach, yn benodol ddiet sy’n uchel mewn asidau brasterog poli-annirlawn omega-3, yn amddiffyn rhag iselder mamol a chanlyniadau ymddygiadol andwyol mewn babanod.

Drwy’r tri grant diweddar hyn, bydd ymchwilwyr Caerdydd yn mynd i’r afael â chyffredinrwydd a goblygiadau anhwylderau hwyliau mamol.

Pobl

Yr Athro Rosalind John

Yr Athro Rosalind John

Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Yr Athro

Email
johnrm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0145
Yr Athro Anthony Isles

Yr Athro Anthony Isles

Reader, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
islesar1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8467
Yr Athro Ian Jones

Yr Athro Ian Jones

Director, National Centre for Mental Health

Email
jonesir1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8327
Yr Athro Stephanie van Goozen

Yr Athro Stephanie van Goozen

Professor

Email
vangoozens@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0)29 2087 4630