Ewch i’r prif gynnwys

Biofeddygaeth

Mae Biofeddygaeth yn gorwedd rhwng ymchwil sylfaenol a rhag-glinigol, ac yn ymchwilio i fecanweithiau hanfodol y prosesau normal a chlefydau sy’n dylanwadu ar iechyd gydol oes; yn cwmpasu’r cyfnod o genhedlu hyd henaint, ac o gelloedd unigol i’r organeb gyfan yn ei hamgylchedd.

Meysydd ymchwil

Mae ein hymchwil fiofeddygol yn cwmpasu tri phrif faes ffocws:

  • Tarddiad datblygiadol clefydau - ymhelaethu ar y dylanwadau cyn-geni ac epigenetig sy’n cael effaith ar risg afiechyd yn ddiweddarach mewn bywyd
  • Mecanweithiau iechyd - deall mecanweithiau clefydau o safbwynt ffisiolegol, meinwe cysylltiol, niwrolegol a chysylltiedig â chanser gan gynnwys metastasis
  • Ymyrryd mewn clefydau - datblygu strategaethau therapiwtig i atal a thrin clefydau

Sefydliadau ymchwil

PPR
This division has direct links with the Neuroscience and Mental Health Research Institute.

Mae gan yr is-adran hon gysylltiadau uniongyrchol â Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl. Mae ein his-adran Biofeddygaeth hefyd yn chwarae rôl ganolog yng ngwaith canolfan Arthritis Research UK a Chyfleuster Golygu Genomau Parc Geneteg Cymru.

Ceisiadau PhD a chymrodoriaeth

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr cymrodoriaeth sydd â diddordebau sy’n mapio ar y meysydd ymchwil adrannol gysylltu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PhD sydd â diddordebau ymchwil sy’n gweddu i’n meysydd ymchwil strategol.

Cysylltwch â biosipg@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Aelodau staff

