Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau ymchwil PhD sydd ar gael

Nid yw'r prosiectau canlynol yn cael eu hariannu gan Brifysgol Caerdydd, ond maent yn agored i ymgeiswyr sy'n ariannu eu hunain neu sydd â chyllid allanol.

Biofeddygaeth

Prosiect: Rôl amrywiolion sbleis wrth reoleiddio swyddogaeth BRCA1
Goruchwylwyr: Yr Athro Matt Smalley, Dr Helen PearsonDr Guisy Tornillo

Prosiect: Rheoleiddio cellraniad anghymesur ym môn-gelloedd canser yr ymennydd
Goruchwylwyr: Dr Florian SiebzehnrublDr Fernandi Anjos-Afonso

Prosiect: Therapiwteg newydd ar gyfer canser y fron, canser y pancreas a chanser cholorhefrol
Goruchwylwyr: Dr Richard Clarkson, Professor Andrew Westwell (Fferylliaeth) a Dr Andrea Brancale (Fferylliaeth)

Prosiect: Golygu epigenetig mewn celloedd ysgyfaint dynol ar gyfer darganfod gyrrwyr a thriniaethau newydd ar gyfer clefydau cronig yr ysgyfaint
Goruchwylwyr: Dr Renate Jurkoska, Dr Tomasz Jukowski (Healthcare) a Dr Catherine Hogan

Prosiect: Ymchwilio i'r cysylltiad rhwng trafferthion cyn geni, trafferthion endocrinaidd y brych ac iselder mewn mamau
Goruchwylwyr: Professor Ros John

Prosiect: Nodweddion imiwnotherapi bacteriol gwell i drin canser colorhefrol
Goruchwylwyr: Dr Lee Parry

Prosiect: Effaith cydrannau dietegol ar homeostasis bôn-gelloedd y coluddyn a'r risg o ganser
Goruchwylwyr: Dr Lee Parry

Prosiect: Rôl bôn-gelloedd niwrol a niwronau newydd wrth reoleiddio homeostasis ynni
Goruchwylwyr: Dr David Petrik

Prosiect: Mecanweithiau molecwlaidd sy'n sail i weithredoedd gwrth-atherogenig cynhyrchion naturiol
Goruchwylwyr: Yr Athro Dipak Ramji

Dysgwch ragor am ein hymchwil i fiofeddygaeth.

Biowyddorau Moleciwlaidd

Prosiect:  Cyfathrebu pellter byr a hir mewn canser:  Rheoleiddio adborth o signalau Ras mewn tumorigenesis a cachecsia
Goruchwylwyr: Dr Fisun Hamaratoglu

Prosiect: Gwneud sawl math o sberm yn yr un ceilliau - Rheolaeth drawsgrifiadol o heteromorffiaeth sberm
Goruchwylwyr: Yr Athro Helen White-Cooper

Prosiect: Rheoleiddio trawsgrifiadol yng ngheilliau melanogaster Drosoffa
Goruchwylwyr: Yr Athro Helen White-Cooper

Prosiect: Gwell gyda'n gilydd: adeiladu oligomerau protein wedi'u peiriannu gan ddefnyddio bioleg synthetig
Goruchwylwyr: Yr Athro Dafydd Jones

Prosiect: Bioleg peirianneg ar gyfer electroneg y genhedlaeth nesaf: Adeiladu cylchedau bionanohybrid integredig yn ôl dyluniad
Goruchwylwyr: Yr Athro Dafydd Jones

Prosiect: Efelychu a dadansoddi strwythur DNA mewn perthynas â llwybrau trwsio
Goruchwylwyr: Dr Georgina Menzies

Prosiect: Synhwyro amgylcheddau biomoleciwlaidd lleol gyda nanosgopi optegol cydlynol
Goruchwylwyr: Yr Athro Paola BorriYr Athro Wolfgang Langbein (Physics)

Prosiect: Taflu goleuni newydd ar ryngweithiadau cellbilen protein-lipid sengl
Goruchwylwyr: Yr Athro Paola BorriYr Athro Wolfgang Langbein (Physics)

Prosiect: Dehongli rôl parthau rhyng-gellog P2X7 wrth gyplu â signalau i lawr y gadwyn
Goruchwylwyr: Dr Mark Young

Prosiect: Deall straen a synhwyroledd planhigion i leihau gwastraff bwyd a gwella diogelwch bwyd
Goruchwylwyr: Dr Hilary RogersDr Carsten Muller

Prosiect: Strategaethau Pistill-Paill wrth atgynhyrchu planhigion: Derbyn neu Wrthod
GoruchwylwyrDr Barend H. J. de Graaf

Dysgwch ragor am ein hymchwil i fiowyddorau moleciwlaidd.

Organebau a'r amgylchedd

Prosiect: Ecoleg tirweddau a geneteg rhywogaethau Borneaidd sy'n byw mewn tirwedd dameidiog
Goruchwylwyr: Dr Pablo Orozco ter WengelYr Athro Benoit Goossens

Prosiect: Genomeg tirweddau ac addasiadau lleol mewn rhywogaethau da byw
Goruchwylwyr: Dr Pablo Orozco ter Wengel

Prosiect: Strwythur a swyddogaeth tocsinau protein pryfleiddiol
Goruchwylwyr:  Yr Athro Colin Berry

Dysgwch ragor am ein hymchwil i organebau a'r amgylchedd.

Niwrowyddoniaeth

Prosiect: Rôl ar gyfer metaboledd colesterol mewn anhwylder niwroddatblygiadol
Goruchwylwyr: Yr Athro Meng Li

Prosiect: Nodi rheolyddion interniwron cortigol newydd sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwroseiciatrig
Goruchwylwyr: Yr Athro Meng Li

Prosiect: Modelu anhwylder haploingynhaliaeth Setbp1 gan ddefnyddio niwronau sy'n deillio o hESC a diwylliannau organoid cerebrol
Goruchwylwyr: Yr Athro Meng Li a Dr Lucia Cardo

Prosiect: Niwronau dopamin A10: y cyswllt coll mewn therapiwteg celloedd ar gyfer clefyd Parkinson?
Goruchwylwyr: Dr Mariah Lelos

Prosiect: A yw gostyngiad mewn huntingtin naturiol mewn ymennydd oedolyn yn effeithio ar swyddogaeth wybyddol?
Goruchwylwyr: Dr Mariah Lelos

Prosiect: Deall rôl nam yn y llwybr awtoffagi-lysosomaidd er mwyn datblygu meddyginiaethau ar gyfer trafferthion niwrolegol ôl-feirysol
Goruchwylwyr: Dr Emyr Lloyd-EvansDr Helen Waller-Evans

Dysgwch ragor am ein hymchwil i niwrowyddoniaeth.

Gwnewch eich cynnig ymchwil eich hun

Mae ein goruchwylwyr academaidd yn agored i geisiadau gan fyfyrwyr sy'n ariannu eu hunain. Gallwch gysylltu ag aelodau staff o’r is-adran ymchwil berthnasol i drafod cynigion ymchwil posibl: