Mae’r fyfyrwraig MA Dylunio Pensaernïol Fangyi Ke wedi ennill un o Fwrsariaethau Dylunio pwysig LDA yn sgîl ei dyluniad 'House of Cards'. Nod y dyluniad yw cyfannu myfyrwyr cartref a rhyngwladol amrywiol Prifysgol Caerdydd drwy greu empathi pwrpasol ym maes dylunio trefol.
Mae ymchwil Mohammed yn canolbwyntio ar gofnodi a gwerthuso perfformiad thermol a chanfyddiadau cyfforddusrwydd thermol trigolion tai un teulu cynhenid a chyfoes yn hinsawdd boeth a hynod sych Al-Qassim, Sawdi-Arabia.
Mae cyhoeddiad yr Athro Oriel Prizeman The Carnegie Libraries of Britain: A Photographic Chronicle, sef un o allbynnau’r prosiect Shelf-Life (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau), wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr.
Enillodd y myfyriwr MSc Mega-adeiladau Cynaliadwy Deepak Sadhwani a'i dîm 'Wye Not Wood’ y wobr gyntaf yn Her Ddylunio’r Prifysgolion: TDUK Southside Hereford 2022.