Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Credwn y dylai addysg prifysgol fod ar gael i unrhyw un a fyddai’n elwa ohoni. Ond yn fwy na hynny, rydym am eich galluogi i fwynhau eich profiad yma yng Nghaerdydd a chyflawni popeth o fewn eich gallu wrth astudio gyda ni.

Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau personol effeithio ar eich penderfyniad i wneud cais i'r brifysgol a hefyd bod eich amgylchiadau yn gallu newid yn ystod eich cwrs. Rydym yma i'ch cefnogi chi wrth bob cam o'ch taith gyda ni, beth bynnag fo'ch amgylchiadau.

Rydym yn helpu'r rhai sydd â phrofiad gofal, wedi ymddieithrio, â phrofiad milwrol, gofalwyr a cheiswyr lloches, trwy roi cyngor a chymorth i gynorthwyo yn ystod ac ar ôl y brifysgol.

Mwy am gefnogaeth Gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd

Rydym ni’n gweithio gyda myfyrwyr sydd ag amrywiaeth o anableddau, gan gynnwys amhariadau corfforol neu synhwyraidd, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau meddygol tymor hir a chyflyrau iechyd meddwl.

Mwy am gymorth i fyfyrwyr ag anableddau a dyslecsia

Rydym am gefnogi ein holl staff a myfyrwyr yn eu dewis o hunaniaeth rhywedd ac mae gennym ganllawiau i helpu gyda hyn.

Rhagor o wybodaeth am gymorth i fyfyrwyr sy'n ystyried ailbennu rhywedd

Gall myfyrwyr LHDT+ wynebu heriau gwahanol yn y brifysgol ac mae gennym wasanaethau i'ch cefnogi. Rydym am sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth gorau i’n holl fyfyrwyr.

Mwy am gymorth i fyfyrwyr LHDT+

Myfyriwr israddedig sy’n 21 oed neu’n hŷn yw myfyriwr aeddfed. Mae gennym nifer o wasanaethau ar gael i gefnogi eich astudiaethau gyda ni.

Rhagor o wybodaeth am gymorth i fyfyrwyr aeddfed

Whether you already have a child or are about to become a parent, we have services available to support your study with us.

More about student parents

Mae Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol lle mae llawer o wahanol grefyddau'n cael eu harfer. Dylid trin unigolion a grwpiau ag urddas a thegwch beth bynnag fo'u credoau crefyddol a/neu athronyddol.

Mwy am Gaplaniaeth y Brifysgol

Cysylltu â ni

Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)