Ewch i’r prif gynnwys

Dychwelyd rhywogaethau eryr coll i Gymru

18 Chwefror 2019

Image of a white tail eagle
White Tail Sea Eagle

Gallai ymchwil a gynhelir yng Nghymru arwain at ddychweliad rhywogaethau eryr coll i’n cefn gwlad, gan ddod â manteision cadwraeth ac economaidd.

Yn rhan o ymdrechion ledled Ewrop i adfer eryrod ar draws eu cwmpas bridio hanesyddol, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil i weld a oes gan dirwedd Cymru y potensial i gefnogi eu hailgyflwyniad.

Er ei fod yn arfer bod yn olygfa gyffredin yn ein hawyr, gyrrwyd yr eryr Euraid a Chynffonwen i ddifodiant yng Nghymru yng nghanol yr 1800au. Heddiw, mae cyfanswm poblogaeth Ewropeaidd y ddwy rywogaeth o eryr yn gymharol fach, ac mae niferoedd yn gostwng ymhellach mewn nifer o wledydd, yn bennaf o ganlyniad i erledigaeth ddynol a cholli cynefinoedd.

Byddai dod ag eryrod nôl i Gymru yn helpu i xxxx y rhywogaethau hyn sydd mewn perygl. Ond, er nad yw ailgyflwyno eryrod i Gymru yn gysyniad newydd, nid oes asesiad trylwyr wedi’i wneud i weld a allai fod yn bosibl hyd yn hyn.

Esboniodd arweinydd y prosiect, Sophie-lee Williams o Brifysgol Caerdydd: “Mae Cymru yn gartref i eangderau enfawr a allai fod yn addas i eryrod fyw ond, cyn i ni ddechrau ailgyflwyno’r rhywogaethau, mae llawer o gwestiynau y mae angen eu hateb am ansawdd y cynefinoedd, ac a fyddant yn diwallu anghenion eryrod.

“Trwy weithio yn agos gyda phartneriaid megis Sefydliad Bywyd Gwyllt Roy Dennis ac Ymddiriedolaeth Natur Cymru, rydym wrthi’n cynnal astudiaeth dichonoldeb llawn a fydd yn ein galluogi i ateb rhai o’r cwestiynau hyn a phennu a yw cefn gwlad Cymru yn lleoliad addas i ailgyflwyno eryr.”

Byddai ailgyflwyno eryrod i gefn gwlad Cymru yn gyflawniad o bwysigrwydd rhyngwladol o ran cadwraeth ac, fel y gwelwyd gyda phrosiectau tebyg mewn mannau eraill yn y DU ac Iwerddon, gallai hefyd ddod â manteision sylweddol i gymunedau lleol ac economïau rhanbarthol drwy dwristiaeth bywyd gwyllt.

Mae rhaglen ailgyflwyno Eryrod Cynffonwen ar arfordir gorllewinol yr Alban yn denu 1.4 miliwn yn fwy o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn, gan greu hyd at £5 miliwn o wariant twristiaid ar Ynys Mull, a chefnogi 110 o swyddi.

Mae prosiectau ailgyflwyno yn aml yn bwnc llosg, ond mae tîm y prosiect yn frwd i leddfu unrhyw bryderon ynghylch y potensial o ddychwelyd eryrod i’r wlad.

“Mae’r prosiect yng nghamau cynnar iawn ei ddatblygiad, ac nid yw ailgyflwyno yn debygol o ddigwydd am beth amser”, dywedodd Sophie-lee.

“Os yw ein hymchwil i’r dirwedd yn gadarnhaol, bydd proses ymgynghori a thrwyddedu rheoledig llym, sylweddol cyn i’r eryrod gael eu hailgyflwyno, a fyddai’n rhoi cyfle i drigolion rannu eu pryderon ac i fynd i’r afael nhw.

“Fodd bynnag, os yw’n llwyddiannus, gall y prosiect gael manteision mwy pellgyrhaeddol, sy’n helpu i adfer bioamrywiaeth Cymru sy’n gostwng, atgynhyrchu economïau lleol, a helpu statws cadwraeth eryr Aur a Chynffonwen ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.”

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil