Ewch i’r prif gynnwys

Seicoleg

Rydym yn darparu amgylchedd rhagorol ar gyfer ymchwil ym maes seicoleg, gydag arweiniad gan ymchwilwyr enwog a mynediad at gyfleusterau rhagorol.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys ymchwil drosi newydd, wedi’i harwain gan fyfyrwyr, yn pontio disgyblaeth gyfan seicoleg ac mae’n eich galluogi i gynnal ymchwil a hyfforddiant yn y maes o’ch dewis.

Cewch gyfle i gyfrannu at ddatblygiadau arwyddocaol mewn gwybodaeth o dan oruchwyliaeth ymchwilwyr gweithgar, llawer ohonynt yn arbenigwyr enwog yn rhyngwladol yn eu maes.

Nodau'r rhaglen

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd sy'n ymwneud â gwaith ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol.

Nodweddion unigryw

  • Cynhelir ymchwil mewn meysydd arbenigol mewn nifer fawr o labordai pwrpasol sydd i gyd wedi eu hadnewyddu o fewn y pum mlynedd diwethaf
  • Gan fod cymaint o amrywiaeth o arbenigedd yn yr Ysgol, gallwn ni ddarparu hyfforddiant mewn amrywiaeth anarferol o fawr o dechnegau methodolegol
  • Mae ein hintegreiddio ar draws y gwahanol ddisgyblaethau yn esgor ar gyfleoedd unigryw i wneud prosiectau ymchwil amlddisgyblaethol
  • Cyfleusterau ymchwil rhagorol: Dros 1,100 metr sgwâr o ofod labordy arbenigol; ystod eang o gyfleusterau delweddu'r ymennydd gan gynnwys un o sganwyr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop; cyfleusterau seicoleg ddatblygiadol pwrpasol gan gynnwys ystafell synhwyraidd, labordai arsylwi a gofod labordy wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer astudiaethau o blant ac oedolion

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD
Hyd amser llawn 3 blynedd
Hyd rhan-amser Cyfleoedd ar gael
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Mae hyfforddiant ymchwil yn nodwedd gref o’n rhaglen PhD Seicoleg. Gallai ymchwil ôl-radd mewn Seicoleg Gymdeithasol gwblhau’r MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (neu gyfwerth) cyn cofrestru ar gyfer eu PhD.

Ar gyfer myfyrwyr a ariennir drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC, mae hyn yn orfodol.

Yn ystod y PhD, byddwch yn cael cyfleoedd i gael eich hyfforddi mewn llawer o'r technegau sy'n berthnasol i'ch maes pwnc, ac i ennill profiad o brosiectau tu hwnt i’ch prosiect eich hun, er mwyn cryfhau eich arbenigedd ymchwil a’ch rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.

Erbyn yr adeg mae ein myfyrwyr wedi cwblhau eu PhD, bydd y rhan fwyaf wedi cyhoeddi papurau gwyddonol mewn cyfnodolion blaenllaw sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid, ac yn mynd ymlaen i sicrhau swyddi mewn meysydd academaidd neu feysydd nad ydynt yn academaidd.

Asesiad

Asesir y rhaglen hon yn seiliedig ar ganlyniad yr ymchwil a gynhyrchir d(traethawd o 80,000 o eiriau a viva voce).

Mae’r ymchwil a wneir yn yr Ysgol yn amrywio o ‘o’r synaps i gymdeithas’ ac yn cynnwys ymddygiad normal wrth ddatblygu ac mewn oedolion, chwalfa gwybyddiaeth ar ôl straen, trawma ac mewn cyflyrau niwrolegol a/neu enetig, yn ogystal â materion seicolegol allweddol sydd o bwys i gymdeithas, fel rhagfarn, iechyd atgenhedlol ac optimeiddio perfformiad yn y gwaith.

Rydym yn gwneud ymchwil wyddonol a rhyngddisgyblaethol ragorol o dan bedair thema ymchwil gyfoes:

  • Niwrowyddoniaeth, gan gynnwys niwrowyddoniaeth ymddygiadol, niwrowyddoniaeth wybyddol a gwyddoniaeth ddelweddu
  • Seicoleg Wybyddol, gan gynnwys seicoleg wybyddol, a chanfod a gweithredu,
  • Seicoleg Datblygu ac Iechyd
  • Seicoleg Gymdeithasol ac Amgylcheddol, gan gynnwys seicoleg gymdeithasol, a risg a’r amgylchedd

Mae gwybodaeth fanwl am bob un o’r meysydd ymchwil ar gael ar dudalennau ymchwil gwefan yr Ysgol.

Goruchwylwyr

Ceir rhestr lawn o broffiliau’r staff ar dudalennau’r Staff ar wefan yr Ysgol.

Cyfleusterau ymchwil

Mae manylion llawn o gyfleusterau ymchwil ar gael ar dudalennau Cyfleusterau gwefan yr Ysgol.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym yn cynnig tri math o gyfleoedd a ariennir:

  • Ysgoloriaethau agored
  • Prosiectau a ariennir yn benodol
  • Cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phartner.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Fe arfer mae angen gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth o brifysgol yn y DU, neu gymhwyster cyfwerth, mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth gysylltiedig.

Gofynion Iaith Saesneg

Bydd angen isafswm sgôr IELTS o 6.5 (o leiaf 6.5 ym mhob cydran).

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

I ddechrau eich cais, llenwch y ffurflen 'Gwneud cais' a dewiswch y rhaglen, y dull astudio a'r flwyddyn mynediad sydd orau gennych.

Pan fydd gennych syniad o'r hyn yr hoffech ymchwilio iddo, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar ein proffiliau staff academaidd i weld pa aelod(au) staff sydd â diddordebau ymchwil tebyg i chi. Yna gallwch gysylltu â nhw a rhoi syniad cryno iddynt o'r hyn yr hoffech ymchwilio iddo.

Nodwch y dylech gysylltu ag aelodau staff llawn yn unig ac nid swyddogion cyswllt ymchwil. Os ydyn nhw'n cytuno ac â diddordeb mewn derbyn cais gennych chi, yna dylech wneud cais yn y ffordd arferol.

Mae myfyrwyr sydd eisoes wedi cysylltu â'r tiwtor perthnasol yn llawer mwy tebygol o gael eu derbyn na'r rhai sy'n gwneud cais heb wneud hyn.

Gyda phob cais, dylech gynnwys geirda academaidd, CV cyfredol a datganiad personol.

Ysgoloriaethau a ariennir

Bydd ein tudalen ysgoloriaethau PhD a ariennir yn rhestru cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig pan fydd cyllid yn dod ar gael.

Chwilio am ysgoloriaethau PhD a ariennir.

Gyda phob cais, dylech gynnwys CV cyfredol a datganiad personol.

Sylwch mai dim ond un ffurflen gais y gallwch ei chyflwyno fesul dyddiad cychwyn. Os ydych yn gwneud cais i nifer o brosiectau hysbysebu wedi'u hariannu gyda'r un dyddiad cychwyn, cyflwynwch un ffurflen gais a rhowch lythyr eglurhaol i bob goruchwyliwr ar gyfer pob prosiect, gan nodi enw'r prosiect, enw'r goruchwyliwr a'r cyllidwr yn glir. Dylech gynnwys CV cyfredol a datganiad personol gyda'r holl geisiadau.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Seicoleg PhD Ymholiadau

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig