Ôl-raddedig a addysgir
Datblygwch eich sgiliau, eich dealltwriaeth a'ch rhagolygon gyrfa gyda'n rhaglenni ôl-raddedig.
Bioleg Data Mawr (MSc)

O ficrobiomau, ffenomau a genomau i ecosystemau cyfan, mae biolegwyr yn casglu setiau data mwy a mwy cymhleth. Gwella eich cyflogadwyedd drwy ddysgu sut i gasglu, modelu a dehongli data mawr - sgiliau y mae'r byd academaidd, llywodraeth a diwydiant yn galw amdanynt.
Bydd ymagwedd unigryw, gyfannol ein MSc Bioleg Data Mawr arloesol yn eich galluogi i ddefnyddio platfformau data mawr arloesol i fynd i'r afael â heriau y mae bioleg ddatblygiadol yn eu cynnig wrth oruchwylio clefydau ac ecoleg.
Mae wedi'i alinio'n uniongyrchol â'r dechnoleg gyfredol, o ddilyniannu genomau i fio-ddelweddu, ac mae ein MSc yn ymdrin â meysydd craidd fel bioleg systemau, biowybodeg, ystadegau a dulliau 'omeg'. Gan ganolbwyntio ar hyfforddiant rhyngddisgyblaethol ymarferol, byddwch yn dysgu sut i gasglu data mawr a'i fodelu i'w ddadansoddi ar wahanol raddfeydd biolegol - o foleciwlau i ecosystemau.
Gwrandewch ar Gyfarwyddwr y Cwrs, Dr Veronica Grieneisen, sy’n siarad am yr MSc yn ein podlediad ynghylch Bioleg Data Mawr.
Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang (MSc)

Mae'r byd yn wynebu heriau digynsail, ac er mwyn ymateb i'r heriau hyn, mae angen gwyddonwyr arloesol a hyblyg arnom sy'n gallu datblygu strategaethau cadwraeth sy’n cael effaith wirioneddol.
O afonydd de Cymru i goedwigoedd glaw Borneo, mae ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yn cwmpasu'r prif ystyriaethau cadwraeth sy'n effeithio ar amrywiol gynefinoedd ledled y byd.
Gyda hyfforddiant mewn meysydd craidd, fel arolygon bywyd gwyllt, asesiadau bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau, byddwch yn dysgu sut i adnabod bygythiadau cyfredol a newydd i rywogaethau ac ecosystemau, ac yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn gyda datrysiadau effeithiol a graddadwy.
Rydym hefyd yn cynnig arbenigedd addysgu ar gyfer yr MSc mewn Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol gan Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER).
Y cwrs hwn oedd y cyntaf o’i fath yn y DU a’i nod yw rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau uwch ym maes gwyddoniaeth ac ymarfer peirianneg meinweoedd i raddedigion o gefndiroedd gwyddorau bywyd a chlinigol. Mae’n cynnwys elfennau o wyddoniaeth ddamcaniaethol, rhoi ymchwil ar waith a chamau cymhwyso clinigol.
Mae'r cwrs yn seiliedig ar ddarlithoedd a gwaith labordy ac mae’n cynnwys nifer o gyfleoedd i ymweld â lleoliadau clinigol perthnasol a phartneriaid diwydiannol lleol.
Ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr y DU yn dechrau cwrs gradd Meistr yn Medi 2023.