Ewch i’r prif gynnwys

Dr Eshrar Latif yn ennill grant ymgynghoriaeth ymchwil ddiwydiannol i brofi bio-ddeunyddiau adeiladu

22 Tachwedd 2022

Dr Eshrar Latif and Hadleigh Hobbs, Managing Director at Wellspring Homes
Dr Eshrar Latif and Hadleigh Hobbs, Managing Director at Wellspring Homes

Yn ddiweddar enillodd Dr Eshrar Latif grant ymgynghoriaeth ymchwil ddiwydiannol i gydweithio â'r cwmni adeiladu o Gymru, Wellspring Homes, i nodweddu ac optimeiddio bio-ddeunyddiau adeiladu, ac i brofi eu perfformiad.

Bydd Dr Latif yn gweithio ar y cyd â Wellspring Homes, cwmni adeiladu sy'n adeiladu cartrefi newydd, fforddiadwy, a'i nod yw gosod y safon ar gyfer byw'n gynaliadwy drwy ddilyn arloesedd adeiladu sy'n defnyddio technoleg carbon gwell na sero i ddarparu'r genhedlaeth nesaf o ofod byw.

Bydd yr ymchwil yn seiliedig ar fio-ddeunyddiau; deunyddiau sy'n tyfu neu'n rhan naturiol o'r biosffer megis pren, gwellt, cywarch, corc, clai, a phridd. Fel arfer, mae'r deunyddiau hyn wedi rhyddhau llai o garbon, gyda phren tua 3 gwaith yn llai na dur a thros 5 gwaith yn llai na choncrit. Bydd y prosiect yn cynnwys monitro nifer o adeiladau cywarch sydd ar y gweill yng Nghymru ar ôl y gwaith cychwynnol o optimeiddio’r bio-ddeunyddiau adeiladu. Yna bydd Wellspring Homes yn rhyddhau data ffynhonnell agored y gallai adeiladwyr cartrefi ac ymchwilwyr ei ddefnyddio yn y dyfodol. Bydd y prosiect blwyddyn o hyd yn dechrau o ganol Tachwedd 2022.

Meddai Dr Eshrar Latif:  'Mae Cymru bob amser ar flaen y gad o ran hyrwyddo a datblygu adeiladau cynaliadwy arloesol ac rwy'n gyffrous i gyfrannu at gynllun tai cynaliadwy newydd a arweinir gan Wellspring Homes."

Rhannu’r stori hon