Ewch i’r prif gynnwys

Sicrhau dyfroedd croyw ar gyfer y dyfodol

river1

Rheoli trosglwyddiadau ynni i ysgogi dyfroedd croyw cynaliadwy

Mae afonydd a nentydd iach yr ucheldir yn ffynhonnell bwysig o ddŵr yfed glân ac yn cynnal yr holl fywyd gwyllt i lawr yr afon, gan gefnogi gweithgareddau dynol allweddol yn cynnwys pysgodfeydd, amaethyddiaeth a hamdden. Er hyn, mae ecosystemau dŵr croyw ymhlith y rhai sydd dan y bygythiad mwyaf yn y byd.

Canfu ymchwil yng Nghaerdydd fod trosglwyddiadau ynni gan ecosystemau afonydd yn cysylltu tirweddau, bioamrywiaeth afonydd a gwasanaethau ecosystem megis darparu dŵr glân neu bysgod. Arweiniodd eu canfyddiadau at newidiadau polisi sy’n gwarchod ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru ac ar draws y byd.

Student sampling in the river with net

Rheoli ecosystemau dŵr croyw iach

Yn y DU, caiff dalgylchoedd ucheldirol eu rheoli'n bennaf i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau â gwerth marchnad uchel - fel cig a phren. Ychydig o ystyriaeth a roddir yn aml i organebau a phrosesau'r afonydd sy'n cadw'r dyfroedd croyw hyn yn iach, ac mae hyn yn arwain at golli bioamrywiaeth a llygredd dŵr.

Mae arbenigedd Prifysgol Caerdydd mewn ecosystemau dŵr croyw wedi gwella'r rheolaeth ar ddalgylchoedd yr ucheldir, gan sicrhau ecosystemau dŵr croyw iach ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Arweiniodd tîm yr Athro Isabelle Durance brosiect DURESS, rhaglen ymchwil dŵr croyw gwerth £3.2M, a ddangosodd werth rheoli dalgylchoedd cynaliadwy ar gyfer ecosystemau dŵr croyw.

Trwy fesur a modelu amrywiadau mewn ecosystemau afonydd yng Nghymru a Lloegr, bu'r ymchwil yn meintioli’r cysylltiad coll rhwng rheoli tirwedd, bioamrywiaeth afonydd a chynaliadwyedd amrywiaeth o wasanaethau ecosystem afonydd sy’n allweddol i les dynol.

Roedd yr ymchwil yn hollbwysig wrth ddatblygu rhaglen gynaliadwy ar gyfer rheoli dŵr croyw ar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn Affrica, yn ogystal ag ysgogi ailwampio polisi ac arfer rheoli ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru.

"Roedd y prosiect yn arloesi'r syniad bod trosglwyddiadau ynni'n ysgogi cynaliadwyedd gwasanaethau ecosystem dŵr croyw a dangosodd strategaethau rheoli a fyddai'n helpu bioamrywiaeth afonydd i ffynnu. Mae hyn yn helpu i sicrhau dŵr glân a gwell lles dynol.”
Yr Athro Isabelle Durance Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

Arloesi gyda throsglwyddo ynni drwy systemau afonydd

Bu tîm Caerdydd yn edrych ar y cysylltiad rhwng bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem drwy gysyniad sylfaenol newydd wedi'i wreiddio mewn thermodynameg. Mae ynni yn mynd i mewn i ecosystemau afonydd trwy wres o'r haul a charbon, trwy ffynonellau fel dail. Dangosodd yr ymchwil fod rheolaeth dalgylch yn rheoli faint o ynni sy'n mynd i mewn i ecosystemau afonydd. Tystia'r ymchwil y caiff yr ynni ei drosglwyddo drwy'r gadwyn fwyd o ficrobau i bysgod neu adar. Roedd y cysyniad hwn yn darparu'r egwyddorion sylfaenol ar gyfer llywio penderfyniadau tirwedd.

Wye catchment

Y cysylltiad rhwng defnydd dalgylch, bioamrywiaeth dŵr croyw a gwasanaethau ecosystem

Trwy brosiect DURESS, datblygodd y tîm yr offer a’r dystiolaeth gyntaf sy’n creu cyswllt uniongyrchol rhwng ymdrechion cadwraeth bioamrywiaeth sy'n canolbwyntio ar wydnwch ecosystemau dŵr croyw a chynaliadwyedd gwasanaethau ecosystem ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Delweddu effaith tirwedd yr ucheldir ar wasanaethau ecosystem y dyfodol

Yr ucheldiroedd sy'n darparu'r rhan fwyaf o ddŵr yfed y DU. Bydd sicrhau iechyd y ffynonellau dŵr hyn yn hanfodol i iechyd pobl. Drwy ymgysylltu â 15 o randdeiliaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, roedd yr ymchwilwyr yn gallu llywio penderfyniadau rheoli i ddiogelu darpariaeth dŵr yfed glân a gwasanaethau ecosystem eraill. Mae'r ymchwil wedi sicrhau y caiff ysgogwyr newid y dyfodol yn ucheldiroedd y DU eu dadansoddi hyd at 2050.

Cwrdd â'r tîm

Cysylltiadau Allweddol