Ewch i’r prif gynnwys

Dealltwriaeth radical newydd o pancreatitis acíwt yn rhoi gobaith i atal canser y pancreas yn fwy effeithiol

7 Medi 2021

New concept of acute pancreatitis showing interactions between three different cell types
New concept: Interactions between three different cell types in the pancreas drive disease development. In all three cell types, excessive inflow of calcium ions is crucial. This inflow can be inhibited pharmacologically, providing rational treatment (figure from Petersen et al, Physiol Rev 101, 1691-1744, 2021)

Mae ymchwil a arweinir gan Ysgol y Biowyddorau wedi trawsnewid dealltwriaeth o'r mecanwaith sy'n sail i'r clefyd hwn a all fod yn angheuol, sy'n ffactor pwysig yn natblygiad canser y pancreas

Mae pancreatitis acíwt, nad oes triniaeth benodol, awdurdodedig ar ei gyfer ar hyn o bryd, yn cael ei achosi'n fwyaf cyffredin gan gymhlethdodau coden y bustl neu gamddefnyddio alcohol.

Mae'r cysyniad newydd o pancreatitis acíwt yn wahanol iawn i'r farn gonfensiynol ei bod yn glefyd o gelloedd acinar, yr elfennau bach sy'n cynhyrchu amrywiaeth o ensynau treulio yn y pancreas. Mae'n symud y ffocws i'r rhyngweithio rhwng y celloedd acinar a dau fath arall o gell gyfagos yn y pancreas - celloedd serennaidd y pancreas a macroffagau pancreatig.

Mae cylchoedd rhyngweithiol dieflig, sy'n cael eu gyrru gan fewnlif gormodol o ïonau calsiwm ym mhob un o'r tri math o gell, yn achosi dadfeiliad cynyddol celloedd a rhyddhad cytocinau ac asiantau eraill. Mae hyn yn arwain at stormydd cytocin a bradykinin a allai fod yn angheuol, gan ymdebygu i'r rhai a welwyd mewn achosion difrifol o COVID-19.

Dangosodd gwaith y tîm fod calsiwm yn llifo i mewn i'r gell ym mhob un o'r tri math o gell drwy'r un math o sianel ac y gellir lleihau agoriad y math hwn o sianel yn effeithiol gan atalydd moleciwlau bach.

Meddai'r Arweinydd Ymchwil, yr Athro Ole Petersen CBE FRS: "Mae cyhoeddi ein cysyniad pancreatitis newydd y mis hwn yn benllanw ein gwaith dros y degawd diwethaf i ddiffinio'r union fecanwaith sy'n sail i ddatblygu pancreatitis acíwt. Mae ein cysyniad newydd, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi arwain am y tro cyntaf at driniaeth resymegol, sy'n cael ei phrofi ar hyn o bryd mewn treialon clinigol yn yr Unol Daleithiau."

Cafodd yr ymchwil ei chyhoeddi yng nghyfnodolyn Physiological Reviews, a’i chynnal ar y cyd â Sefydliad Ffiseg Bogomoletz yn Kyiv, Ukrain ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Jinan yn Guangzhou.

Rhannu’r stori hon