Ewch i’r prif gynnwys

Dr Federico Wulff, Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Pensaernïol a Threfol, yn cefnogi cadwraeth treftadaeth genedlaethol yn ystod ymweliad â Chile

15 Chwefror 2023

Federico Wulff and Chris Whitman (WSA) with Renato D'Alencon, Director of International of the School of Architecture of the Universidad Catolica of Chile-UC
Federico Wulff and Chris Whitman (WSA) with Renato D'Alencon, Director of International of the School of Architecture of the Universidad Catolica of Chile-UC

Ar ddechrau mis Rhagfyr, teithiodd yr Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Cwrs MA AD Dr Federico Wulff, i Chile i gymryd rhan flaenllaw mewn dulliau dylunio pensaernïol cyfoes sy'n ymwneud â chadwraeth treftadaeth.

Roedd Dr Wulff yn y wlad fel aelod arbenigol rhyngwladol o'r Bwrdd Cynghori ar Adfywio'r campws ym Mhrifysgol Santiago de Chile-USACH. Ochr yn ochr â hyn, bu’n hyrwyddo gweithgareddau a rhaglenni Ysgol Pensaernïaeth Cymru ymhlith y genhedlaeth nesaf o Ddylunwyr Pensaernïol mewn tair prifysgol yn Chile ( Universidad Catolica de Santiago-UC- #39 Uchaf mewn cynghreiriau QS pensaernïaeth 2023, yr Universidad Catolica de Valparaiso-UCV, a'r Universidad de Santiago de Chile-USACH). Yn olaf, cyflwynodd ei ymchwil yng Nghynhadledd Chwemisol y Gymdeithas Astudiaethau Treftadaeth Beirniadol (ACHS 2022), a gynhaliwyd yn Santiago de Chile.

Mae Dr Wulff, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Pensaernïol a Threfol ac yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer yr MA mewn Dylunio Pensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, hefyd yn ymchwilydd Ewropeaidd ac yn ymarferydd sydd wedi ennill llu o wobrau. Cafodd y Grand Prix Europa Nostra 2019 (y wobr fwyaf mawreddog mewn cadwraeth treftadaeth ar y Lefel Ewropeaidd) am y gwaith adnewyddu i Fetws Palas El Partal, mosg o’r 14eg ganrif yn Alhambra (Granada, Sbaen).

Yn ystod y daith hon i Chile, llwyddodd Dr Wulff gyfrannu at y dadleuon cyfredol ar ymyriadau dylunio pensaernïol cyfoes mewn adeiladau treftadaeth trawiadol ac arwyddocaol yn y 19eg ganrif a'r 1950au, wrth gyfrannu at eu cadwraeth. Roedd y balconi enwog lle traddododd Llywydd democrataidd Chile, Dr Salvador Allende, areithiau i gymuned y Brifysgol ar ddiwedd y 1960au-dechrau’r 1970au ym mhrif adeilad Campws USACH a adeiladwyd yn y 1950au. Roedd hyn cyn ei lofruddiaeth yn 1973 a'r unben August Pinochet yn ei olynu. Dinistriodd Pinochet y balconi yn ymwybodol am ei arwyddocâd symbolaidd gwleidyddol i ddemocratiaeth Chile.

Lle ymgorfforir hunaniaeth ac arwyddocâd cenedlaethol yn y broses bensaernïol hanesyddol a chyfoes, mae meddwl am ddylunio arbenigol sy'n canolbwyntio ar ddeialog sensitif a llifo rhwng pensaernïaeth gyfoes a gwerthoedd treftadaeth o'r gorffennol yn dod yn hanfodol i anadl einioes campws y Brifysgol hon ac yn helaeth i genedl Chile.

Roedd awdurdodau Chile yn ystyried bod Dr Wulff yn gymwys iawn i ymgynghori, gan fod ganddo arbenigedd estynedig mewn dulliau, offer a thechnegau Pensaernïaeth ac Ymchwil Dylunio Trefol (AD-R / UD-R) a phrofiad a sgiliau ym maes cadwraeth a rheoli treftadaeth. Roedd ganddo hefyd gyflawniadau arobryn rhagorol mewn ymyriadau pensaernïol cyfoes mewn cyd-destunau treftadaeth a warchodir gan UNESCO.

Gwnaeth Dr Wulff gyfraniadau diriaethol at ymdrechion cadwraeth presennol. Bu hefyd yn cyflwyno yng Nghynhadledd ACHS 2022 am ei ymchwil ar adfywiad trefol ac economaidd-gymdeithasol ardal marchnad rad Barrio Franklin yn Santiago de Chile. Datblygwyd hwn ar y cyd â Dr Stefania Pareti (Uwch Ddarlithydd Economi Gynhwysol yn Ysgol Busnes y Universidad Andres Bello o Santiago de Chile) i eraill yn y maes. Cynhaliwyd 6ed Cynhadledd Chwemisol y Gymdeithas Astudiaethau Treftadaeth Beirniadol (ACHS 2022) ym Mhrifysgol Pontificia Santiago de Chile (PUC).

Siaradodd Dr Wulff am ei ymchwil am Bensaernïaeth ac Ymchwil Dylunio Trefol (AD-R/UD-R) a gymhwyswyd i Ryngddiwylliannedd, Ymfudo, Treftadaeth, a datblygu strategaethau ar gyfer adweithio trefol, cymdeithasol a phensaernïol mewn ardaloedd trefol difreintiedig. Mae rhannu gwybodaeth, technegau, ymagweddau a chymhellion ymhlith y cyhoedd ehangach a’r gymuned academaidd yn cyfrannu at ymdrechion cenedlaethol a rhyngwladol i hyrwyddo dulliau arloesol o ymdrin â phensaernïaeth gyfoes yn ei deialog sensitif i gyd-destunau treftadaeth tra’n cyfrannu at ei chadw. Dyma bwnc y mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ei ystyried yn ganolog i'w addysgu – gan ddathlu o agwedd dylunydd pensaernïol cyfoes werthoedd hanesyddol adeiladau ac amgylcheddau trefol o ddull cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y gymuned i’r dyfodol.

Bydd Dr Federico Wulff yn ymweld â Phacistan ddiwedd mis Chwefror-dechrau mis Mawrth 2023 i ganolbwyntio ar ymyriadau cyfoes yn ninas gaerog hanesyddol Lahore, prifddinas Rhanbarth Punjab. Bydd ei fyfyrwyr ôl-raddedig MA AD hefyd yn ymuno ag ef ar y daith hon ac yn elwa o'r profiad. Ar wahân i hyn, mae ei gwmni W+G Architects wedi ennill 10 gwobr gyntaf mewn cystadlaethau Pensaernïaeth Ryngwladol. Mae ei brosiectau wedi mynd i'r afael ag ystod eang o brosiectau mewn mannau cyhoeddus ( ErasForum, mannau cyhoeddus yn Sbaen), Treftadaeth (Adnewyddu mosg o'r 14eg ganrif ym mhalas Arabaidd yr Alhambra, Sbaen),yn ogystal â phrosiectau cydweithio yn Ethiopia a Moroco.

Rhannu’r stori hon