Ewch i’r prif gynnwys

Gwartheg sy’n dioddef oherwydd y gwres yn cael prosiect newydd gwerth £1.24 miliwn

10 Mawrth 2023

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cydweithio ar brosiect newydd i liniaru problem straen gwres buchod godro gan fod hyn yn lleihau’r cnwd, ffrwythlondeb, swyddogaethau’r system imiwnedd a lles y fuwch yn gyffredinol.

Mae ymchwilwyr yn ceisio deall y berthynas rhwng y tymheredd yn y fan a’r lle, creu microhinsoddau, prosesau ffisiolegol buchod a newidiadau yn ymddygiad gwartheg. Yn y pen draw, bydd cyfnodau o straen gwres yn parhau i effeithio ar les anifeiliaid a’r cynnyrch llaeth os nad ydyn ni’n mynd i’r afael â’r rhain drwy newid arferion. Mae cynnydd yn y tymheredd oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd yn mynd i waethygu'r broblem, yn ôl arbenigwyr.

Mae’r gwaith ar y cyd rhwng Prifysgol Reading, Caerdydd, Caerwysg a Choleg Prifysgol Writtle yn brosiect ymchwil gwerth £1.24 miliwn a ariennir gan y BBSRC ar liniaru straen gwres buchod godro yng nghyd-destun creu microhinsoddau.  Dyma brosiect amlddisgyblaethol sy’n cwmpasu ymchwil yn y Gwyddorau Anifeiliaid a Llaeth, Mathemateg, a Pheirianneg yr Amgylchedd Adeiledig.

Dyma’r hyn a ddywedodd Chris Reynolds, Athro Gwyddorau Anifeiliaid a Llaeth ym Mhrifysgol Reading: “Hwyrach y bydd straen gwres oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd yn cael canlyniadau negyddol a difrifol o ran iechyd a chynhyrchiant buchod godro. Mae gan fuchod llaetha fetaboledd uchel, ac mae hyn yn golygu eu bod yn goddef tymheredd uchel yn llai.

“Mae ymchwil yn hollbwysig i lywio a llunio strategaethau rheoli buchod a chynlluniau creu microhinsoddau yn y dyfodol. Mae’n rhaid inni ymateb i’r amgylchedd sy’n newid a deall yn well sut mae buchod yn ymateb i’r gwaith o ddylunio adeiladau â microhinsoddau a systemau rheoli sy’n lleihau straen gwres ac yn cynorthwyo systemau llaeth mwy cynaliadwy.”

Cadw llygad barcud ar y fuches

Bydd ymchwil yn digwydd yng Nghanolfan Ymchwil Llaeth Prifysgol Reading (CEDAR) ac ar chwe fferm laeth fasnachol ledled y DU. Bydd ymddygiad buchod unigol yn cael ei olrhain, gan ddefnyddio technoleg a all roi cipolwg ystyrlon ar eu patrymau symud, eu gweithgarwch yn ogystal â’r ffordd y mae buchesau’n defnyddio lle. Bydd hyn yn cael ei gyfuno â monitro microhinsoddau yn yr ysgubor yn barhaus gan ddefnyddio synwyryddion, a hynny i fodelu a rhagweld y rhyngweithio cymhleth rhwng dewisiadau ymddygiadol y buchod a'r beudai dan do.

Rydyn ni’n gwybod bod buchod yn addasu eu hymddygiad i geisio ymdopi â thymheredd a lleithder uchel: hwyrach y byddan nhw’n yfed rhagor o ddŵr, yn chwilio am gysgod neu leoedd lle mae rhagor o awyr, neu’n ymateb mewn ffyrdd ymddygiadol unigol a chymdeithasol eraill, a gallwn ni arsylwi pob un o’r rhain.

“A ninnau’n benseiri a dylunwyr adeiladau, rydyn ni wedi blaenoriaethu tai i bobl yn bennaf, gan esgeuluso anghenion anifeiliaid yn aml,” meddai’r Athro Zhiwen Luo o Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

“Fodd bynnag, gan fod effaith newidiadau yn yr hinsawdd yn bygwth pob bod byw, mae’n hollbwysig ein bod yn cydnabod pa mor fregus yw anifeiliaid, yn enwedig eu gallu cyfyngedig i addasu i dywydd eithafol. Gyda hyn mewn golwg, nod ein prosiect newydd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw dylunio beudai gwell ar gyfer gwartheg godro yn y DU, gan eu hamddiffyn yn well rhag gwres eithafol a gwella eu lles yn gyffredinol.”

Bydd monitro microhinsawdd beudai’n barhaus gan ddefnyddio synwyryddion (tymheredd, lleithder, safon yr aer) ac arolygon awyru manwl yn digwydd hefyd a chânt eu cyfuno â data ffisiolegol (megis tymheredd y corff, cynhyrchiant a darlleniadau iechyd). Bydd hyn yn golygu y gallwn ni dadansoddi’n fanwl sut mae buchod godro dan do yn ymateb i straen gwres dros gyfnodau gwahanol o amser a sut y byddan nhw’n ymdopi â’r rhain.

Bydd y data a gesglir yn llywio’r gwaith o ddatblygu beudai a ddyluniwyd i leihau straen gwres a gwella lles.

Yr ymchwil gyntaf o'i bath

Nid yw’r dull y mae’r tîm yn ei ddefnyddio, sef defnyddio synwyryddion pwrpasol Omnisense a Smartbell, yn ogystal â modelu sut mae dylunio adeiladau’n dylanwadu ar ficrohinsoddau beudai ac ymddygiad buchod o ganlyniad i hynny, erioed wedi’i wneud o’r blaen, felly rydyn ni’n torri tir newydd yn hyn o beth

Mae’r consortiwm ymchwil hefyd yn cael cymorth byd diwydiant gan AHDB (Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth y DU), The Dairy Group, Etex, Innovation for Agriculture, a Map of Ag, yn ogystal ag Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU). Gan weithio gyda’r partneriaid hyn, y nod yw rhoi atebion ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddiwydiant llaeth y DU ym maes lleihau a rheoli straen gwres.

Rhannu’r stori hon