Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r myfyriwr ymchwil Mohammed Alghafis wedi ennill Gwobr Deithio Jeffrey Cook yn sgîl ei ymchwil wreiddiol

1 Rhagfyr 2022

Mohammed Alghafis receiving the Jeffrey Cook Award
Mohammed Alghafis receiving the Jeffrey Cook Award

Yn ddiweddar, cyflwynodd y myfyriwr PhD Mohammed Alghafis rai o ganlyniadau ei ymchwil yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Bensaernïaeth Ynni Isel Goddefol (PLEA), yn Chile, sydd bellach yn gynhadledd hirsefydledig, lle enillodd hefyd un o Ysgoloriaethau Teithio Myfyrwyr Jeffrey Cook.

Mae ymchwil Mohammed yn canolbwyntio ar gofnodi a gwerthuso perfformiad thermol a chanfyddiadau cyfforddusrwydd thermol trigolion tai un teulu cynhenid a chyfoes yn hinsawdd boeth a hynod sych Al-Qassim, Sawdi-Arabia.

Bellach, nid oes neb yn byw yn y tai cynhenid oherwydd bod pobl wedi symud i filâu newydd eu hadeiladu sy’n defnyddio fframiau concrid a blociau mewnlenwi. Rydyn ni’n ymchwilio i dai ond yn ceisio creu cysylltiadau rhwng yr adeiladau cynhenid hyn a chof llafar y bobl a oedd yn byw yn y tai cynhenid heb aerdymheru ac a symudodd i dai lle ceir aerdymheru. Mae'r ymchwil yn cyfuno mesuriadau gwyddonol, a wnaed yn y fan a’r lle, o dymheredd a data am gyfforddusrwydd thermol o safbwynt trigolion y tai lle y gwnaed y mesuriadau.

Mae’r wybodaeth a gasglwyd o'r astudiaeth bresennol yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o'r strategaethau addasu ymddygiadol sy'n cynnwys symudedd llorweddol a fertigol yn y tŷ. Mae hefyd yn cynnig dealltwriaeth newydd o’r agweddau ymddygiadol a diwylliannol sy'n gysylltiedig â chanfyddiad y trigolion o gyfforddusrwydd thermol. Bydd yr astudiaeth yn caniatáu’r gwaith o lunio argymhellion ynghylch dyluniad tai sy’n fwy ynni-effeithlon ond bydd ar ben hynny’n mynd i'r afael ag agweddau ar ymddygiad y trigolion; dyma'r ymchwiliad cyntaf o'i fath yn Sawdi-Arabia.

Ar ben hynny, rhoddodd Cymdeithas Addysgwyr Gwyddoniaeth Adeiladu PLEA Wobr Deithio Jeffery Cook i Mohammed am ei ymchwil wreiddiol. Er anrhydedd i'r diweddar Jeffrey Cook, mae'r ysgoloriaethau'n cefnogi treuliau teithio i gyflwyno papurau yng Nghynhadledd PLEA 2022. Mae'r ysgoloriaethau'n cael eu rhoi i ymgeiswyr cymwys o bob cwr o'r byd a gymerodd ran yn y gynhadledd.

Wrth dderbyn yr ysgoloriaeth dyma a ddywedodd Mohammed:

"Roeddwn i’n falch iawn o gael gwybod fy mod i wedi ennill y wobr. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth fy ngoruchwylwyr. Roedd y gynhadledd yn llwyfan ddelfrydol i drafod canlyniadau'r ymchwil."

Dyma a ddywedodd goruchwyliwr Mohammed, Dr Magda Sibley:

"Rwy'n falch iawn bod ein myfyriwr PhD yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Mohammed Al Ghafis (fi yw ei brif oruchwyliwr, a Dr Eshrar Latif yw ei gyd-oruchwyliwr) wedi gallu cyflwyno rhai o'i ganlyniadau ymchwil yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Bensaernïaeth Ynni Isel Goddefol (PLEA) yn Chile sydd bellach yn gynhadledd hirsefydledig. Ar ben hynny, rwy’n falch iawn ei fod hefyd wedi ennill Gwobr Deithio Jeffrey Cook. Dyma'r trydydd tro yn fy ngyrfa i un o fy myfyrwyr PhD ennill un o wobrau cynhadledd y PLEA sydd ar waith ers mwy na 36 mlynedd. Rwy hefyd yn falch o fy holl fyfyrwyr PhD sy'n gwneud ymchwil anhygoel yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru!"

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ewch i'n gwefan.

Rhannu’r stori hon