Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Mae Ysgol Biowyddorau Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ymchwil ôl-raddedig cyffrous i'ch helpu chi i ddatblygu eich gyrfa wyddonol i'r lefel nesaf.

Barn rhai o'n myfyrwyr ôl-raddedig presennol

Mae’r cyfleoedd ymchwil ol-raddedig yn Ysgol Biowyddorau Caerdydd yn cynnwys MRes mewn Biowyddoniaeth blwyddyn o hyd ac amrywiaeth eang o raglenni ymchwil tair a phedair blynedd o hyd.

Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa yn y gwyddorau biolegol neu biofeddygol. Fe gewch rwydd hynt i ymchwilio’n ddwfn i bwnc cyfoes, gweithio gydag ymchwilwyr blaenllaw a defnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae gennym fri mawr am ansawdd ein hymchwil ac am ddenu grantiau ymchwil helaeth o amrywiaeth o ffynonellau.

MRes

MRes

Mae’r cymhwyster ôl-raddedig gwerthfawr hwn wedi’i gynllunio i'ch helpu i wella a datblygu eich sgiliau fel ymchwilydd gwyddonol.

PhD a MPhil

PhD a MPhil

Mae ein graddau ymchwil yn eich galluogi i ymchwilio’n ddwfn i bwnc cyfoes, gan weithio gydag ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn ei maes.