EnwMaes diddordeb
Yr Athro Karl Swann - Pennaeth yr Is-adranFfisioleg wyau wrth gael eu ffrwythloni ac embryonau yn ystod datblygiad cynnar.
Yr Athro r Richard Clarkson - Cyd-Ddirprwy Bennaeth yr Is-adranApoptosis mewn meinweoedd bronnol arferol ac mewn modelau o ganser y fron.
Dr Emma BlainMecanofioleg meinweodd cyswllt.
Yr Athro Vladimir BuchmanArwyddocâd swyddogaethol proteinau synuclein yn y system nerfol arferol ynghyd â’r system nerfol sy’n dirywio.
Dr Vikesh Chhabria (Addysgu ac Ysgolheictod)Synthesis o fformwleiddiadau nanomaterial biomimetig at ddibenion biofeddygol a datblygu technolegau sgrinio newydd ar gyfer sgrinio agregu protein o gynhyrchion meddyginiaethol therapiwtig uwch
Dr Fernando Anjos-AfonsoBioleg celloedd epiliol / bôn-gelloedd hematopoietig a’u cilfach nhw
Yr Athro Vic Duance (Emeritus)Strwythur a swyddogaeth mân-golagenau cartilag, llwybrau signalau celloedd sy'n gysylltiedig â dirywiad cartilag mecanyddol a ddylanwadir gan cytocin.
Dr  Ewan Fowler 
Dr Nigel Francis (Addysgu ac Ysgolheictod)Imiwnofetaboledd ac addysg imiwnoleg.
Dr Julia GerasimenkoMecanweithiau moleciwlaidd prosesau patholegol yn y pancreas ecsocrin.creas.
Dr Oleg GerasimenkoYmchwilio i fecanweithiau marw celloedd.
Dr Sarah Hall (Addysgu ac Ysgolheictod)Dylunio, datblygu a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu ynghylch ffisioleg; cyfleoedd go iawn i ddysgu yn y cwricwlwm israddedig.
Dr Neil Hardingham (Addysgu ac Ysgolheictod)Trosglwyddo synaptig yng nghortecs yr ymennydd a’r mecanweithiau er mwyn ei newid; datblygiad, plastigrwydd a’r clefyd.
Dr Tim Higgins (Addysgu ac Ysgolheictod) 
Dr Catherine HoganCyfathrebu rhwng celloedd epithelaidd a chanser y pancreas.
Yr Athro Clare HughesMetabolaeth proteoglycan cartilag mewn osteoarthritis
Yr Athro Rosalind John - Dirprwy Gyfarwyddwr YmchwilSut mae Marciau Epigenynnol yn cyfarwyddo Datblygiad Mamalaidd ac yn hybu Clefydau Dynol.
Dr Helen Jones (Addysgu ac Ysgolheictod)Mecanweithiau signalu sy’n ymwneud â bioleg canser.
Dr Renata JurkowskaRheoleiddio epigenetig o adnewyddu celloedd a gwahaniaethu yn yr ysgyfaint dynol iach ac afiach
Dr Branko Latinkic Gwahaniaethiad cardiaidd
Yr Athro Stan Marée 
Yr Athro Deborah MasonMecanweithiau signalu yn rheoleiddio trosiant esgyrn a chartilag, mewn osteoporosis, arthritis gwynegol a osteoarthritis.
Dr Helen McCarthy (Addysgu ac Ysgolheictod)Bioleg celloedd epiliol cartilag cymalol a chelloedd epiliol sy’n benodol i’r menisgws mewn meinweoedd dynol a cheffylaidd a’u rôl bosibl mewn atffurfio meinweoedd ac osteoarthritis.
Dr Jittima Muensoongnoen (Addysgu ac Ysgolheictod) 
Dr Isaac Myers (Addysgu ac Ysgolheictod)Ymchwil biolegol i fecanweithiau moleciwlaidd metastasis ac angiogenesis. Ymchwil addysgol i addysg anatomegol, proffesiynoldeb mewn addysg, dysgu gan gymheiriaid, ac iechyd meddwl a lles myfyrwyr.
Dr Larissa Nelson (Addysgu ac Ysgolheictod) 
Dr Lee ParryDeall y rhyngweithio rhwng deiet, microbiota, imiwnedd a chanser.
Dr Girish Patel - Staff Ymchwil CysylltiedigBôn-gelloedd canser y croen.
Yr Athro o'r Cyngor Ymchwil Feddygol, Ole Petersen CBE FRSSignalau calsiwm: ffisioleg a phathoffisioleg.
Dr David PetrikNeurogenesis oedolion a bôn-gelloedd niwral oedolion yn yr hipocampws a hypothalamws
Dr Toby Phesse Signalau celloedd a swyddogaeth bôn-gelloedd yn ystod homeostasis, atffurfiant a chanser yn y llwybr gastroberfeddol.
Dr Zoe Prytherch (Addysgu ac Ysgolheictod)Modelau o ysgyfaint dynol in vitro.
Dr Jim RalphsSyntheseiddio, dyddodi a threfnu matricsau colagenig mewn meinweoedd cyswllt trefnus iawn.
Professor Dipak Ramji (Dirprwy Gyfarwyddwr)Llid, atherosglerosis a rheoleiddio mynegiant genynnau.
Professor Daniela Riccardi (Emeritus)Mecanweithiau moleciwlaidd synhwyro maetholion.
Dr Kirsty Richardson (Addysgu ac Ysgolheictod) 
Dr Neil Rodrigues (Tiwtor Ôl-raddedig Adrannol)Bioleg celloedd epiliol / bôn-gelloedd hematopoietig a’u dadreoleiddio mewn myelodysplasia a lewcemia myeloid.
Dr Hannah Shaw (Addysgu ac Ysgolheictod) 
Dr Paul Shaw  - Staff Ymchwil CysylltiedigClinigwr â diddordebau gwyddonol syml mewn canserau’r ysgyfaint a gastroberfeddol ym maes ymchwil drosiadol.
Dr Florian SiebzehnrublRheoleiddio cynnydd tiwmorau ac ymwrthedd canser yr ymennydd i therapi.
Yr Athro Matt SmalleyRôl celloedd bronnol arferol a chelloedd epiliol wrth gynhyrchu heterogenedd ffenoteipaidd yng nghanser y fron a bôn-gelloedd canser.
Dr Katherine Smith 
Dr Shiby Stephens (Addysgu ac Ysgolheictod)Anatomegydd clinigol â diddordeb ymchwil mewn patholeg gyhyrysgerbydol ddynol.
Dr Ye Dee Tay (Addysgu ac Ysgolheictod)