Ewch i’r prif gynnwys

Labordy yn yr awyr yn datgelu cynefinoedd hanfodol eliffantod oddi fry

21 Ionawr 2020

Airbourne Lab flying over Bornean jungle

Gwyddonwyr mewn awyrennau yn datgelu gwybodaeth hanfodol am symudiadau eliffantod trwy Borneo, gan helpu i ddatblygu cynllun ar gyfer diogelu’r rhywogaeth hon, sydd mewn perygl.

Mae ymchwil ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Canolfan Faes Danau Girang, Prifysgol Talaith Arizona a Phartneriaeth Ymchwil Coedwig Law De-ddwyrain Asia wedi cynnal yr astudiaeth ehangaf o eliffantod Borneo hyd yma, gan roi dealltwriaeth newydd o’u dewisiadau cynefin.

Mae rhyw 1,500 o eliffantod Borneo yn dal i fyw’n wyllt, yn bennaf wedi’u crynhoi yn Sabah.  Mae colli cynefinoedd wedi arwain at nifer cynyddol o farwolaethau ymhlith eliffantod, oherwydd cynnydd yn y gwrthdaro rhwng pobl ac eliffantod, potsio, gwenwyno a chipio cnydau.

I helpu i ddiogelu’r rhywogaeth eiconig o Borneo, gosododd gwyddonwyr cadwraeth goleri GPS ar eliffantod, ac olrhain eu symudiadau dros saith mlynedd, yn arsylwi sut roedden nhw’n teithio, er mwyn helpu i ddatblygu mentrau i ddiogelu eu llwybrau trwy gynefinoedd.

Dywedodd yr Athro Benoit Goossens, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Faes Danau Girang; “Mae angen i ni sicrhau bod eliffantod yn cael y lle digonol sy’n angenrheidiol i grwydro’n rhydd heb ddod i gysylltiad â phobl. Mae angen i ni greu coridorau bywyd gwyllt sydd wedi’u diogelu - ardaloedd o dir lle gall eliffantod deithio rhwng eu cynefinoedd yn ddiogel.

“I greu’r llwybrau hyn, roedd angen yn gyntaf i ni ddeall faint o le mae ar eliffantod ei angen i grwydro, yn ogystal ag ymchwilio i’r mathau o gynefinoedd maen nhw’n eu ffafrio neu mae’n well ganddyn nhw eu hosgoi.”

Benoit fitting elephant with GPS collar

Defnyddiodd yr ymchwilwyr goleri tracio a labordy mewn awyren, a elwid yn Arsyllfa Fyd-eang o’r Awyr, i ddatgelu gwybodaeth am y mathau o gynefinoedd roedd yr eliffantod yn mynd iddynt, yn ogystal ag i ble roedd yr eliffantod yn teithio.

“Fe wnaethom ni ddefnyddio llu o ddata lleoli a synhwyro o bell i ddarparu dealltwriaeth o ymddygiad poblogaethau eliffantod sydd mewn perygl difrifol o leihau neu hyd yn oed o farw allan,” meddai Dr Luke Evans, ymchwilydd ôl-ddoethurol o Ganolfan Darganfod a Chadwraeth Byd-eang Prifysgol Talaith Arizona.

Darganfu’r ymchwilwyr fod eliffantod yn mynd ati’n fwriadol i osgoi ardaloedd trefol, megis ffyrdd a phentrefi, ac yn symud yn gyflym ac yn uniongyrchol i ardaloedd lle ceir llai o lystyfiant.

“Dangosodd ein hastudiaeth fod eliffantod yn gyffredinol yn mynd ati i osgoi ardaloedd trefol, er gwaethaf lefelau cynyddol o wrthdaro rhwng pobl ac eliffantod ar draws Sabah.  Mae hyn yn awgrymu nad yw’r cynnydd ym marwoldeb eliffantod Borneo yn cael ei esbonio’n ddigonol heb gynnydd sylweddol yn yr achosion o hela gweithredol a photsio am ifori, yn ogystal ag achosion o wenwyno mewn tirweddau amaethyddol.

“Fe ganfuon ni hefyd fod eliffantod yn ffafrio teithio ar hyd cribau, sy’n awgrymu y dylai’r llwybrau hyn gael eu cynnwys mewn ardaloedd a ddiogelir yn y dyfodol, megis coridorau bywyd gwyllt.

“Trwy arsylwadau o’r awyr ac yn y maes, rydym wedi gallu darparu cipolwg hollbwysig ar yr arferion gorau wrth greu cynllun i achub y rhywogaeth hon o Borneo, sydd mor annwyl gennym,” meddai’r Athro Goossens.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth ymchwil yn y cyfnodolyn Global Ecology and Conservation ac fe’i hariannwyd gan Ymddiriedolaeth y Goedwig Law, Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, Avatar Alliance Foundation, RSPO, WWF, Sefydliad Teulu Morgan, Elephant Family, Houston Zoo, Cronfa Gadwraeth Rhywogaeth Mohamed bin Zayed, Sefydliad Eliffantod Asia, Sw ac Acwariwm Columbus, Sefydliad Cadwraeth Ocean Park, Hong Kong a Chronfa Gadwraeth Eliffantod Asia Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau.

Rhannu’r stori hon