Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu rhywogaethau mewn perygl ar lefel enetig

River

Deall amrywiadau genetig i sicrhau dyfodol rhywogaethau sydd mewn perygl

Mae gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl yn genhadaeth frys sy'n gofyn am ymagwedd amlochrog. Er gwaethaf twf geneteg cadwraeth, mae wedi methu â chael ei defnyddio'n effeithiol mewn gweithgarwch cadwraeth yn y byd go iawn. Defnyddiodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd eu harbenigedd mewn geneteg cadwraeth i asesu amrywiaeth genetig a monitro amrywiaeth genetig mewn cadwraeth ac amlygu meysydd o berygl. Cafodd eu hymchwil effaith uniongyrchol ar bolisïau  rhyngwladol ar fridio detholus o rywogaethau mewn perygl, gwell arferion cadwraeth a safonau cadwraeth byd-eang.

Orangutan

Pwysigrwydd amrywiad genetig

Mae amrywiad genetig yn elfen hanfodol o amrywiaeth fiolegol ac mae'n ffactor pwysig wrth ddatblygu gwydnwch poblogaethau, rhywogaethau ac ecosystemau yn erbyn newidiadau amgylcheddol. Helpodd cyfres o astudiaethau ymchwil Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Mike Bruford, i fynd i'r afael â'r bwlch hwn. Gan ganolbwyntio ar ddadansoddi genetig a bioamrywiaeth mewn rhywogaethau anifeiliaid gwyllt a dof, tynnwyd sylw ganddynt at gydadwaith cymhleth rhwng geneteg, ymddygiad, strwythurau cymdeithasol, yr amgylchedd ffisegol a gweithgareddau dynol sy'n ofynnol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth.

Llwyddodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd i ddefnyddio geneteg cadwraeth mewn ymdrechion cadwraeth i gael effaith yn y byd go iawn trwy asesu amrywiaeth genetig rhywogaethau i ddeall faint o rywogaethau sy'n cael eu colli mewn ystod o boblogaethau amrywiol o rywogaethau sydd dan fygythiad a mesur graddau llawn colled genetig mewn poblogaethau gwyllt.

Mae’r math hwn o ddadansoddiad yn galluogi camau cadwraeth:

  • Symud anifeiliaid i wella bridio lleol sy'n gwarchod neu'n gwella amrywiaeth genetig ac yn gwella niferoedd poblogaethau.
  • Casglu data genetig i fonitro poblogaethau o bryder cadwraethol, gan sicrhau bod poblogaethau caeth yn gynrychioliadol o amrywiaeth genetig y boblogaeth wyllt lawn.
  • Tynnu sylw at effeithiau niweidiol trin genetig bwriadol ar fywyd gwyllt, sef arferion sy’n cael eu hysgogi gan sefydliadau sy’n blaenoriaethu dyheadau twristiaid a helwyr anifeiliaid mawr, yn hytrach na buddiannau gorau cadwraeth rhywogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys dulliau megis bridio heb ei reoleiddio, mewnfridio, croesrywio a symud anifeiliaid.

Roedd defnyddio dulliau ymchwil Prifysgol Caerdydd yn atgyfnerthu ymagwedd at gadwraeth a oedd yn blaenoriaethu asesu data genetig i lywio ymarfer cadwraeth ar lawr gwlad.

Effeithiau

Brwydro yn erbyn trin genetig wrth hela Troffïau

Elephants

Mae hela Troffïau yn Namibia yn ddiwydiant gwerth miliynau o ddoleri mewn rhai o wledydd Affrica. Mae bridio anifeiliaid mawr ar gyfer hela â nodweddion genetig annaturiol, fel lliwiau cotiau newydd penodol, wedi dod yn fygythiad i fioamrywiaeth naturiol.

Yn seiliedig ar ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Isa-Rita Russo, lansiodd Llywodraeth Namibia Bolisi Cenedlaethol ar gyfer Bridio Bywyd Gwyllt Dethol a Dwys at Ddibenion Masnachol i ddiogelu hyfywedd hirdymor poblogaethau bywyd gwyllt. Roedd y polisi yn ymrwymo i reoleiddio'r arfer o fridio detholus a dwys trwy ddatblygu rheoliadau.

“Mae cyfranogiad Grŵp Arbenigol Geneteg Cadwraeth yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur trwy’r Athro Mike Bruford a chyhoeddiad diweddar yr erthygl Intentional Genetic Manipulation as a Conservation Threat wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad ein meddylfryd polisi yn y maes hwn.”
Dirprwy Gyfarwyddwr Monitro ac Ymchwil Bywyd Gwyllt yn Weinyddiaeth yr Amgylchedd a Thwristiaeth, Namibia

Diogelu sgincod Bojer

Bu gostyngiad aruthrol ym mhoblogaeth sgincod Bojer, sy’n bodoli ond ar nifer bach o ynysigau sy’n perthyn i Fawrisiws. Oherwydd bod dyfodol sgincod Bojer mor ansicr, fe’u gwnaed yn flaenoriaeth gritigol i Sefydliad Bywyd Gwyllt Mawrisiws.

Bu ymchwilwyr o  Brifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Isa-Rita Russo, yn dadansoddi amrywiaeth enetig poblogaeth leol y sgincod a llwyddodd i gynorthwyo’n llwyddiannus gydag ymdrechion cadwraeth Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol Mawrisiws a Sefydliad Bywyd Gwyllt Mawrisiws. Roedd eu hymchwil yn cefnogi ailsefydlu poblogaethau’r sgincod ar ynysoedd lle bu gostyngiad sylweddol yn y poblogaethau brodorol.

Brogaod Cyw Iâr Mynydd Montserrat

Mae poblogaeth Brogaod Cyw Iâr Mynydd Montserrat wedi gostwng dros 90%, o ganlyniad i haint ffyngaidd o'r enw chytridiomycosis amffibiaid.

Bu Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Durrell yn defnyddio ymchwil Prifysgol Caerdydd i amrywiaeth genetig Brogaod Cyw Iâr Mynydd Montserrat i wella eu rhaglen fridio mewn caethiwed. Dan arweiniad Pablo Orozco-ter Wengel, dyma oedd yr ymchwil gyntaf i ddisgrifio effaith y clefyd chytridiomycosis amffibiaid ar amrywiaeth genetig y rhywogaeth. Roedd y canlyniadau yn galluogi Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Durrell i ddylunio rhaglen fridio newydd mewn caethiwed i adfer y rhywogaeth.

Achub rhinoseros Affrica

Mother and baby black rhinos

Mae ymdrechion cadwraeth ar gyfer poblogaethau rhinoseros Affrica yn her frys. Roedd y data genetig yn darparu gwybodaeth hanfodol i ymdrechion cadwraeth y rhywogaeth eiconig.

Roedd Grŵp Arbenigol Rhinoserosod Affrica yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur yn gwerthfawrogi ymchwil cadwraeth genetig Prifysgol Caerdydd.

“Datblygwyd ein haddysg geneteg trwy’r ffordd ddealladwy a chlir y cyflwynodd yr Athro Bruford y materion a’r cysyniadau genetig diweddaraf.”
Cadeirydd a Swyddog Gwyddonol Grŵp Arbenigol Rhinoserosod Affrica yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Effaith fyd-eang ar safonau bioamrywiaeth

Rhino Hornbill, image copyright Rudi Delvaux
Rhino Hornbill, image copyright Rudi Delvaux

Defnyddiodd y Grŵp ar Arsylwadau'r Ddaear, sef cydweithrediad byd-eang o 111 o lywodraethau'r byd a 129 o sefydliadau eraill a gymerodd ran, ddata i fynd i'r afael â rhai o heriau amgylcheddol a chynaliadwyedd mwyaf cymhleth y byd.

Bu’r cydweithrediad yn gweithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd i ymchwilio i’r safonau byd-eang ar gyfer monitro bioamrywiaeth enetig, gan chwarae rhan allweddol wrth gynhyrchu safonau byd-eang monitro genetig bioamrywiaeth.

Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd wedi llunio polisi byd-eang ynghylch cadwraeth enetig, gan gynnwys dylanwadu ar bolisi Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig a Strategaeth Bioamrywiaeth 2030 yr UE. Yn y pen draw, mae eu heffaith wedi trawsnewid polisi ac arferion cadwraeth sy'n gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl ledled y byd.