Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer eich crefydd

University Chaplains

Mae ein caplaniaeth yn wasanaeth diogel a chroesawgar i bobl o bob ffydd a’r rhai nad oes ganddynt ffydd. Mae gennym hanes cryf o ran amrywiaeth a diwylliant, ac rydym yn croesawu myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

Beth bynnag y gallwch ei wynebu tra byddwch yn y brifysgol, boed hynny’n newid sydyn mewn amgylchiadau, colled o ryw fath neu benderfyniad anodd, gall ein caplaniaid gynnig cymorth, arweiniad a chlust i wrando.

building

Galw heibio ar ddyddiau’r wythnos

Ar ddyddiau’r wythnos, gallwch ddod i siarad â chaplan ar lawr 4 Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Nid oes angen apwyntiad arnoch.

location

Ymarfer ffydd

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau ffydd eraill yng Nghaerdydd ac yn rhoi cyfleoedd i chi ymarfer eich ffydd ac ystyried eich ysbrydolrwydd.

people

Meithrin cymuned

Rydym yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol bob wythnos yn ystod y tymor sy’n croesawu myfyrwyr o bob rhan o'r byd, waeth beth fo'u cenedligrwydd, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Maent yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr wneud ffrindiau.

Ein caplaniaeth

Mae ein caplaniaeth amrywiol at wasanaeth cymuned y Brifysgol ac yn helpu myfyrwyr i ymgartrefu a chwrdd â phobl newydd. Yn rhan o’n caplaniaeth mae caplaniaid Cristnogol (Catholig, yr Eglwys yng Nghymru (Anglicanaidd), Methodistaidd, Cristnogol Dwyreiniol), Bwdhaidd a Mwslimaidd. Mae gennym hefyd gaplan Iddewig sy'n gaplan i bob un o'r prifysgolion yn ne orllewin y DU.

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau ffydd eraill yng Nghaerdydd ac yn croesawu myfyrwyr o bob rhan o'r byd, waeth beth fo'u cenedligrwydd, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydym wedi ymrwymo i annog trafodaeth rhwng myfyrwyr, beth bynnag fo’u ffydd a’u cefndir.

Bydd ein caplaniaid yn:

  • gwrando heb farnu
  • eich annog i ddatblygu a dod i adnabod eich hun
  • eich cefnogi am faint bynnag o amser sydd ei angen

"Mae'r gaplaniaeth wedi bod yno i fi ar rai o'r adegau mwyaf anodd. Mae hefyd wedi fy helpu i wneud ffrindiau gwych."
Will Moore, un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Gweithgareddau

Mae pob un ohonom yn cynnig cyngor a chymorth, yn cefnogi grwpiau o fyfyrwyr ac yn trefnu rhaglenni rheolaidd o addoli, darlithoedd ac allgymorth i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, yn ogystal â digwyddiadau llawn hwyl y gall pawb gymryd rhan ynddynt.

Ar ddyddiau’r wythnos, mae croeso i chi alw heibio a sgwrsio â’r caplan sydd ar ddyletswydd ar lawr 4 Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Dod o hyd i bobl eraill sy'n rhannu eich ffydd

Gallwch ymuno â gwahanol gymdeithasau crefyddol sy’n rhan o Undeb y Myfyrwyr. Mae’r cymdeithasau hyn yn cynrychioli pob math o ffydd, gan gynnwys Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth.

Mae mannau addoli ar gyfer pob prif grefydd a ffydd i’w cael yn y ddinas. Mae gan y gaplaniaeth wybodaeth am bob eglwys leol, synagogau, teml ac addoldai eraill o gwmpas Caerdydd.

Ystafelloedd tawel

Mae nifer o ystafelloedd tawel wedi’u cadw ar Gampws Cathays a Champws Parc y Mynydd Bychan at ddibenion gweddïo, myfyrio, ystyried a meddwl neu, yn syml, gael amser tawel. Mae ystafell dawel hefyd ar gael bob dydd yn ystod y tymor, a hynny yn Y Lolfa ar lawr 3 Undeb y Myfyrwyr ac ar lawr 4 Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Cysylltu â ni

Caplaniaeth, ffydd a chrefydd