Ewch i’r prif gynnwys

Organau bach ar gyfer darganfod cyffuriau canser

Organoids under microscope

Newid y ffordd yr ydym yn dod o hyd i driniaethau canser newydd trwy ddod â thechnegau organoid i raddfa datblygu cyffuriau.

Mae llawer o gyfyngiadau ar brofi triniaethau canser posibl newydd ar gelloedd a dyfir yn uniongyrchol ar ddysglau Petri. Mae celloedd sy'n gorwedd ar wyneb gwastad wedi'u cyfyngu o ran pa mor gywir y gallant adlewyrchu bioleg organ ddynol tri dimensiwn yn y corff. Roedd angen model gwell ar gyfer tiwmorau ar ymchwilwyr, yn ogystal â model y gellid ei gynhyrchu yn y symiau mawr sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygu cyffuriau. Roedd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu bodloni'r angen hwn a oedd heb ei ddiwallu.

Organoids under microscope

Beth yw organoid?

Mae organoidau yn adeileddau meinwe tri dimensiwn sy'n ymddwyn ac yn gweithredu fel organau bach mewn dysgl Petri. Gellir eu tyfu o fiopsïau cleifion o wahanol organau yn y corff. Bydd organoidau o feinwe tiwmor yn cynnwys celloedd canser. Mae organoidau'n cynrychioli cymhlethdod meinweoedd dynol yn well a gallant alluogi ymchwilwyr i brofi triniaethau canser newydd posibl yn fwy effeithiol a chywir.

Mae organoidau tiwmor yn offeryn darganfod cyn-glinigol pwerus ar gyfer triniaethau cyffuriau gwrth-ganser newydd. Ond er mwyn i organoidau gael eu defnyddio i ddatblygu cyffuriau, mae angen eu cynhyrchu mewn symiau mawr. Rhaid i'r rhain fod yn unffurf o ran maint ac adeiledd a rhaid bod modd atgynhyrchu'r sypiau.

“Fe wnaethon ni ddatblygu dull newydd ar gyfer twf nifer mawr o organoidau unffurf, a thrwy gydweithio â Phrifysgol Caerfaddon, roeddem yn gallu cael patent ar ei gyfer. Arweiniodd hyn at sefydlu cwmni biotechnoleg deillio o'r enw Cellesce Ltd yn 2015.”
Yr Athro Trevor Dale Deputy Head of Molecular Biosciences Division

Ar hyn o bryd mae Cellesce Ltd yn werth £15 miliwn ac mae wedi sicrhau contractau allweddol gyda chwmnïau fferyllol a datblygu ymchwil rhyngwladol.

Sut y dechreuodd

Yn wreiddiol, dechreuodd y tîm o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd weithio gydag organoidau i astudio llwybr lle mae celloedd yn cyfathrebu. Yr enw am hwn oedd llwybr signalau WNT. Mae'r mecanwaith hwn yn chwarae rhan ganolog yn natblygiad canser y colon.

Mae gan fwy na 90% o ganserau'r colon dynol fwtaniadau genetig sy'n tarfu ar swyddogaeth llwybr signalau WNT. Mae signalau WNT hefyd yn hanfodol i ffurfio organoidau coluddol.

Yn 2012, defnyddiodd yr ymchwilwyr gelloedd o ddarnau bach o diwmor colon a gasglwyd gan gleifion â chaniatâd i ddatblygu organoidau sy'n dynwared y coluddion. Roeddent yn gallu defnyddio'r organoidau coluddol hyn i brofi therapïau posibl newydd sy'n targedu llwybr signalau WNT.

ECSCRI laboratory

Mae'r broses unigryw a ddatblygwyd gan Cellesce Ltd yn galluogi cynyddu cynhyrchiant organoidau o ran nifer ac unffurfiaeth, o gymharu â dulliau eraill. Mae hyn yn galluogi mwy o gywirdeb ac ailadroddadwyedd wrth brofi cyffuriau canser newydd. Mae pob swp yn cynnwys hyd at 5 miliwn o organoidau, sy'n ddigonol ar gyfer tua 30,000 o brofion cyffuriau fesul swp. Mae dulliau eraill o ffurfio organoidau’n cefnogi tua 1,000 o brofion cyffuriau fesul swp.

Trwy ddefnyddio eu harbenigedd ymchwil mewn modelau organoid canser i ddatblygu proses â phatent, roedd yr ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Cellesce Ltd yn gallu meithrin organoidau o ansawdd uchel i gwmnïau fferyllol ar draws y byd, i'w defnyddio i ddarganfod cyffuriau.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau allweddol