Ewch i’r prif gynnwys

Nid "anodd eu cyrraedd": buddsoddi a chynhwysiant yn allweddol os am gynnal ymgynghori cymunedol mewn ffordd wahanol, yn ôl adroddiad

13 Mehefin 2023

Tair menyw yn dal copïau o adroddiad Lleisiau Cymunedol Caerdydd.
Tîm Lleisiau Cymunedol Caerdydd (o'r chwith i'r dde) Yr Athro Mhairi McVicar, Shoruk Nekeb a Mymuna Soleman.

Mae aelodau cymunedau sy’n cael eu galw weithiau’n 'anodd eu cyrraedd' yn tynnu'n ôl, yn weithredol felly, o ymgynghori ar benderfyniadau cynllunio yn eu hardal leol oni bai bod tystiolaeth yn dangos y bydd eu cyfranogiad yn cael effaith ystyrlon ar benderfyniadau, yn ôl adroddiad newydd.

Mae adroddiad Prifysgol Caerdydd, Lleisiau Cymunedol Caerdydd, yn datgelu bod aelodau’r gymuned yn ddrwgdybus o jargon ac o oblygiadau negyddol iaith ymgynghori gan y gall y rhain greu addewidion na fyddant yn cael eu cadw, creu rhwystrau, neu gael effaith negyddol os nad oes camau gweithredu diriaethol yn ddilyniant iddynt.

Yn lle hynny, dylai cyllid ar gyfer ymgynghori fynd yn uniongyrchol i gymunedau, fel y gall gael ei arwain gan aelodau hyfforddedig o’r gymuned, aelodau y mae'r gymuned yn ymddiried ynddynt, a hynny mewn modd sy’n briodol, yn berthnasol, yn ddiddorol ac yn hygyrch i wahanol grwpiau, yn ôl yr awduron.

Dywedodd yr Athro Mhairi McVicar, Arweinydd Prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd ac un o awduron yr adroddiad: "Prif nod ein prosiect oedd gweithio gyda chymunedau i sefydlu canllawiau ar gyfer sicrhau bod ymgynghori cymunedol yn digwydd mewn modd mor effeithiol â phosibl.

"Ac mae a wnelo hynny, mewn gwirionedd, â bod cymunedau yn gwybod, i ddechrau, bod ganddyn nhw hawl i lais o ran cynllun eu dinasoedd ond eu bod yn gwybod hefyd sut i gymryd rhan yn hyn fel y gallant gael effaith ystyrlon ar unrhyw benderfyniadau am ddyfodol eu dinas."

Mymuna Soleman o’r Caffi Braint a Shoruk Nekeb, myfyriwr graddedig Ysgol Pensaernïaeth Cymru a chyd-gadeirydd Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange yw aelodau eraill Tîm Caerdydd. Bu’r tîm yn cydweithio â grŵp cynghori o sefydliadau a thrigolion lleol i sefydlu ystafell drefol ym Mhafiliwn Grange lle gallai pobl alw heibio, cyfarfod neu gynnal gweithgareddau i rannu a thrafod gwybodaeth am eu hardal leol.

Mae adroddiad Lleisiau Cymunedol Caerdydd yn rhannu canfyddiadau rhaglen blwyddyn o hyd o drafodaethau wyneb yn wyneb, ar-lein, unigol a chyhoeddus, digwyddiadau a gweithdai ar sut i gynnal ymgynghori cymunedol mewn ffordd wahanol.

Ychwanegodd yr Athro McVicar, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Yr hyn a amlygodd ei hun yn glir iawn yn ein gwaith gyda chymunedau yma yn Grangetown oedd diffyg ymddiriedaeth yn yr iaith sy’n cael ei defnyddio wrth ymgynghori, yn enwedig y farn hen ffasiwn fod cymunedau yn 'anodd eu cyrraedd'.

"Yr hyn a glywsom ni oedd nad yw cymunedau yn anodd eu cyrraedd ond yn hytrach eu bod yn dewis camu i ffwrdd oddi wrth ymgynghori os nad oes teimlad o gred neu ymddiried gwirioneddol yn yr hyn y mae’r ymgynghoriad yn ei wneud, a’i bwrpas."

Yr Athro Mhairi McVicar Project Lead, Community Gateway

Cynhaliodd y tîm arolwg ar-lein ochr yn ochr â'r ystafell drefol fel y gallai aelodau'r gymuned ddewis cymryd rhan yn y broses wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Datgelodd canlyniadau’r arolwg bod bron i dri chwarter yr ymatebwyr (73%) 'heb gael cais erioed' i gymryd rhan mewn ymgynghori ar gynllunio a bod dros hanner (54%) wedi clywed am Lleisiau Cymunedol Caerdydd drwy gysylltiad personol.

Roedd yn well gan ymatebwyr hefyd gael amrywiaeth o opsiynau ymgynghori ar-lein ac wyneb yn wyneb ac roedd y rhai a ymwelodd â'r ystafell drefol yn gwneud hynny i glywed barn pobl eraill, i gael mynediad at wybodaeth, ac i deimlo'n rhan o gymuned.

Dywed y tîm fod eu canlyniadau yn dystiolaeth bod angen meddu ar wybodaeth flaenorol am y gymuned a bod yn hyblyg wrth geisio ymgynghori ar benderfyniadau cynllunio.

Dywedodd Mymuna Soleman, Rheolwr Partneriaeth Gymunedol y prosiect: "Os ymgynghorwyd â phobl yn y ffordd anghywir a hynny dros gyfnod hir iawn o amser, mae’r bobl hynny wedi ymddieithrio'n fawr. Mae a wnelo hyn felly â meithrin perthynas â phobl yn unigol, yn hytrach na dim ond dod i mewn gydag agenda a chlipfwrdd a llechen a gofyn 'allwch chi wneud hyn a'r llall'.

"Fe ddechreuais i gyda’r rhwydweithiau hynny oedd gen i, oedd eisoes wedi'u sefydlu. Fe wnaethom ni greu platfformau cyfryngau cymdeithasol, ac fe wnes i rannu hwnnw ar fy mhlatfformau personol fy hun a fy rhestr bostio fy hun. Roedd fy mhrofiad bywyd yn llywio fy null o weithredu, a dyna pam mae’n bwysig bod y bobl iawn yn gwneud hyn o'r dechrau."

Mymuna Soleman Rheolwr Partneriaeth Gymunedol

Mae Lleisiau Cymunedol Caerdydd yn un o bedwar adroddiad sy’n cael eu cynhyrchu’n rhan o brosiect ymchwil Ymgynghori Cymunedol er Ansawdd Bywydau (CCQoL) ledled y DU, dan arweiniad yr Athro Flora Samuel.

Wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, nod CCQoL yw profi sut y gall creu gwybodaeth leol trwy ymgynghori â'r gymuned helpu i lywio penderfyniadau tymor hwy ynghylch datblygiad a gwelliannau yn y dyfodol mewn cymunedau ledled y DU.

Dyn yn gwisgo siwt yn siarad gyda dwy fenyw.
Ali Abdi yn trafod canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Lleisiau Cymunedol Caerdydd mewn digwyddiad lansio ym Mhafiliwn y Grange.

Ychwanegodd Ali Abdi, Rheolwr Partneriaeth Y Porth Cymunedol: "Pan gynhelir ymgynghoriadau mewn cymunedau amrywiol fel, yma, yn Grangetown, mae pobl yn teimlo nad oes fawr ddim adborth, os o gwbl, neu nad yw’n hawdd cael gafael arno i weld y newidiadau sy’n cael eu cynnig yn eu hardal leol, a bod yn rhan o’r newidiadau hynny.

"Mae’r adroddiad yn dangos bod yn rhaid buddsoddi ac mae’n rhaid i chi gynnwys pobl leol sy’n adnabod eu cymunedau yn dda iawn, pobl mae aelodau’r gymuned yn ymddiried ynddyn nhw. Mae'n rhaid i chi hefyd allu addasu i anghenion cymunedau trwy wneud pethau ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn mannau sydd wedi’u harwain gan y gymuned."

Ali Abdi Partnerships and Facilities Manager
Dyn mewn crys gwyn a sbectol yn dal adroddiad Lleisiau Cymunedol Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath fod Cyngor Caerdydd yn hapus i weithio gyda chymunedau lleol i lunio datblygiadau newydd yn eu hardal.

"Y math yma o argymhellion y mae angen i sefydliadau a mudiadau ddysgu oddi wrthyn nhw os ydyn nhw am i gymunedau gymryd rhan weithredol yn eu hymgynghoriadau a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yn y broses."

Mae cyfres o weithdai cyhoeddus wedi’u cynnal ers cwblhau’r prosiect, a hynny rhwng Cyngor Caerdydd a rhwydwaith sy’n dod i’r amlwg o breswylwyr a sefydliadau sydd â diddordeb mewn lansio Cynllun Lle Grangetown dan arweiniad trigolion; cynllun ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd yn ymwneud â pherchnogaeth gymunedol a phartneriaeth wrth wneud penderfyniadau ynghylch tai a mannau gwyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol Cyngor Caerdydd: "Mae cynghorwyr ward lleol, swyddogion y cyngor a minnau wedi mynychu digwyddiadau ystafell drefol ym Mhafiliwn Grange, ac rydym yn parhau i gefnogi ac ymgysylltu â Mhairi, Mymuna a’r tîm.

"Mae’r cyngor yn hapus i weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod gwybodaeth sy’n ymwneud â chynllunio a datblygu yng Nghaerdydd yn cael ei rhoi mewn ffordd sy’n ddealladwy i bawb, fel y gall aelodau’r gymuned gymryd rhan yn y broses a helpu i lunio datblygiadau newydd yn eu hardal leol."

Cynghorydd Dan De’Ath Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol Cyngor Caerdydd

Bydd tîm Lleisiau Cymunedol Caerdydd nawr yn cyfrannu at adroddiad CCQoL cenedlaethol gyda'u cymheiriaid yn Reading, Caeredin a Belfast, a byddan nhw'n datblygu côd ymddygiad ar gyfer ymgynghori yn seiliedig ar eu canfyddiadau cyfunol.

Rhannu’r stori hon

I wybod mwy am y gwaith rydym yn wneud a’r cymunedau mae’n helpu.