Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd yn yr iaith Gymraeg

Rydym yn cefnogi myfyrwyr sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac yn cynnig cyfleoedd i wneud hynny lle bo'n bosibl.

Rydym yn gallu cynnig tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg i'r holl fyfyrwyr sy'n dynodi y byddai'n well ganddyn nhw hyn.

Mae'n debygol y gall ambell elfen o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn trafodaeth gyda Swyddog Cyswllt iaith Gymraeg yr Ysgol Biowyddorau, gael ei drefnu drwy amrediad o gynlluniau gradd.

Yn unol â pholisi Prifysgol Caerdydd, gall yr holl fyfyrwyr, os ydyn nhw'n dymuno, sefyll eu harholiadau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg (dyddiadau cau ar gyfer hysbysu bwriad yn cael eu harddangos o ddechrau'r flwyddyn academaidd).

Mae myfyrwyr biowyddorau yn cael eu hannog i fynychu, yn eu hamser eu hunain, gweithgareddau cyfrwng Cymraeg eraill sydd wedi'u trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Wyddonol Caerdydd (cyfarfod gwyddonol misol